Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. CHWAETH MEWN CERDDORIAETH (PARHAD).— Yn y fan hon rhaid dyweyd fod chwaeth y Dwyreiniwr yn wahanol iawn i'r eiddo y Gorllewinwr. Clywsom fintai o Chwareu- wyr y Brenin," o Siam, yn chwareu yn y ddinas hon flynyddau yn ol, ac ymddangosai y gerddoriaeth i ni yn hollol ddi-bwynt a di- amcan—fel, yn ddiau, yr ymddangosai ein cerddoriaeth ni i'r fintai y cyfeiriwyd ati. Gwyddom am Japs yma sydd wedi dod i hoffi cerddoriaeth Seisnig yn fawr, yr hyn a brawf mai ymarferiad a cherddoriaeth gwlad ac astudiaeth sydd yn meithrin chwaeth at y .cyfryw. Gwelir, felly, mor bwysig ydyw i gerdd- hoffwyr ddod o dan ddylanwadau y Gerdd- oriaeth oreu, buraf! Canys er nas gallant drosglwyddo eu chwaeth i'w hiliogaeth a'r rhai fuont o dan eu dylanwad, y maent yn sicr o drosglwyddo tuedd, fwy neu lai gref, at Gerddoriaeth—ac fe ddichon at y math o gerddoriaeth apeliai yn fwyaf arbennig atynt hwy. Os yw hyn yn wir, y mae yn bwysig iawn i rieni feithrin chwaeth at gerddoriaeth deilwng, canys yn y man gwelir ffrwyth hyn yn eu disgynyddion. TENOR NEWYDD.—Y mae tram conductor yn Wakefield newydd brofi fod ynddo ddefnydd cantor rhagorol. Gwneir ym- drech i'w alluogi i fyned o dan addysg briodol, a chredir y ceir ynddo ail Sims Reeves. Nid dyma'r cyntaf i gael ei ddargan- fod." Daeth gweithiwr ochr y ffordd i -enwogrwydd sydyn fel tenor, amser yn ol, ac .aeth ar y stage yn ei ddillad gwaith. Y mae rhai merched hefyd yn myned oddiamgylch i ganu yn union o'r ystryd," fel y dywedir, ond ni thybiwn y bydd eu llwyddiant yn un hir. Rhaid wrth addysg briodol; a da gennym y gofelir y bydd i'r tenor y cyfeir- iwyd ato gael y cyfryw. ST. PADARN, HOLLOWAY.—Cawsom gyfran o'r cyfarfod cystadleuol hwn, yr wythnos ddiweddaf. Gwobrau bychain a roddid, ond yr oedd y cystadleuwyr, serch hynny, yn lliosog a da. Peth calonogol iawn ydyw hyn; ond gresyn gorfodi'r gwrandawyr i glywed pob cystadleuydd. Dylasid, yn ol pob rheswm "chwynnu"—fel y mae arfer gwneud, mewn cyrddau ereill o'r fath. Da chwi, frodyr St. Padarn, ceisiwch drefnu hyn yn y dyfodol! Am ganu Mi glywaf dyner lais," allan o naw, cipiodd y ferch fach, Lizzie Davies, Camberwell, y wobr gyntaf, a Winifred Price, Paddington, yr ail wobr. Rhoddwyd gwobr ychwanegol i Nellie Edwards, Paddington. Credwn fod dyfodol yn aros Lizzie Davies. Y mae ganddi lais pur a swynol, ac y mae ei darlleniad yn dangos ol chwaeth a meddylgarwch. Am ganu Yr Hen Gerddor," gwobrwywyd Miss Hannah Davies, Dewi Sant, allan o ddeg. Rhai yn ddigon da i'w gwrandaw a rhai, ddim felly, yn y gystadleuaeth hon. Pump yn yngeisio ar £ i Dim ond deilen," goreu, John Hughes, City Road. Am dano, dywedai y beirniad good rendering; excellent throughout. -Music clear and clean good time. Bu pedwar parti yn ymgeisio ar Aber- ystwyth," ac yr oedd parti St. Mary, Camber- well, yn orchfygwyr teg. Ar y ddwyawd, Gwys i'r Gad," cafwyd cryn ganu, ond nid llawer o deilyngdod. Mr. John Hughes, City Road, a Mr. Phillips, o Jewin, oedd y buddugwyr. Ar y pedwarawd Y Bwthyn ar y Bryn" yr oedd dau barti yn Sydradd-sef two and two," o'r East End City Mission, a'r Walham Green party. Y Parch. Lumley Davies ydoedd y beirn- iad, ac yr oedd yn amlwg gydwybodol yn ei waith. Cyfeilyddes, Miss Nancy Pierce.
