Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. CYMANFA'R SULGWYN.—Heno, nos Sadwrn dechreuir y gyfres cyfarfodydd pregethu yng nghapel y Boro, a pharheir hwy dros y Sul ac ar nos Lun. Er fod llawer wedi myned tua'r wlad mae disgwyliad y ceir cynulliadau llawn eleni. GWIBDAITH Y LLUNGWYN.—Trefnir gwib- daith arbennig i Brickett Wood ar y Llun nesaf gan gyfeillion y Tabernacl King's Cross. Mae'r lie yn eir iddo yn un dymunol iawn, mewn ardal wledig brydferth, ac yn cynnwys digon o gyfleusterau i lochesu ynddynt os digwydd i'r bin droi'n an- ffafriol. Mae'r pris yn ddigon rhad hefyd am ddiwrnod yn y wlad, a gall pawb a hoffa ymuno a'r cwmni sicrhau tocynau oddiwrth y cyfeillion yn yr orsaf foreu Llun ar adegau y trens. CYFARFODYDD MAL-Ar wahan i rai cyf- eiriadau ar fater y Ddiwinyddiaeth Newydd nid yw'r cyfarfodydd hyn eleni wedi bod yn rhyw fywiog iawn. Dangosant oil fod llawer iawn o waith yn cael ei wneud mewn gwa- hanol gyfeiriadau er puro a gwella cym- deithas, ond mae llawer eto i'w gyflawni cyn ennill y byd i Grist. YN BUSHEY PARK.—Lie hyfryd, ger Hampton Court, yw hwn, a man dymunol i dreulio diwrnod gwyl. Prydnawn Sadwrn diweddaf aeth haid o Ramblers King's Cross yno, tan arweiniad Mri. Watkin Jones a J. S. Williams. Caed hin hafaidd, a sicr- hawyd tram trydanol o Shepherds Bush, yr hwn a wnaeth y daith ymhen rhyw awr a hanner. Ar ol cyrraedd pen y daith eisteddodd rhyw 70 o fechgyn a merched i fwynhau pryd o de moethus, ac ar ol hynny treuliwyd teirawr ddifyr yn nhawelwch y pare. Nis gellid dymuno diwrnod na man mwy wrth fodd calon yr ymwelwyr, a phrofiad yr oil ar derfyn y dydd oedd, eu bod wedi cael gwyl hynod o bleserus. GARDDWYL.—Nos Sadwrn diweddaf rhodd- odd Mr. a Mrs. Howell J. Williams arddwyl arbennig i aelodau Undeb y Cymdeithasau Diwylliadol ac ereill yn eu cartref hardd yn "Penrhyn," 263, Camden Road. Daeth torf o 600 i 700 o bersonau ynghyd a chroes- awyd hwy yn siriol gan y Cynghorwr poblog- aidd a'i briod hygar. Yr oedd ystafelloedd y cartref hardd wedi eu hagor i'r gwahodd- edigion, ac yn yr ardd 'roedd tent eang wedi ei chodi yn yr hon y dyddorwyd cannoedd o'r Cymry gan araith a chan o 8 i 10.30 o'r gloch. Canwyd gan Miss Towena Thomas, Mr. Glyn Davies, a phartion o wahanol eglwysi, a thraddododd Mr. Herbert Lewis, A.S. anerchiad hapus i'r dyrfa, yr hon a fawr fwynhawyd. Cydnabyddai Mr. Lewis fod yr Undeb yn gwneud gwaith rhagorol yn Llundain i uno'r gwahanol bleidiau eglwysig, ac fod sectyddiaeth yn beth dieithr o fewn ei phyrth hi. Ym mysg y cwmni fuont ar ymweliad a'r lie roedd Mr. T. H. W. Idris, A.S.. a Mr. Clem Edwards, A.S. Hir y cofir gan Gymry ieuainc y ddinas am sirioldeb a charedigrwydd Mr. a Mrs. Williams ar yr achlysur hwn. EISTEDDFOD JEWIN.—Dygwyd tymor cym- deithas Lenyddol Jewin i derfyn nos Iau yr wythnos ddiweddaf, trwy gynnal cyfarfod cystadleuol ar raddfa eang yn y lie. Er fod atyniadau ereill ymysg y Cymry ar yr un noson, llwyddwyd i gael cynulliad tra bodd- haol a llawer o frwdfrydedd ymhlith y cystadleuwyr lliosog. Llenwid y gadair gan yr hen lenor profedig, Iorwerth Ceitho, y gwr a gipiodd yr hanner can punt yn yr Eisteddfod Genedlaethol ddiweddaf, ac yn ychwanegol at ei rodd haelionus i gyllid y gymdeithas, rhoddodd araith gefnogol i'r ieuenctyd oedd wedi dod ynghyd. Yn arweinydd, caed y diddan D. R. Hughes, a chadwodd y cwrdd mewn hwyl a gwaith o'r dechreu i'r diwedd. Y Beirniaid oeddent: Cerddoriaeth, Mr. J. B. Sackville Evans Barddoniaeth, Parch. Machreth Rees Llen- yddiaeth, Mr. T. Huws Davies; Gwniad- waith, Mrs. J. E. Davies a Mrs. Job, a gof- alwyd am y cyfeiliant gan Mrs. D. R. Hughes a Miss Lucretia Jones. Y Buddug- wyr.