Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
A BYD Y GAN.
A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAG. COR LLANELLI.-Y mae y cor hwn, drwy ymdrech Mr. Llewelyn Williams, A.S., wedi -cael gorchymyn i ganu o flaen y Brenin yng Nghaerdydd, Gorphennaf y 12fed. Safai y cor yn uchel yn y gystadleuaeth yng Nghaernarfon y llynedd. Dywedir y barnai y Cymry ar y fainc Feirniadol fod y cor wedi canu yn well na North Staffordshire a barnai y cor felly hefyd, a'i holl ffryndiau, wrth gwrs, ond i'r Saeson yr aeth y wobr. Wedi i'r cor Seisnig gael canu ger bron y Brenin, rhaid oedd ceisio yr un anrhydedd i'r Cymry, ac wele hi ar ddod o'r diwedd. Hyderwn y cenir darn neu ddarnau Cym- reig ar yr achlysur! Yr ydym yn ysrif- •ennu'r nodyn hwn yn Abertawe, ac y mae yn ofidus meddwl cymaint yr esgeulusir y Gymraeg yma ac yng Nghaerdydd. Saes- naeg ydyw iaith y bobl hyd y gwelwn ni-a rSaesnaeg digon cloff ydyw yn fynych. 0 na chaffai y bobl hyn ras i wybod nad ydyw hi yn ddiraddiad iddynt siarad yr hen iaith yng Nghymru Y mae yn debyg y bydd cor enwog Caer- .dydd hefyd, 0 dan arweiniad Mr. Roderick Williams, yn canu ar yr achlysur o ymwel- iad y Brenin a'r lie. DYSGU CANU.-Y mae rhai wedi bod wrthi am flynyddau yn dysgu canu, ond ychydig ydyw nifer y rhai llwyddiannus, y rhai ydynt wedi hynodi eu hunain. Prawf hyn yn amlwg y rhaid i'r cantor wrth y wir ,ddawn-fel y rhaid i adeilad wrth sylfaen gadarn—cyn y gall dysg ac ymroddiad fod o wir les iddo. Rhaid wrth ddefnydd llais o leiaf; wrth reddf yr artist, y meddyliwr, y bardd. Nid un i ganu nodau clir, pur a swynol, yn unig, ydyw y cantor i fod. Rhaid iddo fod yn ddisgrifiwr perffaith ar gan. Dylai ei ddisgrifiad o olygfa fod mor real i'r gwrandawyr ag ydywpan y ceir ef gan adrodd- wr da neu pan y gwelir ef mewn darlun. ,Cyn y ceir hyn, rhaid i'r datganwr roddi prawf ei fod ef ei hun wedi sylweddoli'r lolygfa mor drwyadl, yn ei feddwl ei hun, nes gorfodi y gwrandawyr i'w sylweddoli i'r un .graddau! Y pryd hyn y ceir yr artist, yr arlunydd, y disgrifiwr yn yr un person. Ni wnaeth Dysgawdwr erioed gantor llwyddiannus o un di-ddawn, canys y mae •fflwy yn dibynnu ar y disgybl na'r Athraw. Heb y ddawn-y dalent; heb y meddyliwr, J disgrifiwr, yr arlunydd ynddo, pa fodd y mae i un fyned yn y blaen wedi gadael yr Ysgol ? Y mae hyn yn dwyn i'n cof brofiad cantor adnabyddus ymhlith y Saeson, sef Haydn Coffin. Dywedai ef yn ddiweddar mai nid drwy wersi yn gymaint y dysgodd efe ganu, eithr drwy wrandaw ar ddatgan- Wyr. Pan y teimlai ef fod y canu yn dylan- wadu yn gryf arno, profai hynny iddo fod y .cyfryw ddatganiad yn un da, gwerth ei drysori yn y cof a'i efelychu. Y mae y sylw hwn yn werth ei gofio. EGLWYS ST. BENET.—Nos Sul diweddaf bu Madam Teify Da vies yn canu yma. Yr uhawd ydoedd De awch ataf Fi, gan Coenen, y geiriau Cymraeg fel y defnyddid hwynt gan y diweddar William Davies, St. Paul's. Unawd rhagorol ydyw, a chafwyd cryn ar- ddeliad ar waith y gantores ragorol hon. Chwareuwyd y cyfeiliant yn ddeheuig gan yr srganydd, Mr. J. E. Davies, gwr sydd wedi gwneud llawer dros gerddoriaeth yr Eglwys Sefydledig Gymreig, yn Llundain ac y mae yn parhau yn llawn sel dros Fawl Teml Dduw. Yn wahanol i'r arferiad Cyffredin ymhlith y Saeson-gyda pha rai y mae'r canu cynulleidfaol yn beth digon di-enaid, yn fynych—yr oedd y canu yn St. Benet yn bur afaelgar drwyddo, a phrin y gallasai fod yn ddiafael gyda thonau megys Hyfrydol," Moab," Aberystwyth," plus y teimlad Cymreig
Y DOLYDD.
