Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

ADDEWID MR. LLOYD = GEORGE.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

ADDEWID MR. LLOYD = GEORGE. Y mae bwriad y Weinyddiaeth ynglyn a phwnc Dadgysylltiad wedi cael ei egluro yr wythnos hon, mewn llythyr a ysgrifennwyd gan Mr. Lloyd-George at y Parch. Elfed Lewis. Dywed Llywydd y Bwrdd Masnach ei fod ef, yn ogystal a'i gydaelodau yn y Weinyddiaeth, yn bwriadu sicrhau i Fesur Dadgysylltiad fyned trwy Dy'r Cyffredin mor faan ag y caniata gwaith ac amser y Ty hwnnw. Nid eu difrawder sydd yn gyfrifol am nad yw'r mater wedi cael sylw eisoes, ond, gan fod Ty'r Arglwyddi yn sefyll ar ffordd pob symudiad o'r eiddynt, rhaid yw trefnu'r gwaith a'r Mesurau i gyfarfod a'r rhwystr annisgwyliadwy hwn. Os na ellir sierhau lie iddo, cyn y bydd raid apelio at y wlad ar bwnc Ty'r Arglwyddi, yna fe roddir y lie blaenaf i Ddadgysylltiad yn rhaglen y Senedd newydd. Nis gall neb ddisgwyl rhagor na hynyna yn awr. Mae gwaith Ty'r Cyffredin wedi ei barlysu gan hunlle f: yr Arglwyddi, ac ni fyddai ond gwastraif ar amser i wthio mesurau drwy'r Ty Isaf yn unig er mwyn rhoddi cyfle i'r Ty Uchaf eu handwyo neu eu gwrthod. Mae'r frwydr yn sicr o fod yn un eithafol, a goreu po gyntaf y cauir y rhengoedd er ymladd y gadgyrch yn erbyn trahausder Ty'r Arglwyddi. Yr Anibynwyr. Mae ymddygiad Cymanfa'r Anibynwyr yng N ghastellnedd tuag at addewid Mr. Lloyd- George yn eithafol o angha,redig. Bu'r gweinidogion yno yn curo yn arw ar y Llywodraeth, ar y Ddirprwyaeth Eglwysig, ac ar Mr. Lloyd-George ei hun. Aeth Mr. Josiah Thomas, Lerpwl, mor bell a chyhuddo Llywydd y Bwrdd Masnach o geisio ym- yrryd a gwaith Cymanfa'r Anibynwyr. Nis gallai dim fod yn fwy anfoneddigaidd. Ond mae Mr. Thomas megys wedi colli ei ben yn yr ymgyrch presennol. Ychydig wythnosau yn ol yr oedd ef, neu ei is-olygydd yn y Tyst, yn cyhuddo y Methodistiaid o droi'n fradwyr, ac yn gwneud ensyniadau brwnt am arweinwyr y Cyfundeb. Y tro hwnnw seiliai ei gyhuddiadau ar hen chwed- lau, a'r tro hwn eto cyhoeddai ei anathema heb wybod mai ar gais ac mewn ateb i ddau Anibynwr yr ysgrifennodd Mr. Lloyd-George ei lythyr, ac nid gyda'r un bwriad o ddylan- wadu dim ar yr Undeb. Pe na buasai Elfed a Machreth wedi galw ar Mr. Lloyd-George, diau na fuasai'r llythyr byth wedi ei ys- grifennu. Da oedd gennym glywed i Elfed roddi Mr. Thomas yn iawn mewn pryd, eto dengys yr ymfflamychiad sut mae'r Anibyn- wyr yn gwneud eu cwynion heb wybod y ffeithiau, ac heb ystyried y canlyniadau. Gwrthod y Cyngor. Gofyn am undeb wnai Mr. Lloyd-George, ond myn Undeb yr Anibynwyr weithio yn groes i'r cais. Nid ydym yn gwybod beth sydd ganddynt i'w ennill trwy guro a beirniadu y Weinyddiaeth fel hyn. Ofer disgwyl am Ddadgysylltiad oddiwrth y Toriaid eto i gyd chwareu i ddwylaw yr Eglwyswyr wna'r arweinwyr Ymneillduol yng Nghymru wrth feirniadu a chwythu bygythion fel hyn. Ni ddywedant pa fodd i weithredu na pha beth amgenach sydd i'w wneuthur. Gwaeddi yn unig am Ddadgys- ylltiad wnant, ond does yr un o honynt a ddengys Iwybyr goleu i'w sicrhau. Ni ddywedwyd ond ychydig am eiddilwch yr aelodau Cymreig, eto i gyd, os oes rhywrai i'w beio dylid beio y rhai hyn am eu heidd- ilwch yn methu a chytuno ar gynllun priodol sut i weithredu, neu sut i osod achos Cymru yn briodol o flaen y Senedd. Mae ein haelodau heddyw mewn cymaint o amhenderfynolrwydd ag erioed, a bydd yn werth i Undeb yr Anibynwyr i ddechreu ei chenhadaeth trwy gael barn Cymru yn unol ar y pwnc cyn ceisio gwthio y mater ar Weinyddiaeth sydd eisoes ar fin ei llethu gan fesurau anorphenedig.

CRI GWERIN.

Advertising