Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

COLEG Y GOGLEDD, BANGOR.

Advertising

Eisteddfod 1909.

Gohirio Eto.

YN OL 0 AMERICA I LUNDAIN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YN OL 0 AMERICA I LUNDAIN. GAN MISS ELLEANOR WILLIAMS. Wedi ami arfaethu a mynych siomiant. dyma fi a 'mhac yn barod i gychwyn adre, Gadewais Jonhnstown, Ohio, Mehefin lleg, er mwyn cael ymdroi ychydig yn ninas New York. Nid oedd pethau fel y dymunwn yno. Gan fy mod yn sal ni chefais fyned i'r "missions." Dim ond myned i'r gwely i geisio ennill digon o nerth i gychwyn am y cwch mawr er mwyn i Dafydd Jones" siglo tipyn arnaf i gysgu. Gan fod y Baltic un tro wedi methu cael y teithwyr i mewn yn ddigon bore collodd y llanw mawr, a glyn- odd yn y mwd am amser hir, a'r drefn nesaf oedd i bawb fyned i mewn y nos o'r blaen. Wel, fydd arnaf i ddim eisiau "Night before eto ar y Baltic Myned i'r dociau i chwilio am y baggage office, a'm trwhciau oedd wedi eu gyrru yno o Johnstown. Erbyn hyn 'roedd trunkiau tros ddwy fil o deithwyr wedi eu chwalu yn llanast ar hyd y platform, hir pob iaith yn cael ei siarad. Gofynais i un swyddog, Have you got my trunks?" "No," meddai, "I am a Scandi- navian. Go to some one else." Dyna fi yn myned, a gofyn i un arall, No," meddai, I am Norwegian porter." O'r diwedd, dyna fi yn cael gafel yn un bychan ac yn ei gipio, gan adael y lleill i fentro eu siawns mor sal oeddwn nad oedd waeth gennyf pe buaswn i a phop'eth yn ngwaelod y mor. Felly bu ar hyd y nos, y miloedd yn d'od a'r miloedd ffrindiau o'r dinasoedd New York a'r Jersey City yn dod i ffarwelio; chwerthin, a wylo, nes daeth y bore, a'r swyddog yn gwaeddi ar y ffrindau fyned i dir i ni gychwyn neu sincio yn y mwd. Dyna gychwyn, ond 'roedd y mor yn eithaf clapiog. Aeth llawer yn sal wrth ddod i fyny y banks of Newfoundland, er ein bod ar y bad mwyaf steady sydd wedi ei adeiladu erioed. Mae yn mesur 705 o droedfeddi o hyd, yn pwyso 30,000 o dynelli, yn llosgi 1,700 o dynelli o lo ar y daith. Mae 105 o danwyr yn gofalu am y peirianau mawr, 276 o stewards yn atendio, 53 o griw. Teithwyr, 1st class, 393 2nd class, 357 3rd class, 1,057. Croesodd yn dawel mewn 8 niwrnod. Cawsom daith ardderchog, pawb yn glanio yn lion ei wedd. Cawsom. fwyd da, a digon o hono. Rhyddid gan Captain Ransom a'r swyddogion i gael gwasanaeth crefyddol trwy y dydd Sul, a rhai cyrddau yn yr wythnos, ond y pwnc mawr gennyf oedd cael glanio yn Liverpool i gwrdd a'm brodyr a ffrindau, a chael brysio i Lundain, lie cwrddwyd fi gan y chwiorydd, a chael myned i Castle Street i de, lie 'roedd y Cwrdd Gwnio. Edrychais o bell am gael bod yma erbyn Sul y Breakfast Cenhadol a'r wyl flodau. Ni welais erioed y fath dorf 0 bobl yn Castle Street. Cyrddau hyfryd, a minau yn cael cwrdd a hen ffrindau anwyl, ysgwyd llaw, ie, nes mae cefn fy Haw wedi duo wrth ei gwasgu. Diolch am gael dod adre diolch hefyd am y capel, ac am y CELT, yn gyfrwng i'ch cyfarch un waith eto, ELLEANOR WILLIAMS. Castle Street.

[No title]