Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. Y VIBRATO.- Yn y dyfyniadau canlynol, deallir paham y cynyrchir y math hwn o fais, fel na raid i ni ei egluro yn ein geiriau ein hunain ond gellir dweyd yma ei fod yn .,effeithio ar ansawdd y don (tone) er ei ddirywiad, fel y delir yn gyffredin. Gwyddom am rai ydynt yn ei bleidio hawliant ei fod yn rhoddi disgleirdeb i'r don (tone), ac felly yn apelio yn fwy effeithiol at glust y gwran- .,dawyr. Yn sicr nid ydyw i'w ganfod yn llais plant y werin—cyn eu disgyblu. Ni chondemniwn ef oblegid hynny, os ydyw yn ein galluogi i wella ar Natur. Ond a ydyw yn gwneud liynny ? Os nad ansawdd ydyw ynddo ei hun, yna y mae yn effeithio ar ansawdd y d6n {tone) un a'i er gwell neu er gwaeth. Os er gwaeth, rhaid ei gondemnio; os er gwell, dylid ei gefnogi. Dyma ddywed Ffrangcon Davies am dano yn ei lyfr The Singing of the Future." Meddai Let us first take the vocal chords. The first requisite for the natural play of these little bands is large liberty. They must be free to do unimpeded work, nor must they be pushed and hustled from below. By the word 'liberty,' one indicates the meaning between captivity and license. Captivity of the vocal chords spells vibrato," and license spells "wobble." Eto, "Relaxation is only possible with a -satisfying controlled breath. This free, unrigid, tone—this tone of relaxation- is the basis of all vocal thought." Eto, The sung word should have the penetrating power which belongs to the fine -elocutionist, whose utterance, as such, approaches ordinary speech more nearly than does the singer's, and is also, in general, more rationally effective. But -ordinary, conversational tone, could never become a singing tone; and yet it is a fact -,that, if you change to an infinitesimal degree, the character of the word when you sing, making it other than that it is when correctly -spoken, your tone cannot be the true one." Gwelir felly y rhaid i'r gair a genir fod yn naturiol, yn gywir, yn bur-er yn fwy tanbaid na'r gair a lefarir mewn ym- adrodd. Ni cheir y "Vibrato" mewn ymadrodd cyffredin; ond yn fynych ceir ,.cryn(loti yn llais yr adroddwr, pan yn dis- grifio golygfa dorcalonus. Pe disgrifid y -cyfryw olygfa ar gan, byddai yn naturiol" i'r Datganwr grynnu'r llais i raddau- megys ar fin wylo. Buasem yn galw ton felly yn Vibrant tone. Ysgrifenna Sims Reeves yn llawer mwy -syml ar Ganu na'r Cymro a enwyd, ond y mae yntau yn llwyr gondemnio y "Vibrato." Dywed: "Five out of every six modern singers are afflicted with it, and consequently there is a great deal of make-believe that the tremolo is a splendid vehicle for the expression of sentiment and passion tremolo is nothing else (than affectation) in effect. It may be caused fey sheer affectation, or by unsteady breath- ing, or by fatigue, and occasionally by an elongated uvula. In such work as Recitative, declamation and canto largo, the voice must be firm and steady as a rock. Another very important point in connection with the tremolo voice lies in the proper 1.4 placing of the voice.' If the tone is not directed towards the upper front teeth, so that it may be felt to vibrate across the bridge of the nose, then the voice trembles because it is not properly placed." Dyna ddigon, am y tro o lyfr Sims Reeves. Y mae barn Mr. Madoc Davies ar y mater hwn yn awgrymiadol. Dywed: My opinion is that these adjudicators would do far more good and show more discretion if, instead of using petty, sneering remarks re Vibrato, they would explain what it really is. They might thus be able to distinguish between timbre and vibrato.' Surely our Eisteddfodau lose the object of their existence unless the competitors gain some practical knowledge and a few hints." Go dda Madoc ond caresem gael ei farn ef, fel Disgyblwr y Llais, ar y mater hwn, er cyfar- wyddyd i leiswyr ieuainc. Y mae Maen- gwyn yn fud! Gwahoddwn ein darllenwyr i draethu eu barn ar y Vibrato, a hynny yn fyr. Credwn y daw lies o'r ymdrafodaeth. COFFEE SUPPER. Rhoddwyd hwn, nos Fawrth, gan y boneddigesau perthynol i achos yr Anibynwyr yn Battersea Rise. Cadeiriwyd gan Jenkin Davies, Ysw. Dat- geiniaid, &c.: Miss Gwladys Roberts, Miss Agnes Parry a Mr. D. B. Jones. Adroddes, Miss Jennie Davies; cyfeilyddes, Miss Winifred Williams. Afraid ydyw i ni enwi'r amrywiol ganeu- on gafwyd gan y cantorion hyn. Y mae dweyd fod Miss Gwladys Roberts ar ei goreu yn ddigon. Gwyr y Cymry beth olyga hynny! Hoffwn lais pur a swynol, hefyd orphenedd, Miss Agnes Parry, R.A.M., yn Through the forest." Hefyd y mae D. B. Jones yn adgyfnerthiad teilwng i rengoedd y Tenors Cymreig. Canodd y Faled "Mary" yn rhagorol. Felly hefyd Asthore Baswr da hefyd ydyw Rees Rees, aelod o'r achos yn y lie. Helpodd Mr. Lewis, o'r Borough hefyd, gyda datganiad da o Liberty Hall." Y mae yma dalentau, er mor fach ydyw y rhifedi. Er mwyn bod yn gyflawn gyda'r hanes, cofnodwn ddarfod i'r wobr am ddarllen yn ddifyfyr fyned i Mrs. Annie Jones, Jewin; ac am ateb cwesti- ynau, i Mr. J. T. Jones, o'r Borough. Ar yr unawd Ora pro nobis" agored i unrhyw lais, bu naw o dan y prawf, o ba rai y dewiswyd pedwar i ymddangos ar y llwy- fan, sef Gwangalon" Clwydian Ena," a "Myfanwy" ond aeth "Gwangalon" adre heb ganu. Oawsom ddatganiad da gan y tri ereill. Yn Clwydian" caed cantores ragorol. Gwyddai genadwri y darn i'r eithaf, ac yr oedd ei datganiad yn ofalus, tra theimladwy a gorphengar drwyddo. Gan Ena y mae llais contralto da, ond gyda mwy o anturiaeth gall roddi rhagorach mynegiant o'r gan. Rhaid iddi hefyd geisio rhoddi mwy o'r cysegredig a'r clwyfus yn ei darlleniad. Carem gael amser manylach a mwy o orphenedd. Myfanwy cantores ieuanc fedrus ydyw hon. Yr oedd wedi astudio yn fanwl, ond teimlem nad ydoedd yr elfen ddisgrifiadol ar dudalen y 6ed cystal a'r eiddo Clwydian "-a dyma prif fan gwan Myfanwy." Yr oedd yn canu yn dda, ac yn sefyll yn agos iawn at Clwyd- ian." Yr olaf yn ddiamheuol oedd yr oreu, ac iddi hi, sef Miss Gwladys Lloyd, Clapham Junction, yr aeth y Bathodyn Aur, o wneuth- uriad Mappin and Webb. Cafwyd cyfarfod cynnes a dyddorol ym mhob ystyr.

[No title]

PRIODAS YN RADNOR STREET.