Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN.
WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN. Ymadawiad y Parch. Thomas Jones. Gorchwyl anhawdd ym mhob byd yw -diorseddu hen arferion fyddant wedi selio, fel pe tae, gan amser, ac mae hyn yn ffaith amlwg ym myd trefnyddiaeth eglwysig. Un o'r pethau sydd wedi disgyn yn etifeddiaeth. o'r oesau fu i'r bobl a elwir Wesleyaid yw y drefn ryfedd o symud eu gweinidogion bob -tair blynedd. Nid cynt, ysywaeth, nag y daw gweinidog i adnabod aelodau yr eglwysi fyddant tan ei ofal, na daw gorchymyn i godi pabell, ac ymaith ag ef i wynebu ar faes dieithr, ac i ddechreu ar gylch newydd o wasanaeth. Sibrydir fod eisoes gynnwrf yn y gwersyll, ;ac y ceir gweled cyn bo hir gyfnewidiadau mawrion yn hyn o beth, ond gan nad faint -ddoethineb neu annoethineb y cynllun, un -o'r effeithiau sydd a wnelo a Llundain Gym- reig heddyw yw, fod y boneddwr sydd yn <lestyn hyn o ysgrif ar fin ein gadael. Erbyn hyn mae y Parch. Thomas Jones wedi treulio ci dair blynedd yn ein plith, ac o'r Sul cyntaf o Fedi ymlaen adnabyddir ef gan awdur- dodau. y Gynhadledd Wesleyaidd fel gwei- nidog Cylchdaith Treorci. EI HANES. Brodor o Bontrhydygroes, Sir Aberteifi, yw Mr. Jones, a dechreuodd ennill ei damaid lei mwnwr yng ngweithfeydd plwm y sir honno. Dechreuodd bregethu tra eto yn ieuanc, ac yn 1876 penodwyd ef yn wei- nidog ar eglwys Treherbert. O'r amser yna ymlaen mae Mr. Jones wedi llafurio yn Neheudir Cymru yn ddidor, hyd ei ddyfodiad i'r Brif-ddinas yn 1904. Teithiodd-chwedl y Wesleyaid-trwy y Deheu o gwr i gwr, a bu yn gofalu am leoedd pwysig a phoblog, megys Tredegar, Llanelly, Pontypridd, ac Abertawe. Yn y lie olaf etholwyd ef yn anrliydeddus i'r safle o Lywydd Eglwysi Rhyddion y rhanbarth. Wedi dyfod i'n plith ninnau, ni fu Mr. Jones yn ddiwaith. Nid dyn i'w enwad yn unig a brofodd. Bu .yn ysgrifennydd i Gyfarfod Gwyl Dewi yn y City Temple ddwy flynedd yn olynol. Mae yn aelod ffyddlon o Undeb y Gweinidogion Cymreig, a thaflodd ei holl ynni ar ran Cen- hadaeth Gymreig Dwyreinbarth Llundain. Gwyddom fod gan weinidogion Cymreig y ddinas ddigon o waith ar eu cyfer, ond ynghannol ei brysurdeb anfynnych y ceid -CYTarfod o nodwedd cenedlaethol yn ein plith na fyddai Mr. Jones yn bresennol i ddangos -ei ochr. FEL BUGAIL YN LLUNDAIN. 0 safbwynt Wesleyaidd mae tair blynedd Mr. Jones wedi bod yn hynod o ffyddlon. Trwy ei ymdrechion diflino sicrhawyd cartref oysurus i'r eglwys yn y Gorllewinbarth. Mae Brunswick—enw yr addoldy newydd—yn un o'r capelau harddaf a berthyn i'r Cymry yn Llundain. Mae capel City Road, hefyd, wedi ei adnewyddu mewn harddwch, oddi- lrlewn ac oddiallan, a chredwn ein bod yn gywir pan y dywedwn fod sefyllfa arianol a S'hif aelodaeth y Gylchdaith yn fwy boddhaol derfyn ei weinidogaeth nag a fuont ers blynyddau lawer. Mae rhywun wedi dweyd mai pregethu yw yr alwedigaeth uchaf ond y fasnach salaf, ac 3aid 'ym ni yn