Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

CYFARFOD

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CYFARFOD MISOL LLUNDAIN. Jewin Newydd, nos Fercher, Gorffenaf 24. Llywyddion, y Parch. P. Hughes Griffiths a Mr. Richard Thomas, Charing Cross Road. Ar ol darllen a chadarnhau'r cofnod- ion cyflwynodd y Parch. P. H. Griffiths y gadair i'w olynydd, Mr. R. Thomas, ac yn ei araith awgrymodd y priodoldeb ar i wahanol bwyllgorau'r Cyfarfod Misol gael eu cynnal ar nosweithiau fyddant yn gyfleus i'r holl -,swyddogion, ac na fyddai raid iddynt abseholi eu hunain o'r cyfarfodydd gartref er mwyn bod yn bresennol yn y pwyllgorau. Teimlai wrth gyflawni ei swydd fel llywydd .ei fod yn ddiolchgar am yr amlygiad o dyner- wch. y brodyr at eu gilydd tra yn trafod gwahanol faterion; eto credai fod lie i'r -cyfarfodydd gryfhau yn hyn, gan gofio ceisio gwneud eu gwaith fel rhai yn teimlo mai cymeryd rhywbeth i deyrnas lesu Grist yr oeddynt. Diolchwyd yn gynnes i Mr. Griffiths am ei anerchiad ac am y dull deheuig yr ar- weiniau y Cyfarfod Misol y chwe mis gorffen- nol. Pasiwyd pleidlais o gydymdeimlad a'r Parch. P. Hughes Griffiths ar farwolaeth ei chwaer, ac hefyd a Mr. Humphreys, Willes- -den Green, ar farwolaeth ei chwaer ac a theulu y diweddar Mr. Robert Jones, Fulham. Darllenwyd llythyr oddiwrth y Parch. J. Williams, Gwrecsam, yn dwyn gerbron y mater o sefydlu achosion Seisnig perthynol i'r cyfundeb yn Llundain. Penodwyd pwyllgor i ystyried y cwestiwn. Derbyniwyd adroddiad y brodyr fu yn Wood Green yn derbyn y blaenoriaid. Rhoddwyd cyngor hynod o bwrpasol a gwir ddyddorol i swyddogion newydd Jewin, Hammersmith, Wood Green, a Walthamstow, igan y Parch. J. E. Da vies, M.A. Derbyn- iwyd adroddiad Pwyllgor y Gymanfa Ganu, a hysbyswyd y bwriedir cynnal y Gymanfa y flwyddyn nesaf yn Jewin, Ebrill 9. Cynhelir y cyfarfod nesaf yn Jewin Newydd, Medi'r 25ain.

[No title]

PULPUD YR WYTHNOS.

Y DYFODOL.

Advertising

Advertising