Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

YN OL O'R AMERIG.

A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus. BAC. YR ARWEINYDD CANU. (Parhad).—Dywed Nikisch ddarfod iddo, amser yn ol, arwain Symphony o waith Brahms, ac yr oedd y cyfansoddwr yn bresennol. Chwareuwyd y gwaith mewn modd a barrai.syndod mawr i'r Meistr, a gofynai iddo ei hun a ydoedd yn bosibl mai ei gyfansoddiad ef ydoedd y darn ? Ar y diwedd aeth at Nikisch mewn teimlad brwd ac yn llawen hynod, ac meddai: "W el, gwnaethoch bopeth mor anhebyg, ond yr oeddych yn iawn-dyna fel y dylid dehongli y gwaith Parodd sylwadau Nikisch, a'r rhyddid gymerodd gyda gwaith Brahms gryn syndod i ni, nid am na chredwn y rhaid i bersonol- iaeth yr arweinydd fod yn amlwg iawn yn ei ddehongliad o'r gerddoriaeth ond y mae y cyfaddefiad gan Feistr fel Brahms nad oedd ei syniad ef ei hun o'i waith yn un cywir, ac mai yr Arweinydd roddodd iddo yr un iawn, yn gwneud i ni ryfeddu Dengys gymaint y rhaid i'r cyfansoddwr druan ymddibynnu ar eu esbonwyr. Ni ddeuai drwg o hyn pe byddai yr 611 wedi eu donio fel^Iikish—ond nid ydynt! < SAESON LLUNDAIN A'R EISTEDDFOD. -Y mae y Saeson yn Clapton, sef yr United Metho- dist Free Church, Pembury Grove, yn trefnu i gael Eisteddfod yno ar yr 21ain o Dachwedd. Credwn fod yno ddefnyddiau da, canys clywsom rai o'u lleiswyr yn un o'r Eisteddfodau Ileol Cymreig y fiwyddyn ddi- weddaf, a thybiwn iddynt fod yn fuddugol. I y Hyderwn na fydd i bwyllgor un Eistedd- fod berthynol i ni, Gymru, benderfynnu ar yr un dyddiad, er rhoddi cyfle i gystadleuwyr Cymreig i fyned i'r ymdrechfa yn Clapton, a hefyd rhag rhwystro y Saeson o Clapton i gystadlu, o bosibl, mewn cyrddau Cymreig. Fel y gwyddis, y mae y Saeson yn myn- ychu'r Eisteddfodau yn lied gyson, ac hyd yn oed yn yr un Genedlaethol ni raid iddynt gywilvddio. Yn wir, mynych yr a y brif wobr gorawl iddynt. EGLWYS RYDD" Y SGOTLAND. Deallwn fod hon yn dangos arwyddion o afiechyd lied beryglus i'w chynnydd. Y mae, yn ol y Musical Times, newydd gyhoeddi casgliad o Salm-donau i leisiau yn unig, pob llais ar ei ben ei hun, a dyma'r ddau reswm: (1) Fel nas gellir chwareu y Salm-donau gyda rhwyddineb ar yr Organ; (2) Y mae y short score ynddo ei hun yn gymhelliad i rai i chwareu tonau ar y Sul er difyrweh Y mae'n debyg fod y bobl hyn yn credu eu bod yn gwneud gwasanaeth i grefydd drwy hyn! Yr oedd y mwyafrif yng Nghymru hanner can mlynedd yn ol o'r un farn a hwy. Credent fod chwareu offeryn yn y capel yn yr addoliad i'w gondemnio. Cofiwn yn dda i gmryw o Fethodistiaid Dyffryn Clwydadael y capelau y perthynent iddynt, oherwydd y box canu." Erbyn hyn credwn fod bron bob capel yng Nghymru yn meddu offeryn-organ. os gellir ei chael modd yn y byd. Y mae hyn yn profi fod y Cymry erbyn hyn yn argyhoeddedig fod offeryn yn gynorthwy, ac nid, fel y tybia yr Ysgotiaid sych a ennwyd uchod-yn faen tramgwydd neu yn fagl. Yr ydym ni o'r farn fod defnyddio yr harmoneg neu'r organ gyda'r canu yn gaffaeliad ond cawsom fwy nag un prawf fod gwneud i ffordd a'r Dechreuwr Canu a rhoddi'r holl awdurdod yn Ilaw yr organydd, yn gamgymeriad. Yr oeddym mewn gwas- anaeth yn ddiweddar mewn capel Cymraeg, a chredem nad oedd yr organydd yn ddigon gofalus gyda'i ddarlleniad o'r Emynau. Hoffem yr hen ddull yng Nghymru, pryd y byddai y dechreuwr yn myned nos Sadwrn i lety y pregethwr dieithr, neu i dy y gwein- idog, er cael yr emynau y bwriedid eu canu y Sul. Treuliau y dechreuwr gryn amser uwch ben yr emynau, ac erbyn y gwasan- aeth drannoeth yr oedd wedi eu deall yn bur dda. Nis gwyddom arferiad pregethwyr y dyddiau presennol, ond pe dewisent yr emynau, a'u rhoddi ymlaen Haw i'r dechreu- wr neu yr organydd, ac i hwnnw aros uwch- ben y cyfryw ddigon o amser i'w deall, byddai y canu yn fwy effeithiol. EISTEDDFOD GENEDLAETHOL 1909.-Hyder- wn y llwyddir i gael yr Eisteddfod i Lunden y flwyddyn honno. Gall y Gogleddwyr ddod yma mor rhad ag y gallent fyned i'r Deheu- dir i'r Eisteddfod, a'r Deheuwyr ddod yma am gan lleied ag a gostir i fyned i'r Gog- ledd ac os gofelir y tro nesaf i godi pris tocyn am fynediad i mewn i'r Eisteddfod yma gyda pris tocyn rhad y tren, credwn y ceir elw i'r drysorfa. Yr ydym fel Llundeinwyr wedi profi eisoes y gallwn ddarparu gwledd Eistedd- fodol ddiguro ac nid yw ond teg i ni yma gael yr anrhydedd o gynnal yr Wyl Genedl- aethol yn ein tro. Tybed y diystyrir cais y Brifddinas ? Anhawdd gennym gredu. Miss MARGUERITE EVANS.-Bydd cyfeillion lliosog y gantores addawol hon yn falch i ddeall ei bod wedi llwyddo eto i ennill y medal arian am ganu yn y Royal Academy, yr hwn a roddwyd iddi yn y Queen's Hall ddydd lau diweddaf gan y Due o Connaught. Dyma yr ail fedal iddi ennill yn ystod y deunaw mis diweddaf, a sieryd hyn yn uchel am ei medr a'i chynnydd. Un o ferched Falmouth Road yw Miss Evans, merch i Mr. a Mrs. John Evans, Albany Road, ac mae pob arwyddion y daw yn enwog ym myd y gan. Pob llwydd iddi eto yw dymuniad ei hedmygwyr yn y ddinas. EIN TAITH.—Byddwn yn ol ymhen ryw bythefnos. Anfoner pob gohebiaeth i'r golofn hon, fel arferol, i 40, Scarborough CD Road, Leytonstone, N.E.

[No title]