gwybod am neb pwy bynnag sydd wedi gwneud y pulpud yn fwy o foddion i ddilyn ei alwedigaeth, ac yn llai o gyfleustra i fasnachu, na'r Parch. Thomas Jones. Os gwir dywediad Wordsworth, What comes from the heart goes to the heart," y mae pregethau Mr. Jones yn sicr o adael argraff arhosol ar ei wrandawyr. Ond, ieallai, wedi'r cyfan, mai nid yn y pulpud y -ceir Mr. Jones ar ei oreu. Credwn mai Richard Hooker, awdwr yr anfarwol" Ecclesi- astical Polity," a ddywedodd, The life of a pious clergyman is visible rhetoric "-y mae bywyd clerigwr duwiol yn areitheg gweladwy ac i'r rhai sydd yn adnabod Mr. Jones oreu, ac wedi bod tan ei ofal hwyaf, cymeriad gloew, ac ymddygiad hynaws, boneddigeiddrwydd pur, achymwynasgarwch parod, dyma yr areitheg sydd wedi dylan- wadu ddyfnaf ac wedi llwyddo i wau eu hyder a'u serch mor dyn am dano. Gallent ddywedyd yn aml-" I can't hear what you say, for listening to what you are." RHODDI FFARWEL. Cario glo i gwm Rhondda fyddai ceisio adgoffa i'w liaws gydnabod ymhlith darllen- wyr y CELT y mynnych droau mwynion sydd wedi nodweddu arhosiad Mr. Jones yn ein plith. Talp o garedigrwydd yw Gwei- nidog y Wesla yna," meddai cyfaill wrthym yn ddiweddar, a chredwn heb rith gweniaith fod y brawd yn agos i'w lê. Gellir dweyd am Mr. Jones fel y canodd Goronwy o Fon gynt am fam y Morisiaid— CAn hen a ddianghenodd: I'r un ni bu nag o rodd." Dilys ddigon ein bod yn datgan teimlad Cymry Llundain, o bob enwad, pan y dywedwn ein bod yn gofidio colli person oliaeth mor nobl ag eiddo Mr. Jones o'n plith. Nis gallwn, i ddiweddu, ddy- muno dim rhagor- ach iddo na braw- ddeg o eiddo Gwilym Marles- Yn 61 dy lafur gonest boed dy lwydd." E. S. R.
[No title]
G A N mai yn Llundain y cyn- haliwyd y Gyn- hadledd Wesley- aidd eleni, bu llu mawr o'r gweinid- ogion ar ymweliad a'r ddinas ynystod y pythefnos ddi- weddaf. PARCH. THOMAS JONES, GWEINIDOG WESLEYAID CYMREIG LLUNDAIN). Y GYNHADLEDD yw uchel wyl yr enwad, ac ynddi yr ymdrinir a phob achos perthynol i'r gwahanol daleithiau ym Mhrydain. Er y rhoddir cryn lawer o ryddid i'r Taleithiau Cymreig, eto y gynhadledd yw llys uchaf yr enwad ynglyn a phob adran o'r gwaith. AR nos Iau, Gorphennaf 25ain, rhoddwyd croesaw arbennig i'r cynrychiolwyr Cymreig gan aelodau yr eglwysi Cymreig yn Llundain. Daeth torf ynghyd i gapel Brunswick, ac ar ol pryd o de caed caneuon ac anerchiadau pwrpasol gan wahanol lywyddion y taleithiau Cymreig. BAlCH cenhadaeth y Parch. Thos. Hughes, Llywydd y Gymanfa, oedd gwneud apel at Gymry Llundain i gyfrannu yn well tuag at y Gronfa er addysgu gweinidogion ieuainc. DANGOS y pwysigrwydd o gadw Wesley- aeth Gymreig yn effro yn y ddinas oedd cenhadaeth y Parch. Edward Humphreys; ac yna terfynwyd gyda araith fyw gan Dr. Hugh Jones, yr hwn a anogai ar bob Wesley i gefnogi llenyddiaeth ei enwad. Cynulliad hapus oedd y cyfan, a dangosai fod cryn fywiogrwydd ymysg yr adran Gymreig yn Llundain heddyw.