—Dyma restr o enwau'r buddugwyr: Unawd i blant dan 8 oed 1, Miss Lizzie Morgan, Jewin; 2, Miss Gwen Morgan, Jewin. Unawd i rai dan 12: 1, Miss Getta Morgan; Miss Annie Morgan, Jewin. Adroddiad i blant: 1, Willie Davies, Jewin 2, Dickie Davies a Cassie Jones yn gyfartal. Brush and comb bag: Mrs. Price, Union Road. Unawd soprano: Rhanwyd rhwng Miss Mary Morgan a Miss Lalla Thomas. Unawd contralto Miss Mary Thomas. Dau bennill disgrifiadol o Jewin Newydd Goreu, "Homer," ond ni atebodd i'w enw. Unawd tenor, Mr. B. D. Jones, King's Cross. Adroddiad Saesneg: Miss Maggie Jenkins, Jewin, a Miss Setchel, Central Foundation School yn gyfartal. Unawd baritone Mr. J. Hughes, City Road. Prif draethawd: Mr. J. Thomas, Jewin. Pianoforte cover: Mrs. A. R. Jones, Jewin. Deuawd, Y Glowr a'r Chwarelwr": Mr. Lloyd Jones, Shirland Road, a Mr. Waters, King's Cross. Champion solo, Tad yr Amddifad." Dim ond tri ddaeth ym mlaen, a dyfarnwyd Miss Annie Thomas, Morley Hall, yn oreu. Araith ddifyfyr, Mr. Ebenezer Hughes, City Road. Ar derfyn y gwaith talwyd diolch parod i'r cadeirydd a'r arweinydd am eu gwaith ynglyn a'r cyfarfod, mewn areithiau edmygol gan Mri. David Edwards a Ben Harris. WALHAM GREEN.- Gyiiiticithas Ddirwestol y 1IIerched.-0 dan nawdd y Gymdeithas hon, caed cyfarfod amrywiaethol tra llew- yrchus nos Iau, y 9fed eyfisol. Cymerwyd y rhan fwyaf blaenllaw ynddo gan blant yr eglwys, yn cael eu cynorthwyo gan amryw ereill. Gwnaeth y plant eu rhan yn rhag- orol iawn, ac y mae y rhai fu yn llafurio gyda hwynt yn ystod yr wythnosau aethant heibio i'w llongyfarch wrth weled y fath lwyddiant sydd eisoes yn ffrwyth eu hym- drechion. Cyn y cyfarfod rhoddwyd Te a danteithion trwy garedigrwydd Mrs. Oliver a Mrs. Spencer Evans. Yn y cyfarfod cym- erwyd y gadair gan Mrs. Timothy Davies, yr hon a lywyddodd yn ei dull deheuig arferol. Gan fod y cyfarfod i gyd o nodwedd ddir- westol, yr oedd yn llawen iawn gennym glywed y fath anogaethau a chynghorion amserol i'r cyfeiriad hwnnw yn cael eu rhoddi o'r llwyfan. Mae clod mawr yn ddyledus i Miss Mary Jones, King's Road, am drefnu'r fath gyfarfod llwyddianus. GWLEDD A CIIAN.-Nos Fawrth yr wythnos ddiweddaf, rhoddodd Mr. a Mrs. Madoc Davies wledd ardderchog i Gor Croes y Brenin a'u cyfeillion. Dangosodd Madoc pan ymddiswyddodd, o fod yn arweinydd y gan ar ddyfodiad Mr. D. Richards yn or- ganydd ac yn arweinydd yn ei le ei fod mewn cydweithrediad perffaith a'r cynllun. Faint o'n harweinyddion a wnelai hyn heb ddigio yn arw a rhoi ffarwel a phwdi am byth Mae Madoc yn ei le gyda'r basswyr, fel arfer, ac i goroni y cyfan, dywedodd noson y wledd nas gallau feddwl am ymadael byth ag Eglwys Croes y Brenin, gan ei bod mor agos at ei galon ac iddo dreulio rhan orau o'i oes ynddi. Yr oedd ef a'i briod yn gweini ar y cor, fel y gallasem weled calon mewn gwaith. Ar ol y wledd cafwyd cyngerdd, a chymerwyd rhan ynddo gan y rhai canlynol: Mr. Madoc Davies, Miss- Winnie Evans, Mr. Dafydd Walters, Mr. Stanley Davies, Mr. Gregory Kean, Mr. Pugh, a pharti bechgyn Croes y Brenin. Ar y diwedd talwyd diolch cynnes i Mr. a Mrs. Davies gan Mr. Glyn Evans ac ereill ar- ran y cynulliad. G. K. DEWI SANT, PADDINGTON.—Cyfarfod Pre- gethu Blynyddol.—Cynhaliwyd hwn fel ar y Sul cyntaf o Fai, ynghyda'r nos Lun can- lynol, pryd y pregethwyd gan y Parch. D. Jones, Ficer Abererch. Cafwyd gwasan- aethau gwresog, cynulleidfaoedd mawrion, a phregethau grymus. Trodd yr hin hefyd allan yn hynod ffafriol. Yr oedd y gwas- anaeth prydnawnol o nodwedd gerddorol, pryd y cafwyd caneuon cyssegredig gan y rhai canlynol :-Misses Nancy Parry, Lizzie Davies, Mri. Tom Jenkins, Humphrey Pierce, Daniel Jones, Griffith Ellis James, ynghyd a violin solos gan Mr. Theodore Louis. Can- wyd hefyd yr anthem 0 Arglwydd ein lor," dan arweiniad medrus ein horganydd" Mr. Vincent Davies, a chafwyd anerchiad hynod bwrpasol ar "Addoliad," gan y Parch. D. Jones. Cymerwyd y gwasanaeth hwyrol gan y Parch. Killin Roberts, Ficer Hertford, yr hwn a ddigwyddodd fod ar ym-

Advertising