Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. Y TYWYDD.—Pa un ai'r tywydd ai'r almanac oedd ar gyfeiliorn ddechreu'r wythnos hon ? Caed tywydd addas i'r Nadolig, ond tystiai'r almanac ei bod yn adeg y Sulgwyn. CRWYDRIAID. Cafodd y gwib-deithwyr wyliau oer yng Nghymru, ac mai llawer o honynt wedi dychwelyd i Lundain yn di- oddef tan anwyd trwm. Y LLUNGWYN.—Caed cynulliadau mawr yn y pleserdeithiau Cymreig ddydd Llun ar waetha'r hin. Yn Brickett Wood y bu rhyw bum' cant o bobl Jewin a King's Cross yn mwynhau difyrwch yn yr awyr agored. Aeth ysgolion ereill i Boxmoor, Stanmore, a Pinner, ac er i'r gwlaw gadw draw, gyrrodd yr oerfel hwy oil adref i'r ddinas yn gynnar yn yr hwyr. CYNGHERDD. Rhoddodd Madame Clara Novello Davies gyngherdd arbennig yn Bechstein Hall ddydd Mawrth diweddaf. Cymerwyd rhan ynddo gan nifer o'i hefryd- wyr mwyaf addawol, ac 'roedd yn amlwg fod ganddi ar hyn o bryd amryw o gantorion lied addawol tan ei gofal. Mae Mrs. Davies yn dod yn enwog fel athrawes lwyddianus iawn ym myd y gan. CYRDDAU MAWR."—Caed odfeuon Dawn iawn yn y Boro' ar adeg y Sulgwyn, pryd y gwasanaethwyd gan y Parchn. Peter Price, Dowlais, a D. Stanley Jones, Caernarfon. Mae Stanley yn un o atyniadau y pulpud anibynol yn Llundain, a cha gynulliadau mawr iawn bob tro yr ymwel a'r ddinas. Yr oedd y pregethau yn nerthol ac yn gymer- adwy iawn. ANRHYDEDDU CYMRAWD.—Un o'r Cymry sydd wedi gwneud enw iddo ei hun yn Australia yw'r Anrhydeddus W. M. Hughes —aelod o'r Senedd yn West Sydney. Efe oedd cynrychiolydd y dalaeth yn y cynhad- leddau a gaed yr wythnos ddiweddaf yma yn Llundain ynglyn a masnach, ac edrychid arno fel un hyddysg a galluog fel gwleidd- yddwr a masnachwr. Cyn ei ddychweliad i Australia penderfynodd ei gydgenedl yn Llundain roddi ciniaw iddo, a threfnwyd i'r cynulliad gymeryd lie ddydd Gwener, yr wythnos hon, yn y National Liberal Club, tan lywyddiaeth y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd-George, A.S. Yn Haw Mr. Vincent Evans yr oedd yr holl gynlluniau fel arfer, a gwyr pawb am ei fedr ynglyn a chyfarfod o'r fath. DEWI SANT, PADDINGTON.-Marwolaetli- Gyda theimlad dwys y cofnodwn yr amgylch- iad pruddaidd o farwolaeth ddisymwth Mr. John Pierce, Church House, Paddington, yr hyn a gymerodd le bore dydd Sadwrn, Mai 18, yn Ysbytty Holloway. Tra yr oedd Mr. Pierce yn dychwelyd oddiwrth ei waith, nos Wener, tarawyd ef yn anymwybodol ar yr ystryd gan effeithiau hen afiechyd oedd wedi gafael yn ei gyfansoddiad ers rhai misoedd. Clud- wyd ef ar unwaith i'r ysbytty, lie y tynnodd ei anadl olaf tua phedwar o'r gloch y boreu. Yr oedd Mr. Pierce yn un o aelodau hynaf a pharchusaf Eglwys Paddington. Efe oedd un o'i cholofnau cryfaf, ac y mae y golled ar ei ol yn drom. Bydd