Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Cawl Cenin.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Cawl Cenin. Yr Eisteddfod Genedlaethol. Mae'n hen bryd i'r National" dalu ym- weliad a Llundain, a hyderaf y bydd dir- prwyaeth gref o Lundeinwyr yn Abertawe yn dadleu drosom. Gwnaed cais yn Aber- pennar, ond gwyr Abertawe orfu, ac eleni sonir fod Caerfyrddin, Llandrindod, ac Aberystwyth ar y maes. Ond Llundain oedd allan gyntaf, a rhaid i'r lleill baratoi ar gyfer yr wyl fawr trwy gynal eisteddfodau lleol, ac yfed o'r ysbryd Eisteddfodol a Chymreig. Deallaf mai tawel iawn ydyw Caerfyrddin yn y mater, ac odid fawr na chiliant o'r maes cyn dydd y frwydr. Ond am Aberystwyth a Llandrindod gwelant gyfle i hysbysu eu hunain ar hyd a lied y byd fel lleoedd campus i dreulio misoedd yr haf, a thebygol iawn mai awgrymiad y Town Advertising Association yn y ddau le roddodd fod i'r syniad am wahodd yr Eisteddfod Genedlaethol. Nid oes angen advertisement ar Lundain, a mae yma filoedd o Gymry yn awch-us am weled yr hen wyl yn eu plith. Gwyddant beth yw cynnal Eisteddfodau ar raddfa eang, a gwyddant beth ydyw gwneud y cyfryw yn llwyddiant. Eisteddfod Genedlaethol 1887. Mae pethau yn wahanol iawn i'r hyn oeddynt yn 1887, pan fu'r Eisteddfod Genedlaethol yma ddiweddaf. Mae yma ragor o Gymry, a chredaf eu bod yn glynnu yn fwy wrth eu gilydd. Mae'r cyfleusderau teithio yn well o Gymru ac yn Llundain. Mae Vincent a W. E. Davies, ysgrifenyddion 1887, yn fyw, yn iach ac yn hoenus, a byddant yn arweinwyr i osgoi camgymer- iadau ac i fabwysiadu rhinweddau yr Eis- teddfod o'r blaen. Ac, ar ol edrych i bob cyfeiriad, credaf y dylem wneud llwyddiant mawr os cawn ganiatad i gynnal yr Eistedd- fod yn 1909, a charwn ei gweled yn dechreu cronfa er cael y Sefydliad Cymreig hwnnw freuddwydir am dano gan rai 0 dro i dro. Rhaglen 1887. Mae rhaglen 1887 ger fy mron, a rhyfedd y cyfnewidiadau sydd wedi cymeryd lie. Blwyddyn Jiwbili y Frenines Victoria! Cafodd Jiwbili arall wedi hynny, ac erbyn hyn mae hi yn y bedd a'i mhab ar yr orsedd. Beth am Bwyllgor yr Eisteddfod ? Sawl un sydd yn aros i fod yn gnewyllyn pwyllgor yr Eisteddfod nesaf? O'r swyddogion, mae J. H. Puleston, Ysw., A.S., wedi ymneillduo o fywyd Seneddol, ac yn adnabyddus fel Syr John Puleston. Hir oes i'r Cymro twymn- galon Bu yr Henadur David Evans yn eistedd yn nghadair yr Arglwydd Faer, ond ychydig a giywn am dano yn awr yn y byd Cymreig. Mae Morgan Lloyd a Stephen Evans wedi croesi i'r ochr draw ar ol rhoddi blwyddi o lafur i'w gwlad. Rhaid rhoddi "Syr" o flaen. enwau Lewis Morris, Isam- bard Owen, Marchant Williams, a John Williams, a da fydd gennym feddwl i'r boneddigion hyn oil gael eu hanrhydeddu gan y goron am eu gwasanaeth i hen wlad y bryniau. Mae Pencerdd Gwalia gyda ni o hyd, ac yn achlysurol swynol, a gwefreiddia gynulleidfaoedd mawrion a'i delyn. Yn ddiweddar iawn aeth Mr. Lewis H. Roberts i fyw i Aberystwyth, ond erys ei frawd, Mr. Richard Roberts, yn y brifddinas. Mae Mary Davies, hithau yn ein plith, er ei bod yn y cyfamser wedi bod dan gymylaii duon profedigaeth, ac wedi colli un oedd anwyl iddi hi ac i'r wlad. Y Pwyllgor. Mae amryw 0 aelodau yr hen bwyllgor yn parhau yn Llundeinwyr, a'r oil yn ffyddlon fel Cymry ac fel Eisteddfodwyr, ond gwelaf enwau amryw ydynt wedi eu symud, rhai o honynt i