Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. CYNGIIERDD.-Nos Lun nesaf rhydd Miss Teify Davies ei chyngherdd arbennig yn Steinway Hall. Mae rhagolygon am gyfar- fod tra llwyddianus. Y CLWB.—Mae'r pwyllgor newydd ynglyn a'r clwb yn dechreu yn dra addawol ar ei waith, ac ymddengys fod nifer o aelodau newydd am y flwyddyn wedi eu sicrhau eisoes. GWYL Y BANO.- Yn ol eu harfer mae'r Ysgolion Methodistaidd yn myned i Hatfield Park ar Wyl y Banc, y Llun cyntaf o Awst nesaf. Mae hon yn un o wibdeithiau mawr y tymor, a diau y ceir cynulliad llawn eleni eto. DRUAN O'R PENOERDD.-Nis gallai neb gael mwy o siom na Mr. John Thomas, "Pen- cerdd Gwalia," yr wythnos hon. 'Roedd mwyafrif y papurau yn ei enwi fel y gwr a gafodd deitl newydd y Brenin, ond rhyw John Thomas arall oedd y gwir dder- bynnydd. CASTLE STREET.- Y Sal diweddaf cyn- haliwyd y Flower Service" blynyddol ynglyn a'r eglwys hon, a chaed cynulliadau llawn o foreu hyd yr hwyr yn y gwahanol oedfaon. Caed cyfarfod gweddi am 8.30 y boreu, ac yna eisteddodd rhyw bedwar ugain i lawr i foreufwyd. Am ddeg caed cyfarfod tan nawdd y Christian Endeavour, yna gwasanaeth a phregeth Saesneg am 11 gan y Parch. Herbert Morgan, B.A. Yng nghyf- arfod yr Ysgol Sul yn y prydnawn rhodd- wyd papur ar Ddechreuad Ymneillduaeth," gan Dr. Ivor Thomas, M.A., ac anerchiad hapus gan y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd- George, yr hwn a lywyddai y cynulliad. Yn odfa'r nos pregethwyd yn Gymraeg gan y Gweinidog i gynulliad mawr. Yn ystod y dydd rhoddwyd unawdau gan Mrs. Eleanor Jones Hudson, Miss Josephine Ottley, Miss Ailien Hodgson, Miss Amy R. Jones, a Mr. David Evans, ynghyd a detholiadau gan y cor, tan arweiniad Mr. J. Nicholas Lewis. HORNSEY ROAD.- Yn neuadd Emmanuel, Hornsey Road, nos Iau, Mehefin 27ain, cyn- haliodd Eglwys St. Padarn, gyfarfod a hir gofir gan bawb oedd yn bresennol. Yr amcan oedd cyflwyno tysteb i'r Parch. William Davies, yr hwn fu yn Gaplan ar yr Eglwys am yn agos i ddeuddeng mlynedd. Ychydig amser yn ol derbyniodd Mr. Davies gaplaniaeth Infirmary, Islington, ac ar ei ymadawiad teimlai'r cyfeillion yn y lie eu hawydd i ddangos eu parch tuag ato a'u gwerthfawrogrwydd o'i lafur trwy gyflwyno tysteb iddo. Casglwyd tua 142 10s. at y mudiad, a phwrcaswyd oriawr aur hardd i Mr. Davies, ynghyd a "Tea a Coffee Service i Mrs. Davies i'w cyflwyno y noson hon. Cymerwyd y gadair gan Mr. liar Edwards, yr hwn a gyfeiriodd at Mr. Davies fel boneddwr a Christion, ac at y cynydd oedd wedi cymeryd lie yn yr eglwys yn ystod ei weinidogaeth. Hefyd talodd deyrn- ged uchel i Mrs. Davies, fel un weithgar, doeth, a ffyddlon. Wedi hynny siaradodd y Parch. W. Richards, Dewi Sant, yr hwn a gyfeiriodd at Mr. Davies fel offeiriad egwydd- orol, ac ymwelwr da. Ystyriai fod llwydd- iant Mr. Davies i'w gyfrif i raddau helaeth i'w ymdrech diflino yn y cyfeiriad yma. Yn nesaf doed at amcan y cyfarfod, sef cyflwyno y tystebau. Yn absenoldeb y Parch. Morris Roberts, cyflwynodd Mr. liar Edwards yr oriawr a'r gadwyn, ynghyd ag anerchiad hardd i Mr. Davies, a chyflwyn- odd Mr. Edward Roberts, y churchwarden, y Tea and Coffee Service i Mrs. Davies, ac a ddatganodd ei bleser i wneud