Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. DOD YN OL.—Yr wythnos hon daw Miss. Eleanor Williams, Castle Street, yn ol o'r America. Ca groesaw cynnes gan ei chyfeill- ion yn Llundain. ST. BENET.—Nos Sul nesaf (yfory) pre- gethir yn odfa'r hwyr gan y Parch. G. Haydn Evans, a chenir unawd yn ystod y gwasan- aeth gan Madame Lizzie Teify Davies. PULPUD YR WYTHNOS.—Gan i ni orfod cau'r golofn hon o ddiffyg lie am rai wyth- nosau, mae'n dda gennym ddweyd y caiff ymddangos ar ol yr wythnos hon. Felly anfoned ysgrifennyddion y gwahanol eglwysi y manylion i ni mewn pryd. NERTH YMNEILLDUAETH.—NOS Saboth di- weddaf addolodd Mr. Lloyd-George yn y Tabernacl, tan weinidogaeth y bardd- bregethwr Elfed. Yn y gyfeillach a ddilynai'r bregeth trefnodd yr eglwys gogyfer ag ethol blaenoriaid y Sul dilynol, ac wrth glywed y trefniadau dywedai Mr. George mai yn yr ymarfer yma o ymreolaeth parhaus oedd nerth Ymneillduaeth Cymru. Yr oedd wedi ei dysgu i ofalu am ei buddianau, ac i sicrhau y dynion goreu i fod yn arweinwyr iddi. Y CYMMRODORION.—Nos Iau nesaf mae uchelwyl y Cymmrodorion, pryd y cynhelir yr ymgomfa flynyddol yn y Princes Galleries, Piccadilly. Crosawir yr aelodau gan Arglwydd Tredegar, a disgwylir llu mawr o urddasolion y genedl yno. Ceir alawon Cymreig yn ystod yr hwyr, ac ychydig o areithiau byrion. PRIODAS YN JEWIN.—Yr oedd cynnulliad hapus yng Nghapel Jewin foreu Mercher, Mehefin 12fed. Yr atyniad oedd uniad priodasol Mr. Will Thomas, mab Mrs. Thomas, White Horse Lane, a Miss Maggie Jenkins, 91, Southwark Bridge Road. Gwasanaethwyd ar y gwr ifanc fel gwas priodas gan Mr. T. W. Jones, a rhoddwyd y briodferch ymaith gan ei thad. Morwyn y briodas oedd Miss Florence Jenkins, ac 'roedd y briodferch a'r forwyn mewn gwisg- oedd tlysion a fawr edmygid gan y gwydd- fodolion. Y Parch. J. E. Davies, M.A., a roddodd y cwlwm priodasol, ac ar derfyn y seremoni yn y capel aethant i frecwast yn y Manchester Hotel, lie y dymunwyd hir oes a dedwyddwch i'r par ieuanc gan y cyfeillion oedd yn bresennol. Ar derfyn y wledd ymadawodd y ddeuddyn hapus i'r tren am Aberystwyth, lie y treuliant eu mis mel. HAMPSTEAD.—Sadwrn, Mehefin 15fed, drwy garedigrwydd Mrs. Thomas, Hampstead (a'i dwy ferch), a Mrs. Prytherch Williams (a'i mercli), rhoddwyd croesaw a the yn Vale of Health i chwiorydd o Silver Street, ac yn eu plith y brod^r Phillips (cenhadwr) a'i briod, Maelor a'i briod, Mr. Jones, Appold Street, a Mr. Harris, Charing Cross. Er fod y tywydc1 ar y dechrcu yn anffafriol, eto mwyn- hawyd y caredigrwydd arferol, ynghyda golygfeydd rhamantus ac iachusol y lie. Treuliwyd amser dyddan mewn canu, adrodd, ac anerchiadau, ac yr oedd y cyfan wedi deffro yr awen yn y cenhadwr, Mr. Phillips, i ganu fel y canlyn :— Cyflwynwn nawr ein diolchgarwch, Mewn modd cynnes ger eich bron, Am eich nawdd a'ch paratoadau I ni eto'r flwyddyn hon. Hir fo oes y teulu yma I wasanaeth Brenin nef Gwasgar blodau per ar Iwybrau Pererinion tua thref. Bendith nef sy'n sicr ddilyn Cofio'r hen, y gwael a'r tlawd Llwyd yw'n gwedd ni heddyw'n Hampstead,

JACK Y LANTERN.

Cymanfa Ganu Anibynwyr Mon.