Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
CLIRIO'R FFORDD.
CLIRIO'R FFORDD. Erbyn hyn mae Ymneillduwyr Cymru yn dechreu sylweddoli anhawsterau'r Wein- yddiaeth bresennol. Gwelant mai un peth yw gwaeddi Dadgysylltiad, ond mai peth arall yw cario'r cais i'w gyflawniad. Dengys y llythyr a ddanfonwyd gan Mr. Lloyd- George y dydd o'r blaen i'r Parch. Elfed Lewis fod y Weinyddiaeth yn fyw i'r angen am Fesur Dadgysylltiad, ac mai'r unig rwystr ar hyn o bryd oedd sut i gael gan Dy'r Arglwyddi i'w dderbyn. Hawdd fyddai gyrru Mesur trwy'r Ty isaf, ond beth wedyn? Ni fyddai'r cyfan ond gwastraff amser, ie, a gwastraff anesgusodol ar hyn o bryd, pan mae cymaint o alw am fan ddedd- fau cymdeithasol. Mae'r bobl sydd wedi bod mor angharedig a chyhuddo Mr. Lloyd- George o fradychu ac anwybyddu ei genedl yn gweled bellach mor anheg ydynt wedi ymddwyn, ac hyderwn y deuant yn fwy doeth tan ei arweiniad o hyn i maes, nid trwy ei feio yn barhaus a phasio penderfyn- iadau gwyllt i gondemnio y Llywodraeth y mae i ni gryfhau breichiau y gwr sydd yn ein cynrychioli yng nghylch uchaf y Deyrnas heddyw, eithr trwy hyrwyddo pob mudiad a awgrymwyd ganddo yn y gorphenol, er mwyn dwyn yr holl gynlluniau i ben. Ar ol cael adroddiad y Ddirprwyaeth Eglwysig, a chynllun diwygiadol ynglyn a Thy'r Arglwyddi-ac fe geir y ddau cyn hir, yna bydd cyfle Cymru wrth y drws, a daw awr ei rhyddid mor sicr ag y daeth y llwyddiant Rhyddfrydol ddeunaw mis yn ol. Ein hangen pennaf heddyw yw yr hyn ddywed Mr. Lloyd-George ar ddiwedd ei lythyr Undeb yn awr ar fin y frwydr fawr yn erbyn gelyn mawr rhyddid
[No title]
MEWN llawer i dref a phentref yn ardal y glofeydd mae cyflwr tai'r gweithwyr yn druenus o wael. Mae ein papurau wedi galw sylw at eu cyflwr gresynus a swyddog- ion iechyd wedi condemnio llawer o honynfc dro ar ol tro, ond y cyfan yn ofer. Yn ddiweddar bu Mr. G. R. Sims, o Lundain, ar ymweliad a rhai o honynt a rhydd ddis- grifiad tost o'u cyflwr yn ngholofnau y Western Mail y dyddiau hyn. Feallai y dysga'r ynadon wers bwysig oddiwrth yr ysgrifau condemniol hyn. DYWEDIR i Syr Alfred Thomas fod ar fin cael ei ddyrchafa i Dy'r Arglwyddi y dydd o'r blaen; ond feallai mai pan ymwel y Brenin a Chaerdydd y gwneir hyn. Gwnai Syr Alfred cystal aelod a neb o'r gwyr mawr sydd yno eisoes, ac feallai y byddai yn rhyw dipyn o help hefyd i droi rhai o'r Duciaid i bleidio Mesur Dadgysylltiad pan ddygir hwnnw ger bron.
YN OL O'R 'MERICA.
