Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CHWAREU PEL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CHWAREU PEL. Deil y bel, mewn rhyw ffurf neu gilydd, le amlwg a blaenllaw yng nghampau a chwa- reuyddiaethau pobloedd drwy yr oesau. Diflanodd amryw o'r campau cynteifig allan o iodolaeth o flaen diwylliant a gwareiddiad megys bleiddiaid y nos o flaen dynesiad y dydd; eithr deil pel-chwareu mewn rhyw ffurf neu gilydd mewn bri mawr o oes i oes. Crea heddyw fwy o ddyddordeb a brwd- frydedd na dim arall. Tyna fwy o edrych- wyr a chefnogwyr i faes yr ornest na'r un gamp arall, ag eithrio rhedegfeydd ceffylau a badau efallai. Pair i bobl anwybyddu y gydwybod gyhoeddus, i sathru dan eu traed sancteiddrwydd dydd Duw, ac i afradloni eu da ddylasent ei ddefnyddio er cysur eu teuluoedd a'u perthynasau truenus tlodion ydynt mewn angen gresynus. Math 0 lifeir- iant yn rhuthro dros bob argaeau gan gario ymaith bob terfynau, atalfeydd, a dyled- swyddau yw y brwdfrydedd greir gan bel- chwareu; ysguba bob hawliau a moesoldeb ymaith am y tro gan wneud llawer o'r dyrfa fawr yn afresymol, ac yn is na'r anifeiliaid a ddifethir. Mawr yw poblogrwydd pel- chwareu! Tybir fod y chwareu yn rhoi gwydndra a hydwythedd i'r natur gieuol a chyhyrol, a graslonrwydd i ffurf y corph. Nid ydym mewn modd yn y byd yn tybio nad yw yn ymarferiad iach i gorph ond ei arfer yn gyfreithlon. Gwyddom am rai, er hynny, ydynt wedi eu difetha yn gorphorol, yn feddyliol, ac yn ysbrydol drwy bel-chwareu. Dichon y disgyna llygad rhyw ddyn ieuanc ar y llinellau hyn, ac y gallant fod yn help iddo i gadw hunanlywodraeth rhag cael ei gario ymaith i ddinystr drwy ormod rhysedd yn chwareuyddiaethau y dydd. Cofier fod i wrtaith a disgyblaeth y corph drwy fesur- au celyd ei wasanaeth, ond ychydig ac is- raddol ydyw. Gall gryfhau ein nerth a bywiocau ein meddyliau i gyflawni ein gwaith dyddiol. Gall hefyd ein cadw yn ein horiau hamddenol allan o beryglon moesol ac ysbrydol mawrion. Ond dylem gofio mai i ychydig y mae ymarfer cor- phorol yn fuddiol; eithr duwioldeb sydd fuddiol i bob peth, a chanddi addewid o'r bywyd sydd yr awrhon, ac o'r hwn a fydd." Ceisiwn oil fod yn rhywbeth heblaw, ac yn annhraethol fwy yn ei wasanaeth, ei ddef- nyddioldeb, a'i werth moesol i gymdeithas na pel-chwareuwyr. Mae fel chwareu yn arferiad henafol. Ffyn- nai yn yr Aifft, yn arbennig ym mysg y menywod, yn amser y brenhinoedd bugeiliol ddwyfil o flynyddoedd cyn Crist a chyn hynny. Hyd y gwelwn, taflu y bel a'i dal oedd y ffurf boblogaidd ar y chwareu ym mysg yr Aifftiaid. Ni feddent ffurf arno cyffelyb i fives, neu rackets, neu tennis, neu hockey sydd mewn bri mawr heddyw. Arfer- ent yr hyn a alwai y Groegiaid yn nrania, sef taflu y bel i'r entrychi on a neidio i fynu am yr uwchaf i'r awyr i'w dal yn ei disgyniad. Cosb am fethu dal y bel ganddynt ydoedd peri i'r un fethai ei dal i gario dynes arall ar ei chefn nes y methai hono ddal y bel drachefn. Dywed