YR HEN ORONWY.
YR HEN ORONWY. Bardd mwyaf Cymru er dyddiau Dafydd Ap Gwilym oedd Goronwy Owen. Ganwyd ef ym Mon yn 1722, a bu farw mewn unigedd a dinodedd yn yr America tua'r flwyddyn 1769, neu yn fuan ar ol hynny. Mae ei weithiau barddonol heddyw yn glasuron yn ein hysgolion, ond ow'r fath fywyd helbulus gafodd wrth eu cyfansoddi. Er mai tylawd iawn oedd ei rieni, llwydd- odd i gael digon o addysg nes graddio fel offeiriad. Bu raid iddo wasanaethu fel ciwrad mewn eglwysi Seisnig am rai blynyddau, ond nid oedd hyn yn cydweddu a'i anian Gymreig. Trodd i fod yn dra hoff o'r ddiod—fel yr oedd offeiriaid a beirdd yr oes honno, ac mae'n eglur mai hynny oedd prif achos ei wrthodiad gan yr awdurdodau Eglwysig. Llawer o guro sydd wedi bod ar yr Eglwys am ei wrthod, ac i'w hymddygiad gwrth-Gymreig hi y priodolir diwedd ad- fydus y prif-fardd o Fon. Ond er cymaint y beio am wrthod rhoddi bywioliaeth i Goronwy, -u' 1 y mae-n eglur ddigon nad oedd y bardd yn anadnar- byddus i'r awdur- dodau. Yn wir, ceir profion yn Llythyrau'r Morrisiaid a gy- hoeddir yn awr gan Mr. J. H. Davies, M.A.,Aber- ystwyth, fod y gwyr dylanwadol hynny wedi dwyn ei achos droion o flaen yr awdur- dodau Eglwysig. Nid ei ddawn na'i athrylith, na'i ys- bryd Cymreig fu'n rhwystr iddo yn ddiau, eithr ei gymeriad gwael a'i ddynoliaeth bwdr. Ynniwedd 1757 yr ymadawodd am America, ond yr oedd yr hanes am ei ddiota yn wy- byddus i lawer cyn hynny. Dyma fel y dywed Wm. Morris yn 1754, Gwyn ei fyd a'i gwela mewn personoliaeth fras. Nid cynrhwng ond odid y chwedl a glywsom ynghylch y diotta, ac nid hwyrach cystal ag y dymunai ddyn ei fod." Wrth hyn gellir casglu fod cryn siarad am ei ymddyg- iad, ac fod y brodyr yn gwneud eu goreu i sicrhau bywioliaeth iddo. Os caf fi hanes fod yr un o'r personiaid yma ar drancedig- aeth mi sgrifennaf atoch chwi cynt y cewch afael arno, na llythyr oddiyma at Oronwy ac oddiyno yma. Och fi. na chai y rhent oreu ym Mon." Eto, A living in the gift of Baron Hill Family and given by young Lord Bulckeley to John Hughes of Glanrafon. Dim siawns i Oronwy yno Gresyn na chawsai Gronwy well siawns am Ddolgelley." Ac ysgrifenna Lewis yn 1755, Mi rois gynnyg ddoe ddiwaetha am Fallwyd i Oronwy, ond fel y mynnodd d-l roi mhen'r Esgob mae hi gwedi ei gadael ers dwy flynedd cyn marw'r person. Ond pe gwelai Dduw'n dda alw am berson etto, yn enwedig yn Esgobaeth Elwy, rwyn meddwl y byddwn i yn siwr o honi." Dro arall, "Dyma Gronwy ymron cael curadiaeth, a rhywyr iddo i chael, ag oni bae fy mod i yma buasai'r bol yn wag lawer tro." Ac meddai William yn 1755, "Da iawn clywed fod Grono wedi cael lie i enill tamaid o fara,