Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

PULPUD YR WYTHNOS.

Advertising

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

foeswersi byw a naturiol, gan dynnu gwen a deigryn bob yn ail. Tra ceir y fath hyawd- iledd a hyn o'r pulpud na sonier am ragor- iaethau yr hen dô, nac am unrhyw ddirywiad yn y pulpud. CYNGHERDD MOORI'IELDS.Ananil y ceir cyngherdd yn rhanbarth ddwyreiniol y ddinas mor uwchraddol a'r hwn a gaed nos lau diweddaf yn nghapel y Bedyddwyr, Little Alie Street. Yn wir, pan ystyriom y niter fechan ddaeth ynghyd, yr oedd yn ,edrych yn fath 0 wastraff ar dalentau disglair. Canwyd gan Misses Maggie Davies a Gwladys Roberts, a Mri. David Evans a Gwilym Richards, a rhoddwyd adroddiadau gan y Proffeswr Seymour. Caed detholiad -campus hefyd gan y cantorion, er efallai y gellid ystyried rhai o'r caneuon yn rhy glasurol am y noson. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. John Hinds, yr hwn a ddatganodd •«i lawenydd wrth weled y fath olwg lewyrchus .ar y lie a'r gynulleidfa. Am y cantorion eu hunain, nid oes angen dyweyd eu bod yn dda, a haeddent lond y capel i wrando ar eu halawon melus. Cyn dechreu y cyfarfod rhoddwyd te i'r dieithriaid yn serchog gan Mr. a Mrs. Ben Jones—caredigion parod i'r .achos yn y lie. MOORFIELDS.—Cynhaliwyd cyfarfodydd pregethu blynyddol Little Alie Street Sul diweddaf. Cafwyd pregethau hynod o .afaelgar gan y Parch. J. R. Evans, Llwyn- hendy. Cymerwyd lIe "Gwili" gan Mr. Vernon Lewis, B.A.,B.D,, Rhydychen. Bydd yn ddrwg gan liaws cyfeillion "Gwili" glywed ei fod wedi ei gymerwyd yn wael iiawn. Hyd foreu dydd Sadwrn bwriadai ddyfod i Lundain, ond aeth i ymgynghori a'r meddyg. Synnodd hwnnw yn fawr ei weled allan, a gorchmynodd iddo fyned ,adref i Gaerdydd ar unwaith, ac felly yr aeth nos Sadwrn. Mawr hyderwn y caiff adferiad buan a chyflawn, ac y caiff ddych- welyd i Rydychen at ei hoff waith.