Homer y chwareuid y gamp hon gon Halius a Laodamas o flaen Alcinous. Ymhyfrydai y GROEGIAID yn ddirfawr mewn pel-chwareu gan gredu ei fod yn peri graslonrwydd ffurf, cyflymder symudiadau, iechyd corph, a bywiogrwydd meddwl. Codasant gof- golofn i un Aristonicus am ei fedr yn y gamp hon. Cawn chwarae pel yn enwog ym mysg y Rhufeiniaid hefyd. Yn eu badd- onau heirddion megys yng nghampfaoedd y Groegiaid ceid yn ddieithriad bel-chwareule, ynddynt, ceid rheolau caethion i'r chwareu yn ol sefyllfa iechyd y chwareuwyr. Galwai Suetonius y cyfryw leoedd yn sphaei isterium, sef lie i chwareu pel. Plato yn ei Phaedon a gyfeiria at beli o ddeuddeg cylch- ddarn amryliw cyffelyb i'r peli welir ym masnachdai teganau y blynyddoedd hyn. Yn Ewrop cawn y gamp yn boblogaidd gan wreng a phendefig. Chwareuid hi yn llys- oedd yr Idal a Fraingc yn yr unfed-ganrif- ar-bymtheg. Crybwyllir yn ami am jeu de paume a'r Tennis. Adeiledid tai i'w chwareu ar dywydd gauafol a drycin. Agorid heol- annau hirion yn y meusydd a'r gerddi i'r amcan. Glynna enwau y cyfryw wrth lawer lie hyd heddyw megys Mall, Pall-Mall, &c. PALE MAILLE ydoedd yr enw Ffrengig ar gamp lie yr oedd dau fwa haiarn yn sefyll ar bennau heolan hir yn yr ardd neu y maes drwy ba rai y gyrrai y chwareuwyr y bel gyda morthwyl neu Maille. Y gamp hon chwareuid ym Mharc St. Iago ger Westminister am oesau, ac adnabyddir y lie hyd heddyw wrth yr enw Pell-Mell, sef pel-forthwyl. Tua di- wedd y ddeunawfed ganrif collodd pel- chwareu ei bri yn llys Prydain, a chan fawrion ein gwlad, ond parhaodd yn Spain a'r Idal yn ei boblogrwydd cyntefig. Buasai yn fantais i ni fel cenedl a theyrnas pe y gallesid lleihau ei chwareu yn y wlad hon eto a throi meddyliau pobloedd y Deyrnas Gyfunol yn fwy at sylweddau bywyd a dyrchafiad moesol. Nid da rhy o ddim." Digon sydd ddigon 0 fel." Diau fod ysbryd yr oes wedi rhedeg yn ormodol i gyfeiriad chwareuon a phleserau. Onid yw lliosowgrwydd ein chwareudai a'u cynull- eidfaoedd gorlawnion o nos i nos, a'r miloedd dyrraant i edrych ar ymrysonfeydd gyda'r bel yn profi yn ddigamsyniol fod ysbryd y genedl wedi ei ollwng yn benrhydd i geisio pleserau afiach, gwanychol, a dinystriol ? CRICKET, efallai, ydyw y ffurf Seisnig o chwareu pel. Cawn y gamp yn arferedig yn Lloegr yn y bedwaredd-ganrif-ar-ddeg. Club-ball oedd hen enw ar y chwareu hwn, ac hefyd "Itaiidyi,i," a "haiitioule." Daeth yr enw cricket or Anglo Saxon eric, cricc, cryc; Dutch kruk, a crutch Ellmynaeg krucke, sef y ffon bengam a pha un y tarewid y bel a hi. Wedi hynny y daeth y bat a'r wicket. Cawn fod y ffurf hon a'r bel-chwareu yn ymledu yn gyflym dros Gymru, Scotland, a'r Iwerddon yn y blynyddodd diweddaf hyn. Golf yw dull poblogaidd Scotland o chwareu pel er yr amser boreuaf. Chwareuai Siarl 1. golf yn Leith Links yn Scotland yn 1641 pan glywodd y newydd cyffrous fod gwrthryfel wedi torri allan yn yr Iwerddon. Taflodd y golf o'i law, ac aeth yn ddychryn- edig er ceisio tawelu