Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

GWIBDAITH YR HEN GYMRY.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

GWIBDAITH YR HEN GYMRY. Diwrnod Gwlawog yn y Fforest. Diwrnod mawr gan Hen Gymry'r East End yw dydd y wibdaith flynyddol i Epping Fforest. Mae'n hen sefydliad bellach, ac mae'r Cenhadon a lafuriant mor ddistaw ar hyd y flwyddyn yn gofalu fod y dydd hwn yn fath o uchel-wyl i'r Genhadaeth Gymreig. Eleni 'roedd trefniadau helaeth wedi eu gwneud, a 'doedd ball ar ofal y Cenhadon am yr hen a'r methedig i'w cael i ddod allan am ddiwrnod i fwynhau awelon tyner y wlad. Dydd Mercher diweddaf oedd diwnod mawr yr wyl, ond ow'r siom i gannoedd oeddent wedi breuddwydio am fwyniant ac unigedd y Fforest. 0 foreu glas tan leni'r nos daeth y gwlaw a'r awel oer, gan olchi ac ysgubo ymaith pob cysuron a gwynfyd, a chaethiwo y mwyafrif o'r ymwelwyr i neu- addau cyfleus y Jiwbili Retreat." Fel yr oedd, aeth amryw gannoedd gyda'r wibdaith. Llanwyd y neuadd oedd wedi ei sicrhau yn Chingford, a chaed pryd moethus o fwyd yn gynnar yn y prydnawn. Tra'r eisteddai y dorf i fwyta, pistyllai'r gwlaw, ac ar ol gorphen a'r bwyd yr un modd y disgynnai'r cawodydd. Er mwyn treulio awr hapus trefnodd Mr. Thomas Jones, y cenhadwr, gyfarfod cartrefol, a rhoddwyd areithiau gan Mr. T. J. Anthony, Parch. Wilson Roberts, Parch. W. Richards (Dewi Sant), Parch. LI. Bowyer, ac ereill, a chaed caneuon swynol gan Master Roberts, Mr. David Evans, a nifer o foneddigesau. Daeth llawer o garedigion y genhadaeth ynghyd i'r wyl, ac er oered yr hin ac mor ddigysur yr amgylchoedd gan y gwlyban- iaeth llwyddwyd i gadw'r cynhesrwydd Cymreig yn y cynulliad yn ystod yr amser. Diolchwyd i Syr John Puleston ac i'r cynorthwywyr ereill gan Mr. Thomas Jones a Llewelyn Davies am eu cefnogaeth i'r gwaith ac am bresennoldeb llawer o honynt yn y cynulliad.

COFFHAU JAMES HUGHES.

[No title]

COLEG Y GOGLEDD, BANGOR.

Advertising