YN OL O'R 'MERICA. DYCHWELIAD MISS ELLEN WILLIAMS, CASTLE STREET. Rwyn mynd am dri mis o wyliau a seibiant," ebe Miss Williams wrthym pan oedd yn ffarwelio a Llundain i fyned ar ymweliad a'i pherthynasau yn America ond fe gymerodd bedair blynedd i'r "trimis" hwnnw ddod i ben oherwydd yr wythnos hon y cawsom y boddhad o groesawu yr Efengyles hon yn ol i blith ei chydnabod yn Llundain ar ol ysbaid hir o waith a phrofiad ymhlith ein cydgenedl o'r tu hwnt i'r Werydd. Edrychai mor gartrefol ag erioed yng nghapel Castle Street y Sul diweddaf, ac nis gallai'r anghyfarwydd gredu ei bod wedi bod ymaith cyhyd o amser. Roedd yr adeilad yn llawn o ieuenctyd y lie, megys pe i'w chroesawu yn ol, a'r lie wedi ei addurno yn hardd, oherwydd onid "Sul y blodau ydoedd yn Castle Street ? Roedd Ellen yno yng ngwasanaeth y boreu. Rhoddai anerchiad i aelodau'r Christian Endeavour am ddeg o'r gloch. Yna yn odfa'r prydnawn, pan oedd Mr. Lloyd-George, Llywydd y Bwrdd Masnach, i siarad, galwyd ar Miss Williams i ddech- reu'r cwrdd," a gwnaeth hynny gydag enneiniad, a chyn nos roedd hithau yn teimlo ei bod megys cynt yn un o'r ffydd- loniaid hapus, heb fod yn mhellach na thaith i Gymru. Ond mae y pedair blynedd hyn wedi bod yn bedair blynedd o brofiad anghyd- marol i Miss Williams. Bu ar ymweliad a phob rhan o'r Unol Dalaethau lie mae Cymry'n cartrefu, a chafodd fynediad helaeth" i mewn i brif leoedd y wlad. Does yr un gweinidog wedi trafaelio mwy na Miss Williams, na neb wedi llwyddo i ennill serch y bobl yno gymaint a hi, a chydag anhawster mawr y llwyddodd i gael dod yn ol i'w hen wlad gan gymaint y taer- ineb ar iddi sefydlu yn y wlad honno. Wel, fath groesaw gawsoch gan y Cymry yn yr 'Merica ? meddwn wrthi. "0, rhagorol, yn wir," meddai. Roedd- ent mor gartrefol a'r hen Gymry gwledig, ac mor awyddus yn awr i glywed yr Hen Hanes ag erioed." Ydi'r eglwysi Cymreig yno yn llwyddo ? Wel, ydynt i raddau helaeth iawn. Yno, fel yn y wlad hon, mae'r to ieuanc yn colli'r Gymraeg o ddiffyg arfer, ond fe wneir pob trefniadau ar eu cyfer. Yr oedd galwad arnaf i siarad yn Saesneg ac yn Gymraeg iddynt, a gwyddoch mai'r Gymraeg oedd fy hoff iaith i bob amser. Er hynny, yn y 'Merica doedd dim sylw yn cael ei dalu i'r Welsh accent" yma-y sonir am dani mor watwarus genym ni,—os digwyddai i mi siarad yn Saesneg, a phaham y rhaid i ni Gymry gyfeirio at hynny byth a hefyd? Mae rhai pobl megys am wneud ymddiheurad dros siarad a thine y Gymraeg yn eu geiriau, tra y bydd yr un pobl yn awyddus am glod- fori Ffrancwr neu Ysgotyn os bydd ef yn cadw ei nodwedd cenedlaethol. Gwlad y cenhedloedd yw'r Merica. Daw pob iaith a chenedl yno, felly edrychir ar y cyfan gydag ysbryd mwy eangfrydig nag yn y wlad hon, a'r canlyniad oedd i'm hanerchiadau Seisnig gael cystal derbyniad a'r rhai Cymraeg." A gaed peth o ddylanwad y Diwygiad yno? Do, caed ymweliadau rhyfedd a nerthol yno fel yng Nghymru. Am fisoedd yr oeddwn yn cael miloedd o bobl i ddod i'r capelau Cymreig, a chedwid y cyfarfodydd gydag hwyl anghyffredin, ac mae'r dylan- wad yn aros hyd heddyw. Rywfodd neu gilydd rwyf yn credu fod yr Americanwr yn fwy ysbrydol ei natur na'r genedl Seisnig, ddim mor sur ac hunanol, eithr yn tebyga fwy at yr anian Gymreig a Cheltaidd." Wel beth am y dyfodol, Miss Williams, a gawn ni eich clywed yn ami yn Llundain o ?> yma ? Y peth cyntaf sydd gennyf yw gofalu am adferiad fy iechyd. Mae'r selni di- weddar wedi gwanhau fy nghyfansoddiad. Doedd hyn ond canlyniad naturiol i'r mynd' parhaus a'r teithio ym mhob tywydd, a minnau heb fod yn gynefin iawn a hynny. Yr oeddwn dan addewid i fy meddyg yn Johnstown na siaradwn air am rai wythnosau, ond wedi'r fordaith bleserus a gaed tros y don yn ol, ac ychydig seibiant eto yn yr Hen wlad, gobeithiaf fod mor hoyw a pharod i'r gwaith ag erioed. CYFRES 0 YSGRIFAU. Bydd yn dda gan ein darllenwyr yn ddiau glywed fod Miss Williams wedi addaw cyfres o lithiau i'r CELT yn ystod yr wythnosau dyfodol, yn ymdrin a'i gwaith dyddorol ymhlith Cymry'r America.
