Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Y Gynhadledd w es I eyai d d1 0 0 1907. 'f"r:X>ér-r-v.r- EGLWYS Y WESLEYAID CYMREIG CITY ROAD, ø a a Finsbury Square, B.e. CYNHELIR CYFRES 0 a rfo v d (Jyfarfodydd pregethu YN Y LLE UCHOD (Ynglyn a'r Gynhadledd Wesleyaidd). Pregethir gan y Gweinidogion canlynol, fel y canlyn Y SUIJ, Gorphenaf 21ain- 11,0-Parch. RICE OWEN (Cadeirydd y Dalaeth Ddeheuol). 3.0-Parch. J. CADVAN DAYIES (Aberystwyth). 6.0-Parch. T. MANUEL (Aberdare). „ Parch, R. LEWIS (Liverpool). Y SUL, Gorphenaf 28ain- ltO-Parch. EDWARD HUMPHREYS (Cadeirydd Talaeth laf Gogledd Cymru). 3.0-Parch. T. J. HUMPHREYS (Machynlleth—Cyn-Lywydd y Gymanfa). 6.0-Parcq, ISHlVfAEL EYANS (Beaumaris-Cyn-Lywydd y Gymanfa). „ Parch. HUGH JONES, D.D. (Bangor-Cadeirydd Ail Dalaeth Gogledd Cymru). NOS IAU, Awst laf- 8.0—Parch. PETER JONES (Caergybi). CAPEL BRUNSWICK, BALCOMBE STREET, DORSET SQUARE (Pum munyd o Orsaf Baker Street.) ..r-f /r-j"f' Y SULi, Gorphenaf 21ain- 11.0-Parch. T. JONES HUMPHREYS (Machynlleth). 3.0—Parclt. RICE OWEN (Ferndale). 6 30-Parch. HUGH JONES, D.D. (Bangor). Y SUL, Gorphenaf 28ain- 11.0-Parch. THOMAS MANUEL (Aberdare). 3.0—Parch. PETER JONES (Holyhead). 633—Parclt- J. CADYAN DAVIES (Aberystwyth). NOS IAU, Awst laf— 80-Parch. A. C. PEARCE (Penygraig), Gwneir Casgliad ym mhob Oedfa. D.S.-Cyn helir Cyfarfod yn Brunswick (Balcombe Street, Dorset Square, W.), Nos lau, Gorphenaf 25ain, i groeSawu y Cynrvchiolwyr Cymreig. Gwnned holl Aelodau y Gylchdaith ymdrech i fod yn bresenol. UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYSTWYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of Wales.) PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). THE next Session begins on October the 1st. A 1 number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 17th, 1907, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Competition Fee, £10, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar.
II"NlL-tv" I--I—-[ fLLUNDAmf…
I I"NlL-tv I—-[ fLLUNDAmf < -s?- London Ulctsbtnan and Kelt. TEYRNGARWCH CYMRU. Yn ystod yr wythnos ddiweddaf cafodd Cymru-yn Dde a Gogledd-gyfle nodedig i ddangos ei pharch i'n Brenin a'n Bren- hines; a manteisiodd ar y cyfle hyd eithaf ei gallu. Ni chafodd lorwertli erioed, gan un wlad, dderbyniad mwy cynnes nag a roed iddo gan galonnau gonest gwerin Cymru. Trodd y bobl allan yn lluoedd i floeddio hwre o'i flaen, a chanodd y plant eu halawon cenedlaethol gyda'r fath frwdfrydedd nes ennill sercli ac edmygedd yr ymwelwyr brenhinol yn llwyr. Mae'n wir mai gwlad fechan hir-ormesedig yw Cymru er hynny, gwyr sut i dalu parch i'w theyrn, sy'n rheoli mor dirion trosti yn awr, a gwel hefyd mai trwy gariad a thegweh, yn hytrach na thrwy orthrech a bygythion, y mae iddi enill y rhan helaethaf o fendithion rhyddid yn yr oesau presennol. Bu adeg pan nas gellid argyhoeddi y Sais, ond trwy rym y cledd, ac mai wrth ei orchfygu yn unig yr enillid ei edmygedd ond mae dyddiau gwell wedi gwawrio bellach, a daw rhyddid cenedl yn fwy hawdd trwy gymod a threfnu na thrwy yr hen ornestau gwaedlyd gynt. Profodd Cymru ei bod yn caru ei theyrn, a gwelodd yntau mai nid ymdrechion hunanol oedd ynglyn a'r mudiadau y bu yn gymera- dwyo ar ei ymweliad y tro hwn. Ym Mangor sefydlodd goleg newydd er addysgu plant, y werin i'w galluogi i fod yn well dinasyddion ac yn aelodau mwy teilwng o'r Ynysoedd Prydeinig. Yng Nghaerdydd rhoddodd ei sel ar y porthladd harddaf fedd ein hynys, yr hwn a bery yn un o golofnau pennaf i sicrhau cadernid a llwyddiant ei Ymherodraeth eang. Cadarnhau ei orsedd ydoedd wrth gefnogi y naill a'r llall, a chafodd gyfle i sylweddoli yn ei ymweliad brysiog, fod gan wlad fechan a chenedl ddinod fel Cymru a'i phobl ran helaeth yng nghadwraeth a llwyddiant cynyddol yr Ymherodraeth ar yr hon y teyrnasa gyda'r fath fedr a doethineb ar hyn o bryd.
