Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

CURO AR MR. LLOYD= GEORGE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CURO AR MR. LLOYD= GEORGE. Mae ymddygiad rhai o arweinwyr cref yddol yng Nghymru y dyddiau hyn yn dechreu pery blinder a gofid i bawb a garant lesiant y genedl. Nid oes un gwr yn ystod yr ugain mlynedd diweddaf wedi aberthu cymaint tros werin Cymru a Mr. Lloyd- George. Ar bob adeg y mae wedi bod yn arweinydd diogel a doeth. Ami y bu dan gerydd rhai o'n pobl mwyaf dibrofiad ac anwybodus, ond yr oedd y llwyddiant a dderbynai pob trefniant o'i eiddo yn enill eu hymddiriedaeth cyn y diwedd. Mae'r wlad wedi cael digon o brofiad bellach o'i gym- hwysderau, o'i allu, ac o'i ddoethineb, fel y credwn fod pob drwgdybiaeth wedi llwyr gilio o'r tir. Ond yn ystod y dyddiau di- weddaf hyn mae'r un hen straeon wedi eu hadgyfodi, ar un ysbryd gwrthryfelgar wedi dangos ei hun, nes gwneud i ni anobeithio ym moneddigeiddrwydd, heb son am onest- rwydd, ein harweinwyr crefyddol. Eu gwaith diweddaf yn curo ar Mr. D. Lloyd-George ydyw am nad yw'r Llywodraeth wedi dwyn i fewn Fesur Dadgysylltiad i Gymru. Mae'r Ymneillduwyr wedi myned i gredu nad oes dim gan y Weinyddiaeth hon i'w gyflawni ond trefau ar Fil iddynt hwy yn unig. Nis gwyddant fod yna lawer o waith i'w gyflawni cyn byth y gellir seilio mesur addas i ymdrin yn briodol a'r Eglwys a'i buddiannau. Ceisiodd Mr. Asquith drefnu y mater ond beiid ef gan yr Ymneill- duwyr Cymreig ar y pryd yn hallt iawn, ac yn awr ar ol i Mr. Lloyd-George gael gan y Llywodraeth i benodi Comisiwn i chwilio i fanylion y cwestiwn wele bob gradd yn codi i'w erbyn, gan ei ddifrio a'i amharchu ym mhob modd. Ni welwyd erioed ymddygiad mwy angharedig. Gwrthodant gefnogi ei law trwy roddi tystiolaethau addas, ac ant mor bell a chreu gwrthryfel ymysg yr aelod- au Cymreig eu hunain. Os na wel ein cynadleddau crefyddol anoethineb yr ymddygiadau diweddaf hyn, a rhoddi gair o gefnogaeth i'r aelod tros Gaernarfon yn y penderfyniadau a basir ganddynt yn ystod y pythefnos nesaf yma, ofnwn y llwyddant i wneud mwy o ddrwg i achos Dadgysylltiad nag a wnaed gan un mudiad arall. Yn hytrach na phoeni Mr. Lloyd-George dylid ei gefnogi ar bob cyfrif, a blin fyddai gennym weled y dydd pryd y gyrrir y gwr mawr hwn o'r rhengoedd Cymreig, oherwydd pan gollir ef, gellir addef yn hawdd y collir pob gobaith am ryddid crefyddol Cymru,-i'r genhadaeth bresennol o leiaf. Gan Ymneillduwyr Cymru heddyw, a'u harweinwyr yn y dyddiau hyn, mai osgoi y fath ddigwyddiad.

SGWRS A 44 THALDIR Y Bardd…

[No title]