Y DOLYDD. Melynion fel pelmynt goreurog paradwys Yw iachus agweddau y dolydd i gyd, Rhydd blodau amryliw aroglau persawrus I'r nwyfus awelon balmeiddiol o hyd Mae natur yn brydferth mewn gwerdd-wisg Edenaidd A'r mwynaidd deleidion addurnant ei bron, Edmyga fy awen garpedau sidanaidd Yr iraidd wyrddlesni dilychwin a lion. Rhyw dlysni dihafal o fywyd a swynion I ddenu awelon yw mynwes y ddol, Gorlenwir fy nghlustiau a, pheraidd awelon Yr adar digwynion,—daeth hafddydd yn ol; Disgleiria yr huan o fro yr wybrenydd Cusana ein dolydd swynhudol a braf, Caiff yni fy nghalon wir fwyniant llawenydd Dan ddedwydd orielau coedwigoedd yr haf. Y gweiriau ymdonnant yn gnydau toreithiog Dan wlithog goronau adfywiol y nos, Eneiniant wefusau y glaswellt dihalog Y gwridog rosynau a'r lili fwyn dlos; Teyrnasa prydferthwch mewn dwyfol ddoethineb Ar wyneb doldiroedd cysgodol fy ngwlad, I ddangos yn eglur fod maith dragwyddoldeb A'r byw anfarwoldeb yn eiddo ein Tad. LUNOS WYRE. Harrow.
[No title]
Y mae Lerpwl o ddifrif ar bwnc yr iaith Gymraeg; ac y mae Cymry y ddinas yn awgrymu y dylid penodi athraw Cymraeg dan awdurdod addysg y ddinas, i hyfforddi dosparth o fechgyn a genethod Cymreig. YNG ngwyneb hysbysiad Mr. Howell Idris na wna sefyll etholiad eto, y mae Mr. W. G. Gladstone, Penarlag, a Mr. J. W. Summers, cadeirydd Cynghor Sirol Fflint, yn cael eu henwi fel ymgeiswyr am gynrychiolaeth Seneddol Bwrdeisdrefi Fflint. YN Eisteddfod De Affrica, a gynnaliwyd yn Johannesburg, Mai 24ain, enillwyd y goron am yr awdl oreu ar Baradwys gan Athron, gynt o Ffestiniog. Hefyd, enillodd wobr o bum' gini ar hugain am brif draeth- awd ar Y moddion goreu i gyfuno budd- iannau y cenhedloedd gwynion yn Ne Affrica." Bu'r Eisteddfod yn llwyddiant mawr. MAE Eifionydd wedi gyrru allan gopi ar- graffedig o reolau a chyfansoddiad Gorsedd y Beirdd fel y darllenwyd hwynt y waith gyntaf yng Nghaernarfon y llynedd. Dyma gynnyg teg at wneud trefn ar dryblith yr Orsedd. Gobeithiwn y llwydda; canys credwn y gallai yr Orsedd dyfu i fod yn sefydliad tra defnyddiol ynglyn a lien, barddas, a cherdd Cymru. CURO AR MR. LLOYD-GEORGE. BETH DDY- WED Y GOLEUAD.PWy, tybed, sy'n cofio yr ymosodiad fu ar Mr. Tom Ellis pan benodwyd ef yn brif whip y blaid Rydd- frydol ? Pwy nad yw yn cofio y canlyn- iadau ? Bu'r GOLEUAD yn ceisio cadw chwareu teg iddo y pryd hwnnw, ac yn ceisio cael gan y beirniaid ymbwyllo. Mr. Lloyd-George sydd yn awr dan y ffonnod. Chwareu teg iddo! 'Does neb yn gwybod yr holl anhawsterau sydd ar ei ffordd, na neb, hyd yma, yn gwybod pa faint y mae yn ei aberthu er mwyn Cymru. Gadawer iddo gael amser. < Dwy o'r areithiau goreu yn erbyn Ty'r Arglwyddi, a draddodwyd yn y Senedd yr wythnos hon, oedd araith Mr. Churchill nos Fawrth ac eiddo Mr. Lloyd-George nawn Mercher. Mae gwyr ieuainc y Weinyddiaeth yn gwneud enw iddynt eu hunain. I
