Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

MORGAN HOWELL YN RHO I CYFEILLACH…

YR HAUL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YR HAUL. Dena'r haul o'i araul sedd Flodau fyrdd i ado'u bedd. Gwir hwylusydd anian yw 0 ffurfafen brydferth Duw. Teifl ei wenau dros y byd Myn gysanu'r blodau i gyd. Ar fynyddau, bryn a dol Dyga fywyd ir yn ol. Pery hwn i flodau'r ardd Sawru'n ber a gwenu'n hardd. Ei ddihafal wres a wna Oerni'r byd o hyd yn ha. Ef a geidw'r glaswellt ir Yn ei swyn ar fron ein tir. Trengai dyn a phopeth byw Heb gynhesrwydd huan Duw. Medda ar Anfeidrol nerth Dae'r yn unig wyr ei werth. Diolch wna fy nghalon wan I'w Chreawdydd am ei rhan. Mawr yw dyled byd yn grwn Am ddaionus fendith hwn. Ef a ddwg y meusydd yd I addfedrwydd-gwyn ei fyd. Lion edmyga'r ffrwythau per Wenau braf yr huan ter. Duw a'i rhoddodd uwch y byd Yn oleuad claer o hyd. Medda ar ysblenydd liw Eurwas lor tragwyddol yw. Harrow-on-the-Hill. LLINOS WYRE.

Y " Geninen " am Orphennaf.

Advertising