Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

MARWOLAETH A CHLADD= .EDIGAETH…

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

MARWOLAETH A CHLADD= EDIGAETH MR DAVID EVANS, 33, Henderson Road, S.W. Bu farw y gwr da uchod yn dra sydyn tua- banner awr wedi pump prydnawn Llun, Mai 27ain, yn ei gartref, 33, Henderson Road, Wandsworth Common. Achos ei farwolaeth ydoedd methiant sydyn y galon. Creodd y newydd am ei farwolaeth don o brudd-der dros gylch eang ei gyfeillion yn Llundain a Chymru. Brodor ydoedd o ardal y Boncath, Sir Benfro a bu drwy ei oes yn ffyddlon i nodweddion bro ei faboed. Enwau ei rieni ydoedd William ac Esther Evans. Mab Ffynnonau Gleision oedd ei dad, yr hwn wedi priodi a aeth gyda'i wraig i fyw i Amaethdy Castellan, gerllaw Blaenffos, ac yno, Tachwedd 27ain, 1838, y ganwyd eu cyntafanedig, yr hwn ar ol enw ei daid a enwasant yn David. Symudodd y teulu i fyw o'r Castellan i Rhydwen, gerllaw Crym- ych neu Crymrych, lie y bu farw y fam, Tachwedd 24ain, 1853, yn 40 oed. Yr oedd yn aelod gyda'r Bedyddwyr yn Blaenffos, ac yn y fynwent wrth yr addoldy hwnnw y claddwyd hi. Disgynnodd gofal y teulu ar y tad, a rhoddodd iddynt addysg elfenol a chrefyddol. Symudodd y tad i'r Barley Mow, Trelech, ac oddi yno i'r Glasbant, ger y Talog, lie y bu farw, Hydref 3vdd, 1889, yn 84 oed. Claddwyd ef ym mynwent addoldy y Graig, Trelech. Saer coed ydoedd yr alwedigaeth ddewis- odd David, a chafodd bob mantais i ddysgu y grefft yn ei gwahanol rannau gan saer yn y gymydogaeth. Meddai barch dwfn i'w goffadwriaeth. Daeth wedi hynny i Lundain i weithio wrth ei grefft. Rhoddodd yr alwedigaeth honno i fynu, ac ymaflodd ym masnach llaeth, yn yr hon y Ilwyddodd i gasglu cyfoeth. Priododd a Miss Owen, o ardal Meifod, yn Sir Trefaldwyn, a buont fyw mewn cysur a dedwyddwch. Yr oeddynt yn aelodau yn Fetter Lane. Eithr wedi iddynt ymddeol o fasnach aethant i fyw i 3, Soudan Road, Battersea, ac ymaelodasant yn Radnor Street. Pan agorwyd eglwys yn Beauchamp Road ymaelodasant yno, am ei bod yn agos, a gwnaed Mr. David Evans yn un o flaenor- iaid cyntaf yr eglwys honno. Yn fuan wedi sefydliad yr eglwys gan yr Anibynwyr yn Battersea, Mehefin 28ain, 1903, ymunodd a'r eglwys yno ac etholwyd ef yn un o ddiacon- iaid cyntaf yr eglwys. Bu yn wasanaethgar iawn i'r eglwys hyd awr ei farwolaeth, ac y mae, wedi marw, yn llefaru eto." Pery dylanwad ei fywyd pur i weithio ymlaen yn yr eglwys dros flynyddoedd y dyfodol. Yr oedd yn ymwelwr ardderchog, ao yn dra ffyddlon i'w argyhoeddiadau. Tua deunaw mlynedd yn ol teimlem fod ei natur foesol wedi ei deffro yn ddwfn-ffieiddiai bob anghyfiawnder: eithr yn y blynyddoedd diweddaf hyn daethom i deimlo fod ei natur ysbrydol wedi ei deffro drwyddi-deuai yn fwy o addolwr o flwyddyn i flwyddyn. David Evans y cywir geid amlycaf yn y blynydd- oedd gynt, ond David Evans yr addolwr Duw hefyd welir yn y blynyddoedd hyn. Bydd bwlch mawr ar ei ol yn y cylch Cym- reig yn ein dinas, ond yn yr eglwys ieuanc yn Battersea Rise bydd adwy na lenwir mo honi am amser hir. Yr oedd ef yn wr da." Gwr defosiynol, ac yn ofni Duw, ynghyd a'i holl dy, ac yn gwneuthur llawer o elusenau i'r bobl, ac yn gweddio Duw yn wastadol." Dydd Llun, Mehefin 3ydd, am 4 o'r gloch, claddwyd ei gorff lluniaidd yng Nghladdfa Gyhoeddus Magdalen Road, Wandsworth. Hawdd ydoedd gweled, wrth y dorf barchus ydoedd ynghyd, fod un a fawr gerid yn cael 61 osod yn ei argel wely. Gwasanaethwyd yn y ty cyn cychwyn gan ei weinidog, y Parch. E. T. Owen; yn y capel gan y Parchn. D. C. Jones a J. Machreth Rees ac wrth y bedd gan y Parchn. H. Elfed Lewis, M.A., ac E. T. Owen. Dilynwyd y corff gan y galarwyr canlynol:—Mrs. Evans (y weddw), Miss Owen (ei nith), Mr. Daniel Evans (ei frawd), ynghyd a'i ddwy chwaer, a pherthyn- asau ereill. Ym mysg y dorf gwelsom y Parch. T. Watcyn Jones, Abercynon; Mri. D. R. Davies, D. H. Evans, Jenkin Davies, Haydn Davies, Tom Jenkins, Evan Jenkins, W. Kattray, bpurgeon Roberts, D. J. Pritch- ard, Griffith Jenkins, Benjamin Rees, Thos. Davies, W. Davies, Y.H., C.S.LI., John Richards, David Jones, Lewis Evans, John Harries, J. Daniel, Edward Jones (Iorwerth Ceitho), David Edwards, John Williams, J. Caradog Jones, J. V. Evans, William Price, W. H. Evans, a llu ereill. Boed i weddillion ein brawd orphwyso yn dawel yn y distaw fedd a pharhaed ei ysbryd caredig yn y gwaith da byth. Nodded Duw fyddo dros ei weddw anwyl, ei nith, ei chwiorydd, ei frawd, a'i holl berthynasau, ei gydswyddogion, a'r eglwys yn Battersea Rise. Hedd, perffaith hedd."

Gohebiaethau.

Advertising