Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

CLIRIO'R FFORDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CLIRIO'R FFORDD. Erbyn hyn mae Ymneillduwyr Cymru yn dechreu sylweddoli anhawsterau'r Wein- yddiaeth bresennol. Gwelant mai un peth yw gwaeddi Dadgysylltiad, ond mai peth arall yw cario'r cais i'w gyflawniad. Dengys y llythyr a ddanfonwyd gan Mr. Lloyd- George y dydd o'r blaen i'r Parch. Elfed Lewis fod y Weinyddiaeth yn fyw i'r angen am Fesur Dadgysylltiad, ac mai'r unig rwystr ar hyn o bryd oedd sut i gael gan Dy'r Arglwyddi i'w dderbyn. Hawdd fyddai gyrru Mesur trwy'r Ty isaf, ond beth wedyn? Ni fyddai'r cyfan ond gwastraff amser, ie, a gwastraff anesgusodol ar hyn o bryd, pan mae cymaint o alw am fan ddedd- fau cymdeithasol. Mae'r bobl sydd wedi bod mor angharedig a chyhuddo Mr. Lloyd- George o fradychu ac anwybyddu ei genedl yn gweled bellach mor anheg ydynt wedi ymddwyn, ac hyderwn y deuant yn fwy doeth tan ei arweiniad o hyn i maes, nid trwy ei feio yn barhaus a phasio penderfyn- iadau gwyllt i gondemnio y Llywodraeth y mae i ni gryfhau breichiau y gwr sydd yn ein cynrychioli yng nghylch uchaf y Deyrnas heddyw, eithr trwy hyrwyddo pob mudiad a awgrymwyd ganddo yn y gorphenol, er mwyn dwyn yr holl gynlluniau i ben. Ar ol cael adroddiad y Ddirprwyaeth Eglwysig, a chynllun diwygiadol ynglyn a Thy'r Arglwyddi-ac fe geir y ddau cyn hir, yna bydd cyfle Cymru wrth y drws, a daw awr ei rhyddid mor sicr ag y daeth y llwyddiant Rhyddfrydol ddeunaw mis yn ol. Ein hangen pennaf heddyw yw yr hyn ddywed Mr. Lloyd-George ar ddiwedd ei lythyr Undeb yn awr ar fin y frwydr fawr yn erbyn gelyn mawr rhyddid

[No title]

YN OL O'R 'MERICA.

Y CYMMRODORION.