gylchoedd ereill yn yr hen wlad, ereill wedi croesi i fyd arall. Ym mysg y rhai y rhaid dywedyd y diweddar am danynt cawn William Davies, y cyfansoddwr melus Hugh Edwards, Robert Green, Evan Jones, J. W. Jones, John H. Morris, ac un neu ddau arall efallai nad wyf yn cofio yn awr am danynt. Yn canu yn y cyngherdd- au, ym mhlith ereill, yr oedd Mary Davies ac Edith Wynne, Annie Williams, Eos Morlais, Ben Davies, James Sauvage, a Lucas Williams. Arweinid Cor yr Eistedd- fod gan Pencerdd Gwalia a Tom Parry. Pa le mae Tom yn awr ? Pan welais ef ddiwedd- af yr oedd yn arolygu yr adran amaethyddol yn Ngholeg Aberystwyth. Cenid pennillion gan Idris Fychan ac Eos y Berth. Yn nghyfarfodydd y Cymmrodorion llywyddid neu siaredid gan y Prifathraw Thomas Charles Edwards, M.A.,D.D., Aberystwyth, Cadwaladr Davies, ac ereill. Y Beirniaid. A beth am y beirniaid ? Yr oedd llu o honynt, ac o'r rhai hyn mae y rhai canlynol wedi ein gadael. Elis Wyn o Wyrfai, Tafolog, Gwyneddon, Dafydd Morganwg, Watcyn Wyn, Isaled, a Dewi M011, Tom Ellis, R. A. Jones, Silvan Evans, Llyfrbryf, John Roberts, Cadwaladr Davies, Gethin Davies, Viriamu Jones, a Dr. Griffith Parry, Sir George Macfarren, Dr. Joseph Parry, Dr. Stainer, a Burne Jones. Yr oedd pob un o'r rhai uchod yn gawr-a oes cewri o'r fath yn aros ? Yn yr Orsedd, gynheled yn Hyde Park, arweinid gan yr Archdderwydd Clwydfardd, a chynorthwyid ef gan Hwfa Mon, Gwalch- mai, Nathan Dyfed a Llew Llwyfo, yr oil "wedi myn'd." Byddwn yn hoff iawn o'r Orsedd, ac yn gwneud ymdrech bob amser i fod yn bresennol ynddi, ond rhaid cyfaddef fod llawer o'i hurddas wedi myned gyda'r hen Glwydfardd, a Gwalchmai a Hwfa, &c. Arweinyddion y cyfarfodydd oeddynt Mabon, Pedr Mostyn, a'r Parch. Hugh Hughes, a maent oil yn parhau i wasanaethu eu gwlad mewn gwahanol gyferiadau. A dyna restr 0 lywyddion ardderchog. William Ewart Gladstone, yn Gymreig ei gartref, a chanddo galon gynnes tuagat y wlad a'i phobl; Arglwydd Mostyn, cefnogydd pybyr i bopeth Cymreig, Stephen Evans, aberth- odd gymaint dros ei gydwladwyr; Henry Richard, A.S., un o brophwydi cyntaf y mudiad cenedlaethol Cymreig ac Apostol Heddwch; yr Henadur David Evans, Ar- dalydd Bute, yr hwn, ac yntau yn estron, ddaeth i garu Cymru, ei phobl a'i hiaith; Lewis Morris, y bardd Clwydfardd, Ty- wysog Cymru, John Puleston, a'r Arch- ddiacon Griffiths. Y Llywyddion. Nid oeddwn yn cofio nes cael golwg eto ar y rhaglen fod Clwydfardd wedi bod yn llywyddu un o'r prif gyfarfodydd. Da iawn, bwyllgor Llundain. Cof gennyf am yr hen frawd ar lwyfan un o Eisteddfodau Bangor yn ymgomio a Brenhines Roumania (Carmen Sylvia), a hithau yn dotio arno, ac ar ei Yes, ma'm." Pwy ennillodd y gwobrwy- on ? Pa gorau fuont yn cystadlu ? Ceir y rhestr yn newyddiaduron a chylchgronau y cyfnod, ac yn y Transactions, ac nis gallaf ar hyn o bryd eu nodi na rhoddi darluniad desgrifiadol o'r cyfarfodydd. Dyddorol iawn yw'r hanes fel y bu bechgyn chwareli y Gogledd, boys y Rhondda yn ymgodymu a'r corau ddygwyd gan y diweddar John North, o Huddersfield; fel y cadeiriwyd Berw fel y rhoddwyd croesawiad brenhinol i Dywysog Cymru fel y gwnaed mil a mwy o bethau yn y gwahanol gyfarfodydd. Efallai y gwna ereill y gwaith hwn-rhywun fu'n gweithio gyda'r Eisteddfod, ac yn ei dilyn o'i chychwyniad i'r diwedd. Ac yn yn awr am 1909 EISTEDDFODWR.

Advertising