hynny, gan fod Mr. a Mrs. Davies yn llawn deilyngu yr amlygiad hwn o barch. Yna cododd Mr. Davies i ddiolch drosto ei hun a Mrs. Davies, ac yr oedd yn hawdd gweled ei fod dan deimladau dwys. Dywedodd nas gallai byth ddiolch mewn geiriau yr hyn a deimlai a'i galon, am y teimladau da ddangosai yr eglwys a'i gyfeillion atynt y noson honno, ac y byddai iddynt drysori yr anrhegion a gyflwynid iddynt yn fwy na dim a feddent, ac y byddai St. Padarn yn anwyl byth yn eu calonau. Yna taflodd gipdrem ar y deuddeg mlynedd y bu efe yn gweithio yn y gen- hadaeth. Dechreuwyd gyda saith o aelodau mewn ystafell fechan, ond drwy gydweith- rediad ac undeb, llwyddwyd i gael adeilad eangach, a chynyddodd yr aelodau a'r gyn- ulleidfa, fel erbyn hyn mae golwg lewyrchus ac addawol ar y genhadaeth eglwysig yn Ngogledd Llundain. Yna diolchodd i bawb o'r aelodau, a'i gyfeillion y rhai a wnaethant gyfranu, ac i bawb fu yn gweithredu ynglyn a'r dysteb, a'r cyfarfod y noson honno. Yn ystod y cyfarfod caed unawdau gan Miss Martin, Miss Florrie Davies, Mr. Cecil Davies, Miss Rowlands, ac ereill ac anerch- iadau byr gan Captain Richards, Mr. Hughes (churchwarden), a'r Parch. Evan Williams, Abertawe. WALHAM GREEN.—Dydd Iau, Mehefin 27, ar ol ychydig oriau o gystudd, bu farw, yn 67 mlwydd oed, Mr. Robert Jones, J.P., yn ei breswylIod, Aberkin," 15, Wandsworth Bridge Road, Fulham, S.W. Ganwyd ef yn Aberkin, Llanystumdwy, lie y mae ei deulu wedi byw ers cenhedlaethau. Bu Mr. Jones yn byw yn Pwllheli am y rhan fwyaf o'i oes, lie yr oedd yn fawr ei barch, ac wedi bod yn llenwi pob swydd bwysig yn y dref a'r Sir. Tua 10 mlynedd yn ol daeth ef a'i deulu i fyw i Fulham, ac ymunodd a'r Eglwys yn Walham Green. Yr ydym wedi cael colled fawr iawn trwy ei farwolaeth. Bu yn athraw llafurus ac arolygwr yn yr Ysgol Sul. Bu yn ffyddlon yn mynychu y cyfarfod gweddi a'r Seiat, bob amser yn brydlon. Bydd chwithdod mawr ar ei ol ym mhob cylch yn yr eglwys. Yr oedd yn wr talentog iawn, yn hyddysg yn yr Ysgrythyrau, yn feddianol ar bersonoliaeth gref a dylanwadol. Bendith i bawb oedd ei glywed yn cynghori y plant a'r bobl ieuainc yn y Seiat. Yr oedd yn cymeryd dyddordeb neillduol yn yr achos, a gweithiodd yn galed dros yr Arglwydd tra yn ein plith. Nos Sul diweddaf, yn yr Eglwys, pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad dwfn a'i ddwy ferch yn eu profedigaeth chwerw o golli tad mor anwyl a rhagorol. Teimladau dwys iawn oedd yn meddianu yr holl aelodau wrth golli un oedd mor hoff gan bawb yn yr eglwys. Dydd Mawrth, Gor- phenaf 2ail, cymerodd y gladdedigaeth le yn Fulham Cemetery am 12 o'r gloch. Cyn- haliwyd gwasanaeth byr yn y ty gan y Parch. J. E. Davies, M.A., a chynhaliwyd gwasan- aeth arbennig yng nghapel Walham Green am 11 o'r gloch, a darllenwyd rhannau o'r ysgrythyr. Canwyd yr emynau adnabyddus Mor beraidd i'r credadyn gwan yw hyfryd enw Crist," Ar lan Iorddonen Ddofn," &c. Cafwyd anerchiadau gan y Parch. J. E. Davies, yn datgan ei barch a'i edmygedd o Mr. Jones; befyd gan y Parch. John Williams, Brynsiencyn, yr hwn oedd yn ei adwaen ers dros 25 mlynedd. Yr oedd ganddo barch dwfn erioed i Mr. Jones. Yr oedd yn arweinydd diogel bob amser yn yr Eglwys