Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

7 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd y Gol.

Gohebiaethau.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Gohebiaethau. At Olygydd y CYMRO LLUNDAIN A'R CELT. IOAN FEDYDDIWR. Pa faint, tybed, o ddarllenwyr y CELT sydd yn 'derbyn y Deonglwr ? Faint o honom sydd wedi sylweddoli (neu wedi darganfod yn hytrach) rhyw- beth mwy am loan Fedyddiwr nai fod wedi bod yn yr vanialwch yn bwyta locustiad a mel gwyllt ? Yn y Deonglwr" am y mis hwn cyhoeddir pregeth a dra- "ddodwyd yn ddiweddar ar foreu Sul yn Falmouth Road gan y Parch. S. E. Prytherch ar y ddwy adnod gyntaf yn Luc iii. Dengys Mr. Prytherch tu hwnt i bob dadl na ddarfu i loan (fel ag y mae y dyb gyffredin) dreulio ei flynyddoedd rhagarweiniol mewn unigedd digym- deithas hollol, ond ei fod yn perthyn i sect o gref- yddwyr a elwid yr Esseniaid. Nid hawdd, yn wir, yw amgyffred y ffaith y rhenid cymdeithas yn y <lyddiau tywyll hynny i wahanol sectau, ond rhydd Mr. Prytherch hanes y sect honno, a dangosa hefyd Y gwahaniaeth oedd cydrhwng y sect honno a loan Fedyddiwr. Darfu i loan dderbyn y cwbl goreu oedd gan yr Esseniaid i'w roddi iddo darfu iddo -dyfu yn fwy na'r Sect. Yr oedd hyn yn glod i enw loan, ac y mae yn wers amserol i ninnau i dyfu yn uwcll. na Sect neu Enwad. Mae y bregeth yn cael ei rhanu yn ddau ben- (1) Perthynas loan a'i oes. (2) Perthynas loan a Christ. Mae hi yn bregeth gwerth ei darllen am ei bod yn un 'nlor amserol, mor addysgiadol, ac mor ddyrchafiadol. -I)arllenwch hi. J. H.

[No title]

PULPUD YR WYTHNOS.

----PUBLISHERS' NOTE.

Advertising

[No title]