BETH DDAETH O'R DIWYGIAD ?
BETH DDAETH O'R DIWYGIAD ? (Gan CEMLYN). Gofynir yn ami beth sydd wedi dod o'r Diwygiad Crefyddol roddodd gymaint o hynodrwydd ar ein gwlad flwyddyn neu ddwy yn ol. Atebir y gofyniad yn gyffredin gan ddau ddosbarth o ddynion, ac y mae gan y naill a'r llall ei ffordd ei hun i wneud hynny. Dywed un ei fod wedi diflannu mor sydyn ag yr ymddangosodd, a'i fod wedi gadael yr eglwysi ar draethellau oeraidd, difywyd, heb unrhyw argoel y bydd iddynt gael dyfroedd nofiadwy eto; yn wir, aw- grymir fod yr eglwysi wedi mynd yn fwy materol nag oeddynt, ac mai eu hunig gyn- ysgaeth ydyw gwrthweithrediad ar ol gor- frwdfrydedd y Diwygiad. Addefa'r dos- barth arall fod llawer o'r brwdfrydedd wedi mynd i golli, fel y gallesid disgwyl, ac fod bagad o'r afradloniaid ddaeth i'r eglwys wedi mynd yn ol at eu hen gyfoedion, ac wedi ymgolli unwaith eto yn yr hen ddull o fyw; ond maentumir fod yr eglwysi wedi cadw sylwedd y Diwygiad, ac fod llawer o'r afradloniaid ddaeth i mewn gyda'r llanw mawr yn aros, heb golli nemawr o'r tan- beidrwydd a'u nodweddai. Nid wyf yn proffesu gwybod beth yw profiad gwahanol eglwysi ar hyd a lied y wlad, ond gwn am ami i eglwys oedd yn ddigon ffurfiol sydd wedi cadw ireidd-dra y Diwygiad, ac am bulpudau ysbrydolwyd gan y bedydd tan." Yn y Deheudir. Mwy na hynny, gwn am un eglwys yn Nghaerdydd a'i chyrddau gweddi a'i seiadau yn dod beunydd dan y gawod, "fel gwlith neu dyner wlaw." Ond y mae swn yn mrig y morwydd eto mewn amryw fanau, a hiraeth yr Eglwys am gawod faethlon arall yn cael ei angerddoli, a'r argaeau yn torri ar ambell achlysur. Felly y bu yng Nghym- deithasfa'r Bermo, ac eilwaith yng nghwrdd blynyddol Methodistiaid Trecynon. Ond efallai na welwyd, o fewn y misoedd di- weddaf o leiaf, ddim yn gyffelyb i'r hyn gymerodd le yn Abertridwr Sul cyn y di- weddaf, ac amheua llawer a fu ei gyffelyb hyd yn oed ar ben llanw'r Diwygiad. Gyda bod y gweinidog (y Parch. J. 0. Hughes), yn cymeryd ei destyn oddiar y geiriau, Daeth gwraig ato a chanddi flwch o enaint gwerth- fawr, ac a'i tywalltodd ar ei ben "—gyda'i fod yn dweyd y geiriau cododd y gynull- eidfa o saith gant o bobl ar ei thraed, a chanwyd yr hen emyn— Henffych i enw Iesu gwiw —drosodd a throsodd gyda hwyl nefolaiddj a thorodd merch ieuanc allan i ganu eil- waith, 0, yr Oen, yr addfwyn Oen," gyda theimladau drylliog, a'r gynulleidfa enfawr yn foddfa o ddagrau. Yn ystod blwyddyn o amser y mae rhif yr eglwys hon wedi cyn- yddu o 150 i 400, a llawer o ddychweledig- ion yn troi i mewn yn barhaus. Efallai na ellir gwneud dim yn well na chrybwyll yr engraifft ddiweddaf hon i'r bobl hynny sydd beunydd yn gofyn, Beth ddaeth o'r Diwygiad ? Dirywiad y Gogledd. Gellid ychwanegu engreifftiau ereill i ddangos nad yw'r Diwygiad yn ei ddylan- wadau iachusol wedi ymadael a llawer ardal ond mae'n ymddangos nad yw'r Gogledd, o leiaf, wedi dysgu gwersi'r Diwygiad fel y Deheubarth, ac fod llawer o'r eglwysi wedi neu yn syrthio'n ol i'w hen ffurfioldeb, a phob ffurf ar snobyddiaeth yn uchel ei fri. Yng nghwrs ymdrafodaeth yng Nghynghrair