Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
COLEG Y GOGLEDD, BANGOR.
COLEG Y GOGLEDD, BANGOR. (Un o'r Colegau ym Mhrifysgol Cymru). PRIFATHRAW H. R. REICHEL, M.A ,LL D. Dechreua'r tymor nesaf, Hydref 1, 1907. Paratoir ar gyfer arholiadau Prifysgol Cymru, rhai o eiddo Prifysgol Llundain, y cwrs meddygol ym mhrifysgolion Llundain, Edinburgh, a Glasgow, ac arholiadau ereill. Rhoir addysg arbennig mewn Amaethydd- iaeth (yn cynnwys triniaeth coed) ac Electrical Engineering. Mae y coleg yn adran normal- aidd i athrawon elfenol a chanolraddol. Cynygir dros 20 o Ysgoloriaethau, yn amrywio mewn gwertli o Y.40 i Y,10 y flwyddyn, yn necbreu'r tymor nesaf. Mae Ysgoloriacthau Tate yn gyfyngedig i Gymry, Ysgoloriaetbau John Hughes yn gyfyngedig i fecbgyn aned yn Sir Fon neu Sir Gaer- narfon, ac Ysgoloriaethau Richard Hughes i drigolion Mon. Dechreua'r arholiad am danynt Medi 17. Ceir pob manylion gan J. E. LLOYD, M.A., Ysgrifennydd a Chofrestrydd.
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of Wales.) PRESIDENT—The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). THE next Session begins on October the 1st. A number of Entrance Scholarships and. Exhibi- tions, open to both Maie and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 17th, 1907, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Competition Fee, £10, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar.
Eisteddfod 1909.
Eisteddfod 1909. Bydd ymgipris am Eisteddfod 1909 yn Abertawe eleni. Mae pedair o drefi yn gwneud ceisiadau am yr Wyl Genedlaethol, ac mae pob un o honynt o ddifrif hefyd. Yr wythnos bon caed cyfarfod mawr i ategu cais Llundain, ac roedd gwyr blaenaf y d din as hon yn unfarn o barthed rhoddi gwahoddiad cynnes i'r Eisteddfod i ddinas Caerludd eto ymhen. dwy flynedd. Ugain mlynedd i'r flwyddyn. hon y caed Eisteddfod fawr Caerludd o'r blaen, ac er i'r wyl honno fod yn golled arianol, addefir yn gyffredin iddi fod yn llwyddiant mawr ym mhob ystyr arall. Pan ystyriwn. y gwobrau anrhydeddus roddwyd ar y pryd ni fu y golled arianol yn fawr ychwaith, a gwyddom am amryw o gynulliadau yn y wlad wedi rhedeg i fwy o Hinder nag a wnaed ynglyn a gwyl fawr 1887. Un peth a nodwedda cais Llundain yw mai nid er mwyn elw nac er mwyn hysbysu'r dref y gwneir yr apel presennol, eithr er mwyn adgyfnerthu yr hen wyl ei hunan. Er's blynyddau bellach mae pob peth ynglyn a hi wedi myn'd mor ystrydebol fel mae'n hen bryd cael syniadau newyddion ynglyn a'i rheolaeth, a chredwn y gwneud hynny pe deuai tan reolaeth gwyr profiadol y ddinas hon am dro. Oddiar 1887 mae nifer y Cymry yn Llundain wedi lliosogi yn ddirfawr. Maen't yn fwy cryno ac yn llawer mwy hawdd eu casglu ynghyd nag yn yr adeg annrhefnus honno. Mor bell ag y mae gofynion arianol Cymdeithas yr Orsedd yn myned bydd yn hawdd cael y swm angen- rheidiol er sicrhau yr wyl, ac yn wir llwydd- wyd i gasglu hanner y pres yn y cyfarfod a gaed yr wythnos hon. Yr unig angen yn awr yw ar i'r cynrychiolwyr yn Abertawe osod yr achos yn benodol ger bron, ac ond gwneud hynny ni fydd amheuaeth nad i Gaerludd y daw'r Wyl Fawr eto yn y flwyddyn 1909.
Gohirio Eto.
Gohirio Eto. Ar ol wythnos arall o eisteddiad pender- fynodd aelodau y Ddirprwyaeth Eglwysig, ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, mai buddiol fyddai gohirio'r gweithrediadau bellach hyd fis Hydref, ac awgrymwyd ganddynt y pri- odoldeb o gynnal eisteddiadau parhaol am y mis b.wnnw er mwyn gorphen a phob tyst feiddia ymddangos ger eu bron. Ar yr olwg gyntaf, ac i'r anghyfarwydd, y mae'r cyfan yn edrych yn dra chwerthinllyd. Mae'r eisteddiadau wedi bod mor ychydig ac mor anghyson fel mai prin y gellir gofyn am seibiant ganddynt oherwydd gor-lafur. Yr anhawsterau pennaf yn erbyn cynnal eisteddiadau yn ystod y tri mis nesaf yw'r "gwyliau." Bydd y Dirprwywyr eu hunain yn ymwasgar yn y man, un i bob cyfeiriad o'r byd, i dreulio'r gwyliau arferol. At hyn gwyddis mai Gorphenaf ac Awst yw dyddiau tawel y person a'r pregethwr fel mai an- hawdd fyddai cael neb o'r rhai hyn i ym- ddangos ger bron. Peth arall, mae ym mwriad y Comisiwn yn awr i ddechreu ar dystiolaethau cyffredinol, ac hwyrach ar 01 cael mis o'r cyfryw bydd y Dirprwywyr yn y ddigon parod i ysgrifennu eu barn ar yr holl fusnes. Credir yn lied gyffredin y llwyddir i gael yr adroddiad allan yn ystod y Nadolig neu yn fuan wedi gorphen a'r hen flwyddyn, fel ag y gall y Weinyddiaeth weled fod Cymru yn berffaith unol a gonest yn ei chais am Ddadgysylltiad. Ceir y tystiolaethau enwadol yn nechreu Hydref, a da gennym ddeall fod amlinelliad o'r hyn ddywedir ar ran yr Hen Gorff eisoes mewn Haw, ac yn brawf fod y Cyfundeb yn fyw i'w waith yn hyn o fater. Gobeithio, hefyd, y daw'r enwadau ereill a'u cyfrifon ym mlaen, ac yr hwylusir y gwaith fel ag i'w derfynu yn briodol erbyn adeg y Senedd-dymor nesaf.
