Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

[No title]

PRIODAS YN RADNOR STREET.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

PRIODAS YN RADNOR STREET. Dydd Iau, Mehefin 6, yng nghapel Cym- raeg Radnor Street, Chelsea, unwyd mewn glan briodas, Mr. Walter Anwyl Willington, 4, Park Walk, Chelsea, a Miss Nesta Mariah Davies, merch Mr. a Mrs. William Davies, Y.H., O.S.LI., Rosebery Villa, Battersea Park. Llanwyd yr addoldy i'w gyrion gan gyfeillion y priodfab a'r briodferch awr cyn amser dechreu y gwasanaeth. Yr oedd yr addoldy wedi ei addurno yn hardd a gwyrdd- ddail, blodau, a llumannau. Yr oedd yr eglwysrawdiau wedi eu taenu a charpedau heirddion, ac yr oedd pobpeth yn Radnor Street a Rosebery Villa yn fynegiant chwaethus o deimladau llawen y cwmni ar y diwrnod dedwydd. Llanwyd swydd y dyn goreu gan Mr. Llewelyn Hughes. Rhodd- wyd y briodasferch ymaith gan ei thad, Mr. W. Davies, Y.H.,C.S.LI. Gwastrodynau y briodferch (plantweision) oeddynt Master Ian Davies, Wilton Road, a Master Tudor O'Brien, Wolverhampton, a'i morwynion priodas oeddynt Miss Bessie Jenkins, Miss Mabel Hockridge, Miss Ethel Owen, Miss Lilla Hayward, Miss Branwen Davies, a Miss Edie Hayward. Gweinyddwyd wrth yr organ gan Mr. David Richards, F.R.C.O., Highbury. Rhoddwyd y cwlwm priodasol am y ddeuddyn lion gan eu gweinidog enwog y prif-fardd Parchedig J. Machreth Rees, yn cael ei gynorthwyo gan y Parchn. T. Watcyn Jones, Abercynon, a D. Charles Jones, Llundain. Cyfansoddwyd un o'r emynau ganwyd yn y gwasanaeth gan y prif-fardd Machreth ar gyfer yr amgylchiad. Canwyd hi gan y dorf fawr yn dra effeith- iol Mewn priodas gynt yng Nghana Buost, Iesu mawr, dy hun; Rho dy bresenoldeb yma Lie y rhwymir dau yn un. Uno'r dwylaw yn ol defod Hardd dy eglwys a wnawn ni, Ond sancteiddio y cyfamod Wna dy bresenoldeb Di. O'th foddlonrwydd daw cysuron A dedwyddwch yn y byd A dy gariad yn y galon Geidw serch yn bur o hyd. Dysg hwy'n dyner iawn i feithrin Teg rasusau ar y daith Yn eu cartref bydd yn Frenin, Hwythau'n ffyddlon yn dy waith. Aros, Iesu, gyda'r ddeuddyn, Dyro iddynt nawdd dy Groes, Dy dangnefedd fo'n eu dilyn Tra parhao dyddia'u hoes. Amen. Pan oeddid yn arwyddo y coflyfr gan y ded- wydd ddau a'r tystion, yn gystal a phan ymadawent o'r addoldy chwareuwyd Ym- daith Briodasol" (Beethoven) ar yr organ gan Mr. Richards yn hynod effeithiol. Wrth y drws, ar yr heol, ac yn y cerbydau taflwyd cawodydd o rice, confetti, a blodau ar Mr. a Mrs. Willington a'u cwmni. Gwelwyd yno hefyd esgidiau yn dweyd eu cenhadaeth o'r cynfyd mai eiddo y naill y llall mwy yw y ddeuddyn lion. Er fod ynghyd dorf fawr o wahodded- igion yr oedd gan Mr. a Mrs. Davies, Y.H., gyflawnder o gerbydau i'w cario i Rosebery Villa, lie y cynhaliwyd y wledd briodasol. Wrth y byrddau yno gwelsom y Parch, a Mrs. J. Machreth Rees, Parch. T. Watcyn Jones, Parch, a Mrs. D. C. Jones, Parch. E. T. Owen, Mr. a Mrs. W. Davies, Y.H., C.S.LL, Mrs. Willington, Darwen, Mrs. Elliot, Hatfield; Mr. a Mrs. D. Richards, Park Walk, Chelsea; Mr. a Mrs. Arthian Davies, Master Ian Davies, Miss Branwen Davies, Captain a Mrs. Lewis, Barry; Dr. a. Mrs. O'Brien, Wolverhampton; Mrs. Evan Griffiths a Miss Griffiths, King's Road Mr. J. T. Lewis, Chancery Lane; Mr. a Mrs. Horace Davies, Mr. Herbert A. Davies, Mr. Fred. Charles Davies, Mr. P. Davies, Barry; Mr. a Mrs. Foulkes Jones, Miss Anna Jones, Mr.