Eglwysi Rhyddion y Gogledd ar y buddiol- deb i sefydlu cymdeithasau i ferched ieuainc yr eglwysi, ymosododd Dr. Griffith Evans, Bangor, ar ddrygau ffurfioldeb a snobydd- iaeth, a dywedai fod y naill a'r llall i'w weled yn amlwg yn yr Eglwysi Rhyddion. Cyn y Diwygiad ffurfiwyd Cymdeithas Gristionogol y Merched Ieuainc ym Mangor, a'r anhawster deimlwyd fwyaf ydoedd nad oedd merched y siopau yn dangos unrhyw barodrwydd i ymgyfathrachu a merched mewn gwasanaeth fel morwynion. Snobyddiaeth. Bu'r Diwygiad yn foddion i yrru ffurfiol- deb a snobyddiaeth ar ffo, ond ofnai fod gwrthweithiad wedi dechreu cymeryd lie yn barod. Yr oedd yr un ffurfioldeb yn y gwasanaeth," meddai, yr un ffurf y boreu, y prydnawn, a'r nos, ym mron fel peiriant; a gallai un yn hawdd fyned i gysgu. Daeth y Diwygiad i dorri i lawr yr hen arfer farw- aidd honno, a gobeithid y ceid gwell cynllun ar ol hynny. Yr oedd efe yn meddwl y dylai yr eglwysi edrych ym mha ffordd y gallent wylio rhag syrthio i'r hen arfer farwaidd honno. Paham y mae eisieu yr un cylch rheolaidd o wasanaeth, yr oil yn dechreu ac yn diweddu yr un fath ? Yr Hen Arferion. Paham y mae eisieu pregethau hirion? Paham na roddid cyfleusdra i'r lleygwyr fyned i'r pulpud, a gofyn cwestiynau? Wedi hynny, dyna'r eisteddleoedd-hoffai ef eu hysgubo ymaith yn hollol, a chychwyn rhyw symudiad yn y gynnulleidfa. Paham yr oedd eisieu i'r bobl eistedd yn yr un lie, ac yn nesaf at yr un bobl? Boed iddynt gymysgu y bobl a'u gilydd." Rhaid fod yr eglwysi wedi mynd yn gaeth iawn i ffurf- ioldeb os oes eisieu moddion mor eithafol i'w meddyginiaethu ond fe wyr y cyfarwydd yn eithaf da fod yr hen ellyll hwnnw —snobyddiaeth—yn fwy ei barch ym man drefi y Gogledd nag yn unrhyw ran o'r wlad, ac y bydd yn rhaid trwytho'r eglwysi gan ddiwygiadau grymus cyn y bydd iddo roddi yr orsedd i fyny i gydraddoldeb plant ar yr un aelwyd, beth bynnag fo eu ham- gylchiadau bydol.
[No title]
MAE can mlynedd er y sefydlwyd yr achos Wesleyaidd Cymreig yn Llundain. NID yw pobl Llangollen yn myned i werthu diodydd meddwol yng nghae yr Eisteddfod yn 1908. Beth ddywed y beirdd am hyn ? YR OEDD pabell o dan nawdd Cymdeithas Ddirwestol Merched Cymreig Llundain ar Hampstead Heath ddydd Llun diweddaf. Gwerthid ynddi bob math o ddiodydd dir- westol a bwydydd addas i ymwelwyr a'r lie prydferth hwn. CAIFF Mr. J. D. Rees ddigon 0 gyfleus- derau yn awr i ddangos ei wybodaeth o'r India a'i phobl. Rhydd y trafferthion yn y wlad honno ddigon o fanteision iddo gwesti- yno Mr. John Morley yn ddibaid. MEWN ardal wledig yng Nghymru y dydd o'r blaen, enwyd Mr. D. A. Thomas, A.S., fel gwr addas i holi'r pwnc yn y Gymanfa ysgolion leol. Dywedai ei gefnogydd ei fod wedi profi ei hun yn holwr diail yn y Senedd. Dywedir mai'r Anibynwyr sydd fwyaf eu cri am gael Historical Evidence ger bron y Ddirprwyaeth Eglwysig. Byddai yn ddyddorol gwybod pwy a benodent i roddi Hanes yr enwad. Gallai'r Barnwr Vaughan Williams gael tridiau tra dyddorol pe galwai ar Beriah Evans a J. Morgan Jones o'i flaen, un i ddadleu tros yr Anibynwyr a'r Hall tros y Methodistiaid.