Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

2 erthygl ar y dudalen hon

Y COD NEWYDD.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Y COD NEWYDD. Gyda chryn ddyddordeb yr agorasom gyhoeddiad newydd adran Gymreig y Bwrdd Addysg am y flwyddyn hon-a adwaenir yn y dyfodol fel The Welsh Code "-am y gwyddem y caem weled y tro yma faint o gyfiawnder allai un o'n bechgyn ni ein hunain hawlio i ni. Gwyddom yn dda fod yna lawer estron tra yng ngofal y Bwrdd Addysg yn Whitehall wedi bod mewn cyd- ymdeimlad a'n dyheadau addysgawl fel cenedl. Nis gall neb wadu nad ydym fel cenedl o ddifrif gyda'r cwestiwn yma. Y mae ein haberthau diflino dros, a'n rhoddion hael tuagat, ein sefydliadau addysgawl fel gwerin yn ddigon o brofion o hynny. Ond er gwaethaf y cydymdeimlad parod a'r geiriau meddal, gwir oedd yr hen adnod o hyd na newidia mor Ethiopiad ei groen na'r llew- pard ei frychni." Estron oedd yr estron yn barhaus, a chul rhyfedd ei rodd i ni fel cenedl bob blwyddyn. Erbyn hyn y mae pethau wedi newid llawer. Dyma adran Gymreig o Fwrdd Addysg yn eiddo i ni, a Chymro fel Mr. A. T. Davies yn gofalu am dani. Faint, ynte, y mae ystad pethau wedi newid ? Addefwn ar unwaith fod yma lawer i ddiolch am dano yn y code newydd. Er engraifft, dyma'r tro cyntaf mewn hanes i frawddeg fel yma ymddangos mewn cy- hoeddiad addysgol o Whitehall. 37 (iv). Provision for the teaching of the Welsh language and Literature should be made in districts where Welsh is spoken. Any of the subjects of the Curriculum may be taught in Welsh,"a, thraehefn yn y rhagnodiad i'r gyfrol. The Board wish that every Welsh teacher should realise the educational value of the Welsh Language and of its literature, which, from its wealth of romance and lyric, is peculiarly adapted to the education of the young." Ardderchog, onide ? Dyna oruchafiaeth o'r diwedd y tu hwnt i'n breuddwydion .gwylltaf! Efallai ond dylem sylweddoli mai rhyw hanerog ei ysbryd wedi'r cyfan yr oil yna. Nid oes yna unrhyw anogaeth arbennig i ysgolion amrwd eu hysbryd i gymeryd y Gymraeg i fyny o'r newydd, a chredwn yn ddiysgog na fydd i unrhyw ysgol i wneud hynny o herwydd y New, -Code. Gwnaeth ein Harolygwyr Cenedl- garol gan mwy dros yr iaith a'n lien yn ystod y deng mlynedd diweddaf yma yn ddistaw ac yn answyddogol nag a wna can' Code o'r fath yma. Pam yn enw pob rheswm na fyddai yna rhyw gyfeiriad arbennig at Hanes Cymru yn y paragraph canlynol, mewn Code Cymreig Syllabus. (7). History, which should include, in the tower classes, the lives of great men and women and the lessons to be learnt there- from, and in the higher classes a knowledge of the great persons and events of British History, and of the growth of the British Empire. The teaching need not be limited to English or British History, and lessons on -citizenship may be given with advantage in the higher classes." 0! na: dim cymaint a murmur am Hanes Cymru. Dywedwn eto, ac yn ddifloesgni, mai an- foddlon yr ydym. Nid digon enw Cymro ar waelod y ddalen i ni. Yr ydym yn teimlo nad ydyw'r cyfansoddiad, na oer na brwd, ac felly rhaid i ni obeithio a breuddwydio am flwyddyn arall eto. Rhydd y code yma rhyw argraff o fod yn glytwaith i ni. Code Seisnig ydyw, a chyfeiriadau at Gymru wedi eu gwasgu i mewn i rhvw fan neu ddau, a chwareu a phethau cysegredig y galwn ni hyn. Y mae dengwaith fwy o le i dan gwlad- garwch hyd yn oed mewn Government Publication for Wales nag a geir yma. Daw'r hen bill Cymraeg i'n meddwl yn gryf ar ol rhoi'r llyfryn coch i fyny ar astell lychlyd. Disgwyl pethau gwych i ddyfod Croes i hynny maent yn dod." A

BYD Y GAN.