Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

YN OL O'R AMERIG.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

YN OL O'R AMERIG. [GAN Miss ELEANOR WILLIAMS, CASTLE ST.] Sefyllfa yr Eglwysi Cymreig ar hyn o bryd yn America. I ymwelydd o Gymru un o'r pethau mwyaf pruddaidd ydyw myned trwy lawer o'r hen sefydliadau Cymreig, a gweled mynwentydd bychain yma ac acw gydag ami i feddfaen ac enw hen Gymro neu Gymraes arno. Ed- rycha'r cyfan yn hollol anhrefnus, ac yn ami mae'r Garreg arw a'r ddwy lythyren wedi hollti yn ddwy gerllaw," a neb i'w thrwsio mwy. Gellir dyweyd i sicrwydd bob amser pan welir y rhai hyn fod achos Cymreig wedi bod yn agos i'r lie, ond fod y bob! wedi symud, a'r hen achos wedi myned i lawr- weithiau y capel wedi myned i ffwrdd a'r pryd arall, er mawr ofid, gwelwn hen addoldy, a fu unwaith yn fan cyfarfod pobl Dduw, yn ddim ond adeilad i anifeiliaid, neu wedi ei droi yn saloon afiach. Gwelais un hen gladdfa fach Gymreig yng nghanol mynydd- oedd creigiog Colorado, yn agos i ddeng mil o droedfeddi yn uwch na gwyneb y mor. Y pryd hwn nid oedd ond un hen bost o'r olion yn aros. Bydd yn fuan yn dir angof i ddynion, ond yng nghadw ar fap mawr Duw, a daw i alw Ei eiddo oddi yno. Mewn am- gylchiadau ereill mae yr hen Eglwysi Cym- reig wedi troi yn Eglwysi Seisnig, ac o'r hen Eglwysi bach Oymreig mae llawer or eglwysi mawr Americanaidd wedi cychwyn. Er y cyfnewidiadau i gyd, mae achosion Cymreig cryfion iawn yn aros. Hanerog ydyw eglwysi y Bydyddwyr—Cymraeg a Saesneg-yr oil ond un, Homestead, Pa." Mor bell ag y gwn ni, mae yr Anibynwyr yn lied debyg. Ac eithrio ardaloedd y chwareli, ardaloedd wedi eu poblogi gan Gymry o'r Gog- ledd, dim ond dwy o eglwysi Cymreig sydd gan y Wesleyaid un yn Utica, N.Y., a'r llall yn Bangor, Pa. Am y Trefnyddion Calfinaidd, maent hwy yn dal eu coron, ac yn dal yn ardderchog mewn rhai ardaloedd. Yn Wisconsin a Minnesota maent wedi magu cynulleidfaoedd o Gymry glan ond y mae dydd eu gofwy hwythau bron a'u dal, a bydd yn rhaid iddynt roddi Saesneg i'r plant a fegir yn bresennol neu fe'u collir o'r eglwysi. Dyna alanastra mae pwnc yr iaith wedi wneud yn yr Eglwysi Protestanaidd yn America, nid yn unig ym mysg y Cymry, ond ym mysg y cenhedloedd ereill o wahanol wledydd Ewrop. Mae un genhedlaeth wedi ei cholli i bob pwrpas crefyddol: yr hen bobl yn dal gafael yn eu hiaith, eu hen ffurf o grefydda, a'r plant, hy., yr ail genhedlaeth, ddim wedi dysgu yr iaith, ond hanerog a dull y wlad ieuanc o feddwl yn gwrth-daro yn erbyn yr hen ddull pendrwm bygythiol o grefydda. Tarewir un a syndod wrth sylwi nad oes ond ychydig o ddynion yn gallu cymeryd rhan gyhoeddus yng nghyrddau yr eglwysi. Merched gan mwyaf sydd a baich yr achos ar eu hysgwyddau. Nid oedd neb yn arwain y rhai ieuainc. Blinasant hwythau ar fyned i wrando ac heb ddeall mo'r iaith na mwynhau y dull; a'r hen bobl yn dra arglwyddiaethol yn cadw y cwrdd gweddi a'r gyfeillach i nifer fechan yn lie magu ereill i gymeryd eu lie i gario yr Arch. Ond yn yr eglwysi hynny sydd wedi setlo pwnc yr iaith, a'r hen deimladau cynhyrfus pleidiol f t-i wrth wneud yn darfod, mae golwg gobeithiol iawn ar y to sydd yn codi. Mae y plant mor ddeallgar, ac yn cael manteision mor dda i ddadblygu, nes maent yn bobl ysbrydol, a phan gant wir grefydd i aros, yn lie Christian Science a Dowieism, byddant yn bobl rhyfeddol i Dduw. Eisieu mawr yr Eglwysi Cymreig ydyw gweinidogion a chenhadon da pobl o gymeriad a galluoedd. Nid y rhai hynny sydd yn fethiant yma, oblegid gwahanol bethau. A dyna fendith fyddai i rai o'n pobl ieuainc dysgedig duwiol, yn lie bod yn sathru traed eu gilydd yma, i fyned i feddiannu y wlad fawr tu draw i'r Werydd. Y mae eglwysi mawr gan y Trefnyddion Calfinaidd, a thaliad an- rhydeddus, ond ni waeth heb fyned yno heb ddwy iaith. Cymraeg yw y gwasanaeth y boreu a Saesneg y nos. Ond yn Eglwysi y T.C. unwaith yn y mis yn unig mae llawer o honynt hwy yn cofio yr ieuenctyd. Mae aberth yn cael ei wneud gan yr hen Gymry i gadw yr achosion i fyny, a dylent gael llawer mwy o gydym- deimlad o'r wlad hon. Os yw yn werth cadw Hindw yn India, mae yn werth cadw Cymro yn America.

A BYD Y GAN.