Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Cyfarfod Misol Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cyfarfod Misol Llundain. tNos Fercher, Mai 29ain, yn Jewin Newydd. Llywydd, Parch. P. Hughes Griffiths. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. R. Humphreys, Willesden Green. Dar- llenwyd, cadarnhawyd, a llawnodwyd y cof- tiodion. Darllenwyd llythyrau oddiwrth y Mri. Owen Williams, Stratford, a W. Davies, Shirland Road, yn cydnabod cydymdeimlad y Cyfarfod Misol. Darllenwyd llythyr o Gyfarfod Misol De Aberteifi yn cyflwyno y Parch. J. Thickens, Aberayron, i Gyfarfod Misol Llundain, ar ei ymadawiad i gymeryd golal bugeiliol yr eglwys yn Willesden Green. Rhoddwyd croesaw cynnes i Mr. Thickens gan y Llywydd a'r Parch. J. E. Davies, M.A., a chydnabyddodd yntau mewn geiriau pwrpasol. Hysbyswyd am farwolaeth Mr. David Evans, Soudan Road, yr hwn a fa ar un pryd yn swyddog yn Clapham Junction, ac yn aelod o'r C.M., a phasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r teulu ac hefyd a Mr. John Phillips (gynt o Walham Green) ar farwolaeth ei anwyl briod. Hysbyswyd fod y Mri. E. D. Morgan a R. M. Thomas wedi eu hethol yn flaenoriaid yn Hammersmith. • Cyflwynwyd adroddiad Pwyllgor yr Achosion Newyddion, yn hysbysu fod eglwys Wood Green mewn sefyllfa i ethol blaenoriaid, ac fod y Mri. J. 0. Davies, Ebenezer Evans, Edward Evans, a D. A. Davies wedi eu dewis yn flaenoriaid yn Walthamstow. Cadarn- hawyd yr adroddiad. Enwyd y Parch. F. Knoyle, a'r Mri. 0. M. Williams a W. Evans, i fyned i Wood Green i gynorthwyo yr eglwys yn newisiad blaenoriaid. Cadarnha- wyd etholiad Mr. William Owen yn flaenor yn eglwys Willesden Green. Gohiriwyd ystyriaeth o gynygiad Mr. Burrell ynglyn ag achosion Seisnig. Penod- wyd Mr. Richard Thomas yn gynrychiolydd i'r Gymanfa Gyffredinol yn lie Mr. Morgan Owen. Cadarnhawyd adroddiad y Pwyllgor Adeiladu ynglyn a phryniant tir yn Ealing. 'Croesawyd Dr. Egryn Jones (Awstralia) ar ei ymweliad a'r C.M., a chafwyd ganddo ;anerchiad pwrpasol yn cydnabod teimladau da y C.M. Etholwyd is-bwyllgor i drefnu ar gyfer dadorchuddio cof-golofn James Hughes. Y C.M. nesaf i fod yn Wilton Square, Mehefin 27. Mater y Seiat-Eiriol- aeth Crist-y Parchn. J. Thickens ac F. Ivnoyle, B.A., a'r Mri. Morgan Morgans a -John Thomas. Derbyniwyd adroddiad Pwyllgor y Cartref Cymreig. Terfynwyd trwy weddi gan Dr. Egryn Jones.

Advertising

Am Gymry Llundain.