Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

SGWRS A " THALDIR,"

Bwrdd y Gol.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd y Gol. Caed un diwrnod o dywydd hafaidd yr wythnos hon, a thybiai pawb fod yr haf wedi dod o'r diwedd ond cyn gorffen y canmol a'r llawenhau wele awelon oeraidd y Gogledd yn dod ar ein gwaethaf wedyn, a bu raid i'r Gol. ail gynneu y tan ar ei aelwyd er croesawu ei ohebwyr ffyddlon fel arfer i'w gynulliad wythnosol. Y cyntaf i ddod i mewn, a'i drwyn yn las gan oerni'r awel, oedd T Diwinydd, yr hwn a dystiai fod a fyno'r tywydd anwadal ag anwadalwch y Diwinyddion. Ychydig amser yn ol, meddai, 'roedd pawb yn curo ar Camp- bell, ond yn awr y maent yn dechreu ei ganmol, ac am ddyweyd ei fod yn lied agos i'w le wedi'r cyfan. Ar ei ol daeth gohebydd achlysurol o Dy'r Cyffredin i ddyweyd hanes yr helynt ynglyn a Bil Birrell. Tystiai hwn "fod cytundeb arbennig wedi ei wneud cydrhwng Mr. Birrell a Mr. John Redmond ar gynnwys y Mesur. Yr oedd Redmond wedi rhoddi barn ffafriol iddo yn y dirgel, ac yn addaw ei dderbyn fel cyfran addawol o Fesur Ymreolaeth. Pe buasai wedi ei wrthod maen amlwg na fuasid wedi ei ddwyn ger bron, ond gan iddo ef a T. P. O'Connor, ac ereill o'r blaid, roddi eu sel bendith arno, credodd Mr. Birrell fod ei dynged yn ddiogel. Y rheswm i Mr. Redmond droi'n fradwr oedd am y gwelai fod ei gyd-genedl yn erbyn y Mesur. Cododd yr offeiriaid Pabyddol fel un gwr i gondemnio y cyfan am y gwyddent y byddai rhoddi gormod o ryddid i'r werin yn sicr o beryglu eu dylanwad hwy. Mae'r offeiriadaeth yn yr Iwerddon yn fagl i gynnydd a llwyddiant y wlad, yr un fath ag y mae dylanwad offeiriadaeth ym mhob man arall." Os yw'r hanes hwn yn wir, rhaid i Gymru fod ar ei gwyliadwriaeth y flwyddyn nesaf. Mae ym mryd y Weinyddiaeth i ddwyn i fewn fesur yn ymwneud a Dadgysylltiad, a dylem fod yn ofalus pwy fydd ein harweinwyr y pryd hynny os digwydd i'r Weinydd- iaeth ofyn eu barn ar delerau'r Mesur. Bu Mr. Asquith yn anffodus pan ddygodd ef ei fesur o flaen y Ty fel y cofir. Yr oedd ef wedi gwrthod ymgyng. hori a rhai o'n harweinwyr goreu a'r canlyniad oedd fod llawer o feiau yn y Mesur. Er osgoi y fath gamsyniad eto, y maent wedi penodi y Ddirprwyaeth bresennol, ac ar ol i'r Mesur gael ei lunio fel ffrwyth yr adroddiad a ddygir ymlaen dylem fod yn ofalus pwy gaiff edrych trosto ar ran ein henwadau a'n harweinwyr gwleidyddol. 0 ddiffyg lie bu raid gadael rhai gohebiaethau hyd yr wythnos nesaf.

Advertising