Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD MISOL M.C. LLUNDAIN.

Advertising

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

RAMBLERS KING'S CRoss.Talodd nifer fawr o honom ymweliad a Ruislip 'nawn. Sadwrn diweddaf o dan arweiniad medrus a phrofiadol y Misses Gwladys Davies a Deborah Evans. Bu i'r hin droi allan yn anffafriol at yr liwyr, er hynny yr oeddem yn ffortunus i gael yn ein mysg Miss Winnie Evans, Mr. Stanley Davies, a'r byd-enwog, Witherington Glee Party," gan ba rai y cawsom wledd gerddorol o'r fath oreu, a dychwelasom yn ol wedi gwir fwynhau ein liunain. J. FALMOUTH ROAD.-Nos Wener, yr 21ain, cynhaliwyd cyfarfod i'r plant i ddathlu eu llwyddiant anarferol yng Nghymanfa'r Plant gynhaliwyd yn Jewin ar y 30ain o Fai, pryd yr enillasant Darian yr Undeb" am y drydedd waith yn olynol, ac y daeth yn eiddo iddynt, hefyd enillwyd 26 o dystysgrifau yn Arholiadau yr laith Gymraeg a'r Ysgryth- yrol, heblaw 33 0 dystysgrifau y Tonic Sol- fa College (credwn fod hyn yn record yn hanes plant Cymry Llundain). Enillwyd hefyd wobr yn yr Arholiad Ysgrythyrol, y wobr gyntaf a'r drydedd am yr unawd dan 16 oed, a'r wobr gyntaf am y deuawd. Mae y rhestr uchod yn werth i unrhyw Eglwys fod yn falch o honi. D. R. Hughes, Ysw., oedd yn llywyddu, ac nid oes rhaid, ond hynny, ddweyd wrth neb fod y cyfarfod yn berffaith lwyddiant o dan lywyddiaeth y dyn hynod hwnnw. Rhoddwyd gwledd o de a strawberries and cream i'r plant gan Mri. J. Morgan ac Evan Jones (yr organydd), ac wedi iddynt wneud cyfiawnder ar y dan- teithion osodwyd o'i blaen, cynhaliwyd y cyfarfod cyhoeddns. Yn ystod y cyfarfod, cafwyd unawdau ar y berdoneg gan Misses Annie Evans a Maggie Jenkins cafwyd solos gan Miss Rachel Jones, Gwen Davies, Blodwen Roberts, Blodwen Hughes, Lizzie M. Evans, Mr. D. R. Hughes (humorous). Adroddwyd gan Miss Jennie Evans a Llew. Jones. Canwyd gan gor y plant, Molwn Di Iesu ac "Awn Ymlaen." Deuawd gan Misses Maggie a Gracie Roberts. Cystad- leuaethau Sight singing, dan 13 oed 1, Miss Gracie Roberts; 2, Miss Jennie Evans; 3, Llew. Jones. Dan 16 oed goreu, Miss Maggie Roberts. Dweud y stori oreu 1, Llew. Jones. Am yr ail-adroddiad cywiraf o englyn adroddwyd gan y Llywydd goreu, Miss Katie Hughes; 2, R. Claridge; 3, Maggie Roberts. Cyflwynwyd y 33 Tonic Sol-fa Certificates i'r plant gan Mrs. E. W. Davies, Clapham Common. Diweddwyd cyfarfod hynod o ddyddorol trwy ganu, mawldon. J. D. PRIODAS.—Prydnawn ddydd Mercher di- weddaf, Mehefin 26ain, unwyd mewn glan briodas Mr. R. H. Rees, Woodlands, Taly- bont, a Westminster, Llundain, a Miss Jane Jenkins, Maesteg, Glandyfi. Cymerodd y briodas le yn Jewin Newydd. Gweinydd- wyd gan y Parch. J. E. Davies, M.A., yn cael ei gynorthwyo gan y Parch. Thomas Jones, City Road. Gwasanaethwyd ar y Priodfab gan ei frawd, Mr. D. Rees, Red Lion Street, Holborn, ac ar y Briodasferch gan Mrs. Rees, Red Lion Street, a Miss Rebaul, Hammersmith. Rhoddwyd y Briodasferch ymaith gan y Parch. T. Jones. Wedi hynny cynhaliwyd reception yn yr Hotel Cecil, pryd yr oedd yn bresennol Mr. a Mrs. Rees (y par newydd unedig), Mr. a Mrs. Rees, Red Lion Street; Miss Rebaul, Mr. W. Bowen, Stepney Parchn. J. E. Davies a Thomas Jones, Mr. Edmund Evans, ac ereill. Caf- wyd anerchiadau cyfaddas gan y cyfeillion yn dymuno llwyddiant i'r undeb hapus. Soniai'r Parch. T. Jones am ragoriaethau Mrs., Rees gan goffhau ei hymdrechion gyda chrefydd a'i chydweithrediad a Mrs. Evans (Eglwysbach) yng Nghaerdydd a mannau ereill, a'i dawn neillduol fel areithes o blaid dirwest. Wedi treulio prydnawn hwyliog yn neuadd Cecil, aeth Mr. a Mrs. Rees i'r Isle of Wight i dreulio eu mis mel. BODDIAD CYMRO YN Y TAFWYS.—Dydd Iau, Mehefin y 13eg, cymerodd amgylchiad pruddaidd le trwy i Mr. John Lewis, 105, East Hill, Wandsworth, golli ei fywyd trwy foddi. Dydd Iau gadawodd Mr. Lewis ei gartref gyda chyfaill, yr hwn oedd gymydog iddo, gyda'r bwriad o fyned i'r wlad i fwyn- hau awyr bur. Aethant ill dau mor belled ag Hampton Court, yno penderfynasant gymeryd cwch a myned ar yr afon. Aeth popeth yn dda am oddeutu milldir i fyny'r afon, pryd y dymunodd y cyfaill am gael newid eisteddle, a'r canlyniad fu i Mr. Lewis golli ei fywyd trwy hynny. Trodd y cwch wyneb i waered, a chan nas gallai Mr. Lewis nofio, suddodd yn y fan. Bu ei gyfaill yn fwy ffortunus, gan ei fod yn gallu nofio llwyddodd i gyrraedd y lan yn ddiogel. Cafwyd corph Mr. Lewis yn fuan mewn oddeutu deg munud, ond er pob ymdrech a gallu meddygol nis gallwyd ei adfer. Dydd Llun, Mehefin 17eg, cynhaliwyd trengholiad ar gorph yr ymadawedig, pryd y bwriwyd dedfryd o farwolaeth trwy ddamwain. Nos Lun aethpwyd a'r corph o Euston Station i Gymru. Hawdd oedd canfod yn Euston pan y daeth llu mor liosog ynghyd i dalu y gymwynas ddiweddaf i'r ymadawedig pa mor uchel ei barch oedd ym mhlith ei gyd- wladwyr yn Llundain. Boreu ddydd Mawrth cyrhaeddwyd gorsaf Bow Street, ger Aberystwyth, ac er mor foreu, rhwng 5 a 6 o'r gloch y boreu, yr oedd yno lu mawr o drigolion y pentref a ffermwyr y gymydog- aeth wedi cyfarfod i dderbyn y corph a'r perthynasau galarus. Aethpwyd a'r corph i dy chwaer Mrs. Lewis, yn agos i Lanfihangel, lie y gorphwysodd hyd y prydnawn.