a'r Cyfarfod Misol, ac wedi gwneud gwaith da dros Iesu Grist yn Sir Gaernarfon am 40 mlynedd. Yr oedd yn garedig a boneddigaidd tuag at bawb bob amser. Mr. Robbyn Owen a adwaenai Mr. Jones er yn fachgen. Siaradodd yn uchel am dano fel dyn, a Christion pur Sanct Duw yn wir oedd ef. Mr. Timothy Davies, A.S., mewn ychydig eiriau, a roddodd fynegiad dwys i deimlad yr Eglwys wrth golli dyn mor dda a Duwiol o'n plith, ac mor barod i weithio bob amser dros ei Waredwr. Terfynwyd y gwasanaeth trwy weddi gan y Parch. F. Knoyle, B.A. Oddiyno aed i'r gladdfa, daeth tori fawr at lan y bedd i dalu'r parch olaf i'w goffa, ac yn swn adsain "Bydd myrdd o ryfeddodau a 0 fryniau Caer- salem rhoddwyd i orphwys weddillion y gwr da hwn. Boed nodded y Nef yn dirion ar ei ddwy ferch a phawb o'r teulu sydd yn eu galar a'u hiraeth. LL.
Eisiau Hanes Enwogion.
Eisiau Hanes Enwogion. Nodweddir yr adeg bresennol gan yr ymdrech a wneir i roddi ar gof a chadw Enwogion Cymreig. Mae'n digwydd fod yn ein meddiant enwau rhai o'r enwogion hyn nad ydym yn gwybod gair o'u hanes, ond yn unig ein bod yn gwybod rhyw beth am eu gweithiau, megys y canlynol:- Ed. Morgan, ficer Syston, awdwr amryw gofiantau. John Rowland (Giraldus), hynafieithydd ac awdwr. Margaret Jones (y Gymraes o Ganaan),, awdures. Edward Parry, Caerlleon, argraffydd ac awdwr (nid John Parry). Nathan Rogers, awdwr llyfr pwysig ar Sir Fynwy. Deffett Francis, arlunydd yn Abertawe. A. J. Brereton (Andreas o Fon), Eis- teddfodwr ac awdwr. David Lloyd Isaac (Llwyd o Langathen), awdwr. Robert Oliver Rees, Dolgellau, awdwr. Ellis Jones, Caernarfon, awdwr geiriadur. D. Hughes (Eos Ial), bardd. Absolom Roberts, bardd. Byddai yn gaffaeliad i ni pe gallai rhai o'r lluaws ddarllenwyr y CYMEO LLUNDAIN A'R CELT ein cyfeirio at rywbeth sydd wedi ei ysgrifennu am danynt, neu rai o honynt yn y ffurf o hanes, neu ynte ddywedyd eu hunain air am danynt. Boddlonid ni pe gallem wybod dyddiadau eu genedigaeth a'u marwolaeth, lie y ganwyd hwy, eu galwed- igaethau, a'r lleoedd y buont yn byw ynddynt, a dyna yr oil. ALLTUD.
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of WalesY President-The Right Hon. LORD RENDEL. PrincipaZ-T. F. ROBERTS, M.A. (Oxon.), Ll.D. (Vict.). The next Session begins on October 1st, 1907. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, XIO, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee XI. Men Students reside in Registered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Stu- dents reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar
A BYD Y GAN.
reside in London, and, as will be seen from the advertisement in our Professional Column, she seeks engagements for concerts, At Homes, &c. We have heard her sing, and are very pleased with her voice and style. She sings as one who has a message to deliver, and right well does she deliver it. What more can be expected of a vocalist, and what less ought she to give us, if true to her calling ? We hope concert organisers will bear Miss Lassen in mind. We take a double interest in her as an Artist, and as an Advertiser The CELT is encouraged by the support of advertisers, and is always pleased to return the compliment.