y bylchau y mae ei farwolaeth wedi achosi yn hir cyn eu llenwi. Bu yn arolygwr yr Ysgol Sul amryw droion. Yr oedd yn aelod o'r Cyngor Eglwysig, ac o'r cor canu. Efe ydoedd dechreuwr canu yn yr Ysgol Sul a chyfar- fodydd crefyddol yr wythnos. Y Sul cyn ei farwolaeth, bu yn darllen y llith gyntaf yng ngwasanaeth y boreu, a derbyniodd yn yr un gwasanaeth ei gymun olaf. Bu yn holi yr ysgol yn y prydnawn ac yn codi y canu yno, ac yn yr hwyr drachefn yr oedd yn ei le yn y cor, ac yn uno yn wresog yn y gwasanaeth. Dyn tawel ydoedd o ran ei natur-carwr heddwch a thangnefedd. Mawr fu ei ffydd- londeb ynglyn a'r Eglwys Gymraeg yn Paddington. Gadawodd weddw a saith o blant i alaru ar ei ol. Ceir manylion am y gladdedigaeth yn y KELT nesaf. BRUNSWICK.—Cynhaliwyd cyfarfod pre- gethu blynyddol y lie uchod ar y Sul a nos Lun, Mai 12 a'r 13. Gwasanaethwyd gan y Parchn. David Morris, Bagillt, a J. Thickens, Willesden Green, dau wr dieithr i'r rhan fwyaf o Gymry Llundain. Dyma'r tro cyntaf i Mr. Morris ddod i fynu i'r ddinas ond nid dyma'r tro diweddaf caiff groesaw mawr eto, yn arbennig gan y rhai fu yn gwrandaw ei weinidogaeth rymus yn Brunswick. Y mae Mr. Thickens wedi dyfod i fugeilio Eglwys y Methodistiaid yn Willesden Green, ac os medr fugeilio yn gystal ag y gall bregethu, gallwn broffwydo fod dyfodol dysglair i'r eglwys sydd dan ei ofal. Da gennyf allu dyweyd-medd ein gohebydd lleol-i ni gael cyfarfodydd hynod o lwydd- iannus. Yr oedd yr hin yn ffafriol, y cynull- iadau yn lliosog, a'r casgliadau yn rhagorol. Da gennym allu dyweyd fod yr achos yn myned ar gynnydd yn gyflym yn Brunswick —rhyw rai o'r newydd bron bob wythnos. CANGEN WESLEYAIDD.—Y mae'r brodyr Wesleyaidd wedi agor cangen newydd yn Fulham Road i fod yn fath o feeder i gapel Brunswick. Maent eisoes wedi cynnal tair oedfa yno. Pregethwyd y ddwy noson gyntaf gan y Parch. Thomas Jones, City Road, a'r noson olaf gan Mr. David Owen, Russell Gardens. Cynhelir yr oedfaon ar nos Wener, yn dechreu am 7.30 p.m. Pregethir nos Wener nesaf eto gan y Gweinidog. Y mae y rhagolygon yn hynod o ffafriol. CITY ROAD.-Nos Sadwrn, y Sul, a nos Lun a nos Fawrth nesaf. Cynhelir cyfar- fodydd ail-agoriadol y lie hwn ar ol ei ad- newyddiad diweddar. Mae'r frawdoliaeth yno wedi sicrhau gwasanaeth y Parchn. R. Morgan, Caernarfon, ac 0. Madoc Roberts, Towyn; a diau y ceir cynulliadau teilwng o'r achos a'r pregethu yn yr oedfaon blynyddol eleni eto. ST. PADARN, HOLLOWAY.