YN OL 0 AMERICA I LUNDAIN.
YN OL 0 AMERICA I LUNDAIN. GAN MISS ELLEANOR WILLIAMS. Wedi ami arfaethu a mynych siomiant. dyma fi a 'mhac yn barod i gychwyn adre, Gadewais Jonhnstown, Ohio, Mehefin lleg, er mwyn cael ymdroi ychydig yn ninas New York. Nid oedd pethau fel y dymunwn yno. Gan fy mod yn sal ni chefais fyned i'r "missions." Dim ond myned i'r gwely i geisio ennill digon o nerth i gychwyn am y cwch mawr er mwyn i Dafydd Jones" siglo tipyn arnaf i gysgu. Gan fod y Baltic un tro wedi methu cael y teithwyr i mewn yn ddigon bore collodd y llanw mawr, a glyn- odd yn y mwd am amser hir, a'r drefn nesaf oedd i bawb fyned i mewn y nos o'r blaen. Wel, fydd arnaf i ddim eisiau "Night before eto ar y Baltic Myned i'r dociau i chwilio am y baggage office, a'm trwhciau oedd wedi eu gyrru yno o Johnstown. Erbyn hyn 'roedd trunkiau tros ddwy fil o deithwyr wedi eu chwalu yn llanast ar hyd y platform, hir pob iaith yn cael ei siarad. Gofynais i un swyddog, Have you got my trunks?" "No," meddai, "I am a Scandi- navian. Go to some one else." Dyna fi yn myned, a gofyn i un arall, No," meddai, I am Norwegian porter." O'r diwedd, dyna fi yn cael gafel yn un bychan ac yn ei gipio, gan adael y lleill i fentro eu siawns mor sal oeddwn nad oedd waeth gennyf pe buaswn i a phop'eth yn ngwaelod y mor. Felly bu ar hyd y nos, y miloedd yn d'od a'r miloedd ffrindiau o'r dinasoedd New York a'r Jersey City yn dod i ffarwelio; chwerthin, a wylo, nes daeth y bore, a'r swyddog yn gwaeddi ar y ffrindau fyned i dir i ni gychwyn neu sincio yn y mwd. Dyna gychwyn, ond 'roedd y mor yn eithaf clapiog. Aeth llawer yn sal wrth ddod i fyny y banks of Newfoundland, er ein bod ar y bad mwyaf steady sydd wedi ei adeiladu erioed. Mae yn mesur 705 o droedfeddi o hyd, yn pwyso 30,000 o dynelli, yn llosgi 1,700 o dynelli o lo ar y daith. Mae 105 o danwyr yn gofalu am y peirianau mawr, 276 o stewards yn atendio, 53 o griw. Teithwyr, 1st class, 393 2nd class, 357 3rd class, 1,057. Croesodd yn dawel mewn 8 niwrnod. Cawsom daith ardderchog, pawb yn glanio yn lion ei wedd. Cawsom. fwyd da, a digon o hono. Rhyddid gan Captain Ransom a'r swyddogion i gael gwasanaeth crefyddol trwy y dydd Sul, a rhai cyrddau yn yr wythnos, ond y pwnc mawr gennyf oedd cael glanio yn Liverpool i gwrdd a'm brodyr a ffrindau, a chael brysio i Lundain, lie cwrddwyd fi gan y chwiorydd, a chael myned i Castle Street i de, lie 'roedd y Cwrdd Gwnio. Edrychais o bell am gael bod yma erbyn Sul y Breakfast Cenhadol a'r wyl flodau. Ni welais erioed y fath dorf 0 bobl yn Castle Street. Cyrddau hyfryd, a minau yn cael cwrdd a hen ffrindau anwyl, ysgwyd llaw, ie, nes mae cefn fy Haw wedi duo wrth ei gwasgu. Diolch am gael dod adre diolch hefyd am y capel, ac am y CELT, yn gyfrwng i'ch cyfarch un waith eto, ELLEANOR WILLIAMS. Castle Street.
[No title]
MAE Mr. Prichard Jones, Regent Street, Llundain, wedi cyfranu tair mil o bunnau at Gronfa Adeiladu y Coleg newydd ym Mangor, a Mr. D. Davies, A.S., Llandinam, wedi cyfranu mil. MRi. EVANS, SONS, & FOULKES, o Swyddfa'r Brython, Lerpwl, ydynt gyhoeddwyr testyn- au Eisteddfod Llangollen, ac y maent wedi troi allan lyfryn prydferth. Mae yn y testyn- au feusydd amrywiol i gyfarfod chwaeih pawb. ■ ■ ■