Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

EISTEDDFOD 1909.

[No title]

A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAG. BLYNYDDOEDD Y NEWYN.—Mewn ysgrif o dan y pennawd hwn dywed Mr. Emlyn Evans nad oes neb sylwgar ymhlith ein cerddorion heb fod wedi teimlo, er's blyn- yddau, nad yw ein sefyllfa gerddorol mor lewyrchus ag y byddai yn ddymunol iddi fod-mewn cyfansoddi, datganu-unawdol a chorawl, arweinyddiaeth a dysgeidiaeth gerddorol yn gyffredinol. Y mae yn ddiau fod hyn yn wir, ag ystyried manteision cerddorol ein cenedl. Nis gwyddom am un soprano ddiweddar o'r eiddom sydd wedi cyrraedd safle y di- weddar Edith Wynne; ond tybiwn fod gennym fwy nac un contralto uwchraddol. Ac am Denors, ni wyddom am un o enwog- ion y dyddiau fu a ddaeth i fynu a Ben Davies. Ond y mae gennym fwy nac un Baritone ydynt yn anrhydedd i ni fel cenedl. Prin iawn ydym mewn Arweinyddion Cerddorol, yr hyn sydd beth anesboniadwy -os na ellir ei esbonio ar sail diffyg di- wylliant cerddorol. YSGOLORIAETIIAU ELEAZAR ROBERTS. — Da gennym ddeall y cynhelir cymanfaoedd canu yn lied fynych yng Nghymru er budd y rhai hyn. Gresyn na ellid cael Cymanfa yn Llundain. Er dangos yn sylweddol ein bod fel dinasyddion yn gwerthfawrogi llafur Mr. Roberts gyda'r Sol-ffa. COR UPSALA.-Llwyddiant mawr fu ym- drechion y cor meibion enwog hwn yn y Queen's Hall, er nad oedd yr adeilad yn llawn. Ymhlith y darnau ddarfu iddynt ganu fel encores ydoedd Gorymdaith Gwyr Harlech." DAVID EVANs.-Bydd yn dda gan lu ed- mygwyr y baritone hwn ddeall ei fod newydd ennill y Swansea Eisteddfod Prize yn yr R.A.M. Miss AMY EVANS. Rhoddodd y gantores hon Recitals yn y Bechstein Hall yn ddi- weddar. Dywed cyhoeddiad cerddorol Seisnig am dani ei bod yn meddu llais o ansawdd dda, yr hwn a gynnyrchir yn effeithiol. Ychwanega ei bod hefyd wedi deall y gelfyddyd o mezzo voce (llais y pen). Llawenychwn yn ei llwyddiant. CLARA BUTT.-Fel y gwyr y byd cerdd- orol, y mae y gantores enwog hon ar ym- weled ag Australia. Ceir erthygl ddydd- orol ganddi yn y Strand Magazine am y mis presennol. Ni cheir llawer o newydd-deb yn ei sylwadau, modd bynnag. Oynghora gantorion ieuainc i beidio brysio i ddysgu eu crefft, ac i beidio ymarfer yn hir bob tro-ar y dechreu. Wele ddau sylw o'i heiddo, gwerth eu cofio It is a great mistake, though unfortunately a very common one with young singers, to exercise the throat too much before rendering a song. It is, I consider, most essential that before singing in public the vocalist should give her throat some sort of rest. Etc Faulty enunciation is another mis- take to which the young singer is prone. The late Queen Victoria once told me that her enjoyment of my singing was very greatly enhanced by the clearness of my enunciation, and I esteemed that high com- pliment all the more because it so fully re- flected my own views on this question. Enjoyment of vocal music-of Oratorio especially cannot be complete unless every word pronounced by the singer is heard distinctly by every member of the audience." Cynghora gantorion ieuainc i fynychu7r cyngherddau goreu er dysgu sut y ceni- darnau gan rai profedig. Y mae gan Lunr deinwyr ddigon o gyfleusderau yn y cyf- eiriad hwn. Y mae felly rhyw fantais mewn bod ym Mabilon y byd CYNGHERDD MADAME TEIFY DAVIES.-Nos Lun rhoddodd y gantores hon ei Recital yn y Steinway Hall, ac yr oedd yr adeilad yn llawn. Yr oedd mewn llais rhagorol, a chanodd 19eg o Alawon, fel y gellir deall fod ganddi ddarpariaeth llawn o amrywiaeth i ni. Da gennym ar un cyfrif ddarfod iddi ganu cymaint o unawdau Ellmynaidd-darnau hollol anwybyddus, yn ddiau, i fwyafrif y dorf, ond yr oeddynt yn emmau gwerth i Gymry cerddgar gael bias arnynt. Cyfeir- iwn yn bennaf at gynnyrchion Brahms. Afreidiol i ni enwi yr holl ddarnau yma. Digon ydyw dweyd iddi orfod ail ganu "Sicheres Merkmal," o waith y cyfeilydd hefyd Comin' through the Rye a Clych- au Aberdyfi." Y mae ei llais wedi gwella ers pan y clywsom hi amser yn ol. Y mae ei nodau gan mwyaf yn bur a thra swynol; ac y mae ei holl waith yn dangos gorphenedd. Cred- wn ei bod, ddwy neu dair blynedd yn ol, yn fwy o contralto nag ydyw yn awr. Y mae ei nodau uwchaf mor dlws, pur, a swynol a'r eiddo llais soprano. Yn sicr y mae wedi gwella i fyny" Er mor fawr y darfu i ni fwynhau ei gwaith hi, rhaid dweyd am Mr. Meyrowitz na chlywsom erioed well cyfeilydd. Yr oedd ei waith yn gynorthwy gwirioneddol i'r llais ac y mae canu gyda'r fath feistr yn cyfeilio yn sicr o fod yn bleserus. Os bu erioed gyfeilydd wedi ei fwriadu i'r gwaith, dyma un. Y mae hefyd yn gerddor gwych, fel y dangosai ei Alawon a genid gan ei briod. Dichon na chlywir ei ganeuon "yn yr ystryd," fel y dywedir, ond y mae bywyd ynddynt! Gobeithio y cymer awdurdodau Eisteddfod Abertawe yr awgrym gennym i ofyn i Mr. Meyrowitz gyfeilio caneuon Teify Davies yno RWSSIA.—Byddwn yn cychwyn am y wlad hon heddyw (y Sadwrn). Ceisiwn anfon cenhadwri oddiyno i'n darllenwyr, gan hyderu y bydd yn un fuddiol.

SISWRN Y GOLYGYDD.