—Nos Iau, y 16eg cyfisol, cynhaliwyd Cyfarfod Cystadleuol, o dan nawdd yr eglwys uchod, yn Emmanuel's Hall, Hornsey Road. Teimlid cryn bryder am ei lwyddiant oblegid prinder yr amser i wneud y cyfarfod yn hysbys, ac i baratoi ar ei gyfer. Ond gweithiwyd yn egniol gan yr Eglwys, a chafwyd cynorthwy syl- weddol gan ereill a throdd yr anturiaeth allan yn llwyddiant perffaith. Cafwyd cyn- ulliad rhagorol a chystadleuaeth uwchraddol. Cadeiriwyd gan John James, Ysw., Com- mercial Road, a dangosodd ei gydymdeimlad a'r cyfarfod drwy gyfrannu rhodd sylweddol. Arweiniwyd gan y Parch. Morris Roberts. Beirniadwyd y gerddoriaeth gan y Parch. J. Lumley Davies, curad St. George's, Brockley, yr adroddiadau gan y Parch. Howell Watkins, B.A. Barddoniaeth, Parch. J. E. Davies, M.A. Traethodau, Parch. Hartwell Jones, M.A., a'r Knitted tie gan Mrs. Davies, Birnam Road, a Mrs. Hughes, Southampton 9 Row. Cyfeiliwyd gan Miss Pierce, Dewi Street. Y mae llwyddiant y cyfarfod i raddau helaeth i'w briodoli i weithgarwch y ddau ysgrifennydd, Mri. Gyrn Davies a Cecil Davies. Enillwyd y gwobrwyon gan y rhai canlynol :-Adroddiad i rai dan 12 oed, Miss Ellen Davies, Camberwell, a Miss Mary Davies, St. Padarn, yn gydfyddugol. Piano- forte solo Rhannwyd rhwng Misses Lizzie Hughes, ac Annie Davies, St. Padarn. Unawd dan 15 oed 1, Miss Ellen Davies,. Camberwell; 2, W. Price, Dewi Sant. Unawd contralto neu baritone, City Boy.. Adroddiad, Miss Lucy Davies, St. Padarn. Knitted tie, Miss Evans, St. Padarn. Deuawd, City Boy a Mr. Jack Phillips.. Pedwarawd, King's Cross a'r East End Mission yn gydfyddugol. Parti cymysg,. ton Aberystwyth," Camberwell. Parti Meibion, "Codwn Hwyl," Whitecross Party. Terfynwyd drwy ganu Hen Wlad fy Nhadau." CYNGHERDD MR. VINCENT DAVIES.—Nos- Iau, y 14eg o'r mis hwn, rhoddodd Mr. T. Vincent Davies, organydd Eglwys Dewi Santr Paddington, ei gyngherdd blynyddol. Daeth cynulliad boddhaol ynghyd i neuadd yr Eglwys, ac o dan lywyddiaeth Mr. Abel Simner caed cwrdd hwyliog a chanu- cymeradwy gan nifer o gantorion adnabyddus. Y prif unawdwyr oeddent Mdlle. Corri, Mr. Dyfed Lewys, a Mr. David Evans, a chynorth-- wywyd gan amryw o dalentau lleol. MISS ELEANOR WILLIAMS YN DYCHWELYD.— Dywed gohebydd y Drych, yn Pittsburg Pa., am Mai 9fed, i amryw o Gymry fyned i eglwys y Bedyddwyr Cymreig yn Chatham Street, y Sabboth diweddaf, gan ddisgwyl clywed y genhades o Lundain, Miss Eleanor Williams, yn pregethu, ond siomwyd hwy yn fawr. Yr oedd Miss Williams wedi ei, chyfyngu i'w gwely yng nghartref Charles Williams, a gomeddai y meddyg ar un cyfrif: iddi anturio allan. Deallwn ei bod wedi bod yn bur wael ers dyddiau, ac yn analluog i, lanw ei chyhoeddiadau, yr hyn oedd yn siom- iant nid yn unig iddi hi ei hunan, ond i'w chyfeillion a'i hedmygwyr. Arfaethai Miss. Williams hwylio am yr Hen Wlad yr wyth- nos nesaf, wedi treulio ysbaid o bedair blynedd ar ei hymweliad ag America. Daeth ei brawd, Cadwaladr Williams, o Johnstown, Pa., yma i ofalu am ei chwaer yn ei chystudd..

[No title]

Advertising