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. Y TYWYDD.—Beio y tywydd mae'r Llun- deinwyr y dyddiau hyn. Er fod yr almanac- iau yn rhoddi'r adeg yn ganol haf, mae'r tywydd yn fwy tebyg i ganol gauaf. DECHREU GWYLIAU.—Gyda dyfodiad mis Gorphennaf mae dyddiau gwyl yn dod, ac y mae amryw o'r teuluoedd Cymreig eisoes wedi symud eu pabelloedd i ganol Cymru. COLOFN JAMES HUGHEs.-Mae'r trefniadau gogyfer a dadorchuddio y gof-golofn newydd ar fin cael eu cwblhau, a rhoddir y manylion cyn pen ychydig ddyddiau. TYSTEB SYR JOHN PULESTON.—Yr wythnos hon cyflwynwyd tysteb i Syr John Puleston, ar ran Cymry'r ddinas. Yr oedd y cyfan wedi ei wneud mor llechwraidd fel na wyddai'r tanysgrifwyr pie 'roedd y cyflwyn- iad i gymeryd lie. Dim ond rhyw nifer bychan oedd yn deilwng i fod yn bresennol, mae'n debyg. KING'S CROSS.—Nos Sul diweddaf bu eglwys y Tabernacl yn dewis blaenoriaid at yr hen rai oedd yn yr eglwys. Etholwyd y brodyr canlynol trwy bleidlais yr aelodau :— Mr. John Peate, King's Cross Road; R. Davies, Harringay Caleb Griffiths; Tudor Evans Thomas Jones, Essex Road a Mr. B. J. Rees, Carthusian Street. DEWI SANT, PADDINGTON.—Cenir unawd gysegredig yn yr Eglwys hon, nos Sul, Mehefin 30, gan Miss Teify Davies, y gan- tores enwog. ST. MAIR, CAMBERWELL.—Dydd Iau di- weddaf cynhaliwyd Sale of Work yng ngardd y Persondy, Camberwell New Road, trwy ganiatad y Caplan a Mrs. Roderick. Cym- erodd yr agoriad le am 3.30, ac yn absen- oldeb Mrs. Francis, oherwydd afiechyd, cymerwyd ei lie gan ei nith, Mrs. Davies, yn cael ei chynorthwyo gan Mr. John Francis. Rhoddwyd yr oil o'r te gan Mrs. Andrews a Miss Hamer, ac nid rhodd fechan mo honi chwaith. Dylem fod yn dra diolchgar i'r ddwy foneddiges yma am eu caredigrwydd neillduol. Cymerwyd gofal o'r gwahanol stalls gan Mrs. Roderick, Mrs. Dr. Evans, Mrs. Wynne, Mrs. Hughes, y Nurses Lloyd a Roberts, y Misses Jenkins a Hughes, Meistri Tannatt Jones, Frank Jones a D. Edwards. Yn ystod y prydnawn cafwyd unawdau gan Miss Hughes a Mr. Tudor Evans, tra y dadganwyd gan y cor o dan arweiniad Mr. J. J. Williams. Yr ysgrifen- yddion oeddynt Meistri W. Wynne a D. Edwards, ac y mae canmoliaeth fawr yn ddyledus iddynt. Yn wir, gwnaeth pawb eu goreu er sicrhau llwyddiant, a phan gyfrif- wyd yr arian mewn llaw, synwyd yr aelodau yn fawr gan faint yr elw. Rhoddir yr oil tuag at adgyweirio, cyfnewid, a gwella yr C3 Eglwys. POPLAR.-Nos Fawrth, Gorphennaf 18ed, trwy garedigrwydd Mr. Jones, Hampstead, rhoddwyd te rhagorol i nifer liosog o'n cenedl perthynol i'r genhadaeth ddwyreiniol. Traddodwyd pregeth amserol gan y Parch. P. Hughes Griffiths, Charing Cross, a dat- ganwyd gan Mrs. Ellis Jones, Mrs. Hum- phreys, Stamford Street, S.E., a Misses Evans, Globe Road. Cyfeiliwyd ar yr argan gan Miss James, Hampstead, ac wrth y berdoneg gan Miss James, Commercial Road, a Mr. J. W. Lewis, Bow. Diolch i bawb.—Sabboth, Gorphennaf 23, yn Silver Street, traddodwyd anerchiad gan Howell J. Williams, Ysw., J.P.,L.C.C. Unawdau gan Miss Nellie Lewis a Miss Kate Lewis. Da iawn yr oil a chefnogol i'r gwaith. M.