y gwrthryfel. Chwar- euai Iago 1. golf yn Scotland. Ceir yr enw golf, sef ffon bengam yn goff; Ellmynaeg Club-Kolbe; Dutch Kolf. Ceir hefyd gamp gyda'r bel yn Scotland sydd boblogaidd, sef gyrru y bel agosaf at bel osodir i lawr yn nod i gyrchu agosaf ati. Chwareuir y gamp hon yn y tai neu allan yn y meusydd. Ceir difyrwch nid bychan i weled rhywrai, ydynt wedi llwyddo i gael eu peli yn agos at y Jack, yn cael eu hymlid i bellafoedd oddi- wrtbo gan bel rhywun arall. BILLIARDS sydd ffurf boblogaidd arall ar bel-chwareu yn ein gwlad. Deillia yr enw billiards o'r Francaeg billiard, sef bille, Lladin pihimr. pel. Dichon mai y ffon gyda pha un y gwthir y bel yw y billiard. Ni wyddom pa un a'i yn Fraingc a'i yr Idal y caed y chwareu. hwn gyntaf yn Ewrop. Dygwyd ef i Brydain yn yr unfed-ganrif-ar-bymtheg, ac yma y mae hyd heddyw. Dywed Shakespere y chwareuai Cleopatra billiards yn yr Aifft: a'i gwir? Dywedodd Williams, Castellnewydd-yn-Emlyn, unwaith gyda hwyl a gwres angerddol fod Abram yn eistedd yn nrws ei luest yn darllen Bibl mawr Peter Williams. Cynamseriad yw hyn yn ddiau. PEL sydd air Celtaidd. Pel yw yn y Gernywaeg ball yw yn yr Ellmynaeg a'r Swedaeg pila yw y Lladin, palla yw yr Idalaeg, a sphaira yw y Groeg. Ball-coise yw y Gaelaeg: am football. Pel-ddu oedd yr enw arni gan- ein hynafiaid yn nechreu y ganrif flaeiioroL Gelwid yr ordd bren i guro y bel yn maglicp yn yr Idal, Mail neu maille yn Fraingc, mall yn Lloegr neu pail-mail, pell-mell, neu pall- mall. Chwareuid llaw-bel ar wyl y Pasg; gan esgobion ac offeiriaid. Efallai mai, olion llawenydd gwyl dyfodiad y gwanwyn. gan y cenhedloedd gogleddol ydoedd cyn i'r Pasg ddod yn adnabyddus iddynt. Ceir" offeiriaid yn awr yn ami yn chwareu pel. Nid oes, hyd y gwn i, ddim i'w ddweyd yn, eu herbyn. Ond teimlwyf i'r byw ofiick enaid i weled y chwareuon poblogaidd yn gysylltiedig a diotai ein gwlad. Gwn am* lawer dynwyd i lawr o gylchoedd uchel mewn byd, ac eglwys drwy chwareu billiardsr mewn tafarndai, ac yno yn myned i yfed, hapchwareu (betting), a meddwi nes gwario, eu cyfoeth, eu hynïau, eu nerth, a'u cym- eriad. Gochelwn, yn ein hafiaeth am bleser a mwynhad bydol anianol, i golli yr ymwy- byddiaeth o'n hymddiriedaeth am y dyn sydd ynom a'n cenhadaeth foesol yn y byd. Cofiwn mai i ychydig y mae ymarfer corphorol yn fuddiol; eithr duwioldeb sydd fuddiol i bopeth, a chanddi addewid o'r bywyd sydd yr awr hon, ac o'r hwn a fydd." Tynwn ein pleserau dyfnaf o wasanaeth ar ddyn, ei godi o'i drueni, a'i osod i eistedd gyda phendefigion y bobl. Nid mwy o ryw- fath o weddio a moliannu ydyw angen yr oes, eithr mwy 0 wasanaethu, o hunanaberthu" o dreulio ac ymdreulio yng ngwasanaeth dyn. Carem glywed pob chwareuwr pel yn dweyd, Rhaid i mi weithio gwaith yr Hwni a'm hanfonodd ac yna cysegru ei hunan. ar allor gwasanaeth dyn dan ddylanwad- cariad Duw yng Nghrist. Hyfryd wawr, dyna'r awr, Bydd hi'n nefoedd ar y llawr."

Gohebiaethau.

Cymanfa'r Plant.