[No title]
MAE sibrwd y ceir un neu ddau eistedd- iad o'r Ddirprwyaeth Eglwysig cyn yr Hydref wedi'r cyfan. Gellid yn hawdd alw rhagor o dystion lleol, ond y pwnc mawr bellach yw dod o hyd i'r tystiolaethau cyff- redinol er mwyn gweled pie yr ydym yn sefyll. CWYNAI un aelod Seneddol ddydd Llun fod y blaid Ryddfrydig yn gwerthu y teitlau brenhinol. Rhoddir yr addurniadau hyn, meddir, i'r gwyr a gyfrannant yn haelionus i gyllid y blaid. Dyna oedd cwyn y Radi- caliaid yn erbyn y Toriaid o'r blaen, a diau fod llawer o wir yn gorwedd wrth wraidd yr haeriad. NID yw dynion ieuainc Cymru sydd wedi cael addysg yn bwriadu diogi. Swn astudio ac ysgrifennu llyfrau sydd yw glywed o bob cyfeiriad. Bwriada y Parch. G. H. Havard, M.A., B.D., ddwyn allan gyfrol ar yr Ysbryd Glan ar linellau nad oes hyd yma ddim wedi ymddangos yn Gymraeg. Mae gan Dr. Robert Roberts, Trefnant, waith bychan yn y wasg ar Ysbrydoliaeth a Chanoniaeth y Beibl," yr hwn a ymddengys yn fuan ac hefyd waith mwy ar ddeddfau. cymdeithasol y Koran a'u ffynonellau, yr hwn a gyhoeddir yn yr Ellmynaeg. DYDD Sadwrn, mewn cyfarfod o Bwyllgor yr Ysbytty, yn Nhreffynon, hysbyswyd fod Mr. Edwin Jones, Clapham Park—a'r Bott Marche, Brixton-yn addaw anrhegu y dref ag ysbytty at ei gwasanaeth. Yr oedd y Pwyllgor ers tro mewn anhawster gyda'r mater hwn, ond cyfryngodd Mr. Jones mewn iawn bryd. Bydd y rhodd, rhwng y tir a'r adeilad, yn costio oddeutu £ 1,QGQ. Brodor o'r dref yw Mr. Jones, a brawd i'r Henadur Joseph Jones.
EIN SENEDDWYR DIOG.
EIN SENEDDWYR DIOG. Beth sydd wedi digwydd i'r Seneddwyr Cymreig yn ystod y Senedd-dymor presen- nol? Ychydig iawn o waith maent wedi gyflawni er cymaint eu haddewidion, ac anaml y clywir eu lleisiau ar lawr y Ty neu yn y pwyllgorau gweithiol. Ni welir bytli ragor na hanner dwsin o honynt yn bresen- nol, ac ar y rheiny mae dau neu dri yn rhwym i alwadau'r Ty, ond am y gweddill o'r nifer byddai yr un mor ddoeth i ni fod heb gynrychiolwyr o gwbl. Mae yn wir eu bod wedi cyfarfod rai troion i ymgynghori ar waith Cymreig y tymor, ond yr oil a wnaed y pryd hynny oedd cweryla a'u gilydd a beio y naill a'r Hall a anheyrngarweh. Os oes rhai o'r aelodau yn teimlo fod materion Cymreig yn cael eu hesgeuluso gan y Weinyddiaeth bresennol paham nas gwelir hwy yn eu lleoed yn fwy ami i alw sylw'r Senedd at eu hachos ? A barnu oddiwrth. waith y Senedd-dymor presennol y mae'n eglur i Gymru wneud camsynied dirfawr yn yr etholiad diweddaf. Byddai haid o Dori- aid gweithgar a ffyddlon yn llawer mwy llesol i ni na chatrawd o Ryddfrydwyr claiar, y rhai na roddant eu presenoldeb ond ar achlysuron neillduol ac anaml. Rhaid i Gymru godi ei gwaedd ar unwaith os am ddiwygiad, ac os na cheir diwygiad ar fyrder ofer fydd disgwyl am fesur Dadgysylltiad yn y Senedd-dymor nesaf.