Y CYMMRODORION.
Y CYMMRODORION. YMGOMWEST FLYNYDDOL. Unwaith yn y flwyddyn mae cymdeithas anrhydeddus y Cymmrodorion yn cael noson ddiddan, ac mae'n noson boblogaidd bob amser. Papurau dysgedig a darlithiau sychion sy'n britho y rhaglen am y tymor fel rheol, ac mae'n amheuthyn cael un noson lawen yn y gyfres. Eleni cynhaliwyd yr wyl yn ystafelloedd eang y New Gallery, Regent Street, a thrwy wahoddiad caredig Arglwydd Tredegar daeth amryw gannoedd ynghyd i fwynhau'r moethau oeddynt wedi eu harlwyo, ac i wrando y canu rhagorol oedd wedi ei drefnu gan yr ysgrifennydd poblogaidd, Mr. Vincent Evans. Yn fuan ar ol wyth o'r gloch dechreuodd y gwahoddedigion ddod ynghyd, a chroesa- wyd hwy gan Arglwydd Tredegar yn ei ddull siriol a chartrefol, ac ymhlith y rhai oeddent wedi ymgynull oedd Dr. Henry Owen, F.S.A., Arglwydd Glantawe, Syr Charles Philipps, Syr Frank Edwards a'i briod, Syr Alfred Thomas, Syr Brynmor Jones, y Cadfridog Hills Johnes, V.C., Syr Lewis Morris, Mr. Ellis J. Griffiths, A.S., Cyrnol Ivor Philipps, A.S., Mr. a Mrs. Timothy Davies, Mr. a Mrs. W. Llewelyn. Williams, Mr. a Mrs. J. Hinds, Mr. Pritchrd Jones, Mr. J. T. Lewis, Mr. J. Jay Williams, Mr. Tom Davies, Mr. T. D. Jones, Parch. Peter Hughes Griffiths, &c. Caed nifer o alawon Cymreig gan Miss Katherine Jones, Miss Nora Meredith, Y Cymmrodorian Glee Singers, tan arweiniad Mr. D. Richards, A.R.C.O., ac unawdau offerynol gan Miss Beatrice Evelyn a Mr. Percy Hughes. Yn ystod y noson rhoddwyd diolchgarwch y Gymdeithas i Arglwydd Tredegar ar gynygiad Mr. Ellis J. Griffith, A.S., yr hwn a dalodd y warogaeth uchaf i'r Barwnig poblogaidd o Lys Ivor Hael, a chefnogwyd ef mewn modd cynnes gan y dorf ddaeth ynghyd. Wrth ateb dywedai y Llywydd fod yn bleser ganddo i roddi'r wledd. Ar y cych- wyn meddyliodd i'w chynnal yn y Botanical Gardens, ond profodd y tywydd yn rhy ansefydlog iddo. Gobeithiai y cawsent ar derfyn blwyddyn arall gynulliad yn yr awyr agored a byddai'n bleser ganddo i'w croes- awu eto. Diweddwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau," ac aeth pawb adref wedi mawr fwynhau noson lawen.