Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
EISTEDDFOD 1909.
EISTEDDFOD 1909. Yr wythnos nesaf byddis yn penderfynu ym mha le y cynhelir yr Eisteddfod yn 1909. Deallwn fod ceisiadau wedi dod i fewn i bwyllgor yr Orsedd ar ran pedwar o leoedd, set Llandrindod, Caerfyrddin, Aberystwyth a Llundain. Mae cais Llandrindod wedi ei wneud yn Gymraeg a Saesneg, a'r prif reswm a roddir .dros ei chynnal yno yw'r ffaith mai Llan- drindod yw'r man mwyaf canolog a hawddaf ei gyrhaedd o bob parth o Gymru. Profir hyn gan dabl yn rhoddi'r pellder, a'r amser a gymer i deithio, o'r gwahanol drefydd. Bwriedir cynnal yr Eisteddfod yn ystod yr wythnos gyntaf o Orphennaf. Gesyd Caerfyrddin ei deiseb hithau yn Saesneg a Chymraeg, a seilia ei chais ar yr hen fost mai hi oedd cartrefle'r Eisteddfod yn y dyddiau gynt-cyfeiriad, mae'n debyg, at Eisteddfod 1451, neu adeg gynnarach yn hanes yr hen sefydliad. Cefnogir y ddeiseb gan Faer y dref a llu o wyr enwog ereill y ,cylch. Cymraeg yn unig ddefnyddia Aberystwyth i osod ei chais ger bron yr Orsedd. Gwyr hi ddigon am y Pwyllgor, mae'n ddiau, i gredu fod yr aelodau yn deall Cymraeg. Yn 1865 y caed Eisteddfod Genedlaethol yma ddiweddaf, a dywed y cais presennol fod to arall o bobl wedi codi erbyn hyn, ac fod .eisieu gweled yr Wyl yno arnynt. Ynglyn a'r ddeiseb rhoddir rhestr faith o enwau y rhai ydynt yn barod i gefnogi'r Wyl os caiff Aberystwyth yr anrhydedd o'i chynnal. Yng Nghymraeg hefyd y rhydd Cymry'r brif-ddiiias eu cais hwythau dros ei gwahodd i Lundain yn 1909, ac yn gwneud hynny am y ffaith fod Cymry Llundain yn Eisteddfod- wyr aiddgar, ac yn parhau yn bur i'w Owlad, ei Hiaith, a'i Llenyddiaeth. Addaw- .ant, hefyd, eu bod yn ymrwymo y gwneir pob ymdrech i sicrhau fod yr Eisteddfod yn .drwyadl Gymreig. A chwareu teg iddynt fe wnaed hynny ar adeg Gwyl 1887 hefyd. Ond yr hyn y mae deiseb Llundain yn rhagori arno ar y ceisiadau ereill yw'r .gefnogaeth bybyr y mae'r cais wedi ei gael ,gan brif arweinwyr y genedl. Arwyddir y cais hwn gan Arglwyddi Tredegar, Aberdar, Glantawe; y Gwir Anrhydeddus D. Lloyd- George, wyth o aelodau Seneddol Cymreig, yr oil o'r gweinidogion Cymreig yn Llundain, ynghyd a chynrychiolwyr Undeb y Cym- deithasau Llenyddol, a thorf fawr o'r Cymry mwyaf blaenllaw ar hyd a lied y ddinas. Mae pymtheg cant o bunnau eisoes wedi eu eicrhau fel trysorfa warantedig, a chan fod tua phedwar-ugain mil o Gymry yn byw yn Llundain, dylai'r Wyl fod yn un Iwyddianus dros ben. Beth bynnag fydd dyfarniad yr Orsedd yr wythnos nesaf, nis gall un amheuaeth fod nad yw cais Llundain dros gael yr Eistedd- fod yn un o'r rhai mwyaf dylanwadol sydd erioed wedi ei osod o flaen Pwyllgor Gorsedd Beirdd Ynys Prydain.
MR. RIDER HAGGARD A'R IAITH…
MR. RIDER HAGGARD A'R IAITH GYMRAEG. Y dydd o'r blaen yr oedd Mr. Rider Haggard, y nofelydd, yng Nghaernarfon fel un •o'r Dirprwywyr sydd ar ymweliad a glannau y moroedd er gweled y difrod a wneir gan y mor. Aeth, medd yr Herald, gyda Dr. Jehu, un arall o'r Dirprwywyr, i fasnachdy Ileol, a synnodd glywed y diweddaf yn siarad Cym- raeg gyda'r masnachydd. Yn ddiweddarach gofynodd i Mr. D. R. Daniel, ysgrifennydd cynorthwyol y Ddir- prwyaeth, a oedd yr iaith Gymraeg yn cael el siarad yn gyffredinol yn y rhan honno o'r wlad. Atebodd Mr. Daniel pe yr elai ar hyd heolydd y dref, neu pe safai ar y Maes, na chai glywed bron dim ond Cymraeg; y buasai yn cyfarfod pobl y tuallan i'r dref nas gallent siarad yr un iaith arall; ac y byddai Mr. Lloyd-George, yr aelod dros y bwrdeis- drefi, pan yn annerch cyfarfodydd, yn siarad Cymraeg bob amser. Dywedodd Mr. Rider Haggard fod yn dda ganddo ddeall fod yr iaith Gymraeg yn cael ei siarad mor gyffredinol, oherwydd nid oedd yn hoffii gweled hen ieithoedd yn marw. Yr oedd yr aelodau Seneddol Cymreig yn gyson a hwy eu hunain pan yn gofyn am i'r iaith Gymraeg gael ei chydnabod, oherwydd yr oeddent yn siarad Cymraeg eu hunain. Nid oeddynt fel rhai aelodau Gwyddelig, y rhai ar ol gwneud cais cyffelyb yn Nhy y Cyffredin o blaid y Wyddelaeg, a addefent nas gallent ddeall gair o'r iaith honno. Awgrymwyd i Mr. Rider Haggard mai da fuasai iddo, ar ol iddo fod ar ymweliad a Chymru, ysgrifennu nofel Gymreig, ond dywedai y buasai yn well ganddo adael gwaith o'r fath i ysgrifennydd brodorol. Credai fod un o'i nofelau wedi ei chyfieithu i'r Gymraeg. Ysgrifennodd rhywun ato i ofyn am ganiatad i gyfieithu y llyfr, a rhodd- odd ef, ond nis gallai ddyweyd ym mha bapur yr ymddangosodd yr ystori. A
BYD Y GAN.
BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. MR. HARRY EVANs.-Ceir ei ddarlun yn y rhifyn presennol o'r Musical Times. Rhydd hefyd ei farn ar safle gerddorol ein cenedl. Ei brif gwyn ynglyn a'r Eisteddfod Gened- laethol ydyw honno sydd mor adnabyddus erbyn hyn i bawb llygad-graff, sef fod y gwobrau mor fawr nes lladd y parch ddylai fod yn y cantorion at gelfyddyd, yn yr awydd i bocedu yr arian. Felly cariad at y cyfryw sydd yn llywodraethu'r corau. Yr ydym yn y golofn hon wedi galw sylw cyn hyn at yr un peth ond sut y mae Mr. Evans, na neb arall, am fyned oddiamgylch i godi'r hen wlad yn ei hoi" yn hyn o beth? Sut y llwyddir i gael pwyllgor Eisteddfod Gened- laethol i ostwng y brif wobr o Y,200 i JulO ? Y mae yn rhaid ceisio elw, neu, o leiaf, i osgoi dyled a gwyr pawb ysywaeth na ddaw y corau mawrion o bell i ganu heb wobr sylweddol—nid am eu bod yn fwy hoff o arian na phobl ereill, ond am nas gallant sefyll y draul fawr y rhaid myned iddi i fyned a chor mawr ymhell o gartref i ganu. Nis gwyddom sut yr oedd hi yng Nghymru banner can mlynedd yn ol gyda'r cystadleu- aethau corawl yn y prif eisteddfodau ond, tybiwn fod nifer y corau yn llai am fod y defayddiau yn brinach, ac nad elid ymhell iawn o gartref i gystadlu. Fod y canu corawl yn well hanner can mlynedd yn 61 nag ydyw yn awr, ni chredwn am foment. Yr oedd y darnau a genid yn rhwyddach fel rheol-yn enwedig y darnau Cymreig. Fel y mae gwybodaeth gerddorol y werin wedi cynyddu, y mae y galw ar alluoedd y can- torion wedi cynyddu; ac y mae safon corawl Cymru heddyw yn uchel, beth bynnag ellir ddweyd yn ei erbyn. Dyweder a fynno, y mae ymarferiad mor gyson o gerddoriaeth, ag y mae y gwahanol gystadleuaethau yng Nghymru wedi ei symbylu drwy y blynyddau, wedi bod yn fendithiol ini fel cenedl ? 0 ran dewis darnau, y mae lie i wella yn hyn. Cyfeirir at y drwg hwn gan Mr. Evans. Dewisir darnau ydynt yn dra adna- byddus i gorau, neu ydynt yn gystadleuol mewn lleoedd cyfagos tua'r un adeg. Fel hyn arbedir trafferth i gorau i ddysgu darnau newyddion, a sicrheir presenoldeb nifer dda o gorau mewn cystadleuaethau! Dyma lie y daw yr elfen fasnachol i mewn rhaid ymdrechu at gael elw o'r Eisteddfod! Dylai Mr. Evans geisio cynnal eisteddfod fawr yn Lerpwl yn 61 ei gynllun ef o wobrau corawl-dyweder £10. Hefyd gwobrau o hanner coron am unawdau, a fees i'r beirniaid o, dyweder bunt (a'u bwyd) am bedwar diwrnod! Dylent hwy, fel y corau, wasan- aethu o gariad at y gwaith, ac nid er mwyn arian. Yn wir, byddai Eisteddfod felly yn model. Gwyn fyd na ellid cael un o'r fath. Dywed y Musical Times a ganlyn :—" There is no doubt that one of the most pressing reforms called for is a drastic change in the method of selection of test pieces. While it is just that Welsh creativeness should be stimulated, it is easy to see that this patriotic object can, in the long run, be better achieved by the close acquaintance and constant comparison of the finest old and modern exemplifications of the art of other nations, than by an excessive and narrow insularity of choice." Rhydd y misolyn hwn restr o'r darnau ydynt yn gystadleuol yng Ngwyl Blackpool ym mis Hydref, a darnau Eisteddfodol Llan- gollen BLACKPOOL. (a) Lleisiau Merthed— Ricerari Searl alii Slumber Song Arensky (b) Lleisiau -Ifeibion- The Patriot's Vow Cornelius A War Song Granville Bantock The Crusaders MacDowell (c) Lleisiau Cymysg- Footsteps of Angels Holbrooke Fest und Gedenkspruche Brahms 0 fly not, Love Bateson Throne of Mercy Cornelius My dearest Love Sweeting Angel Spirits TschoAkovsky LLANGOLLEN. (a) Bring me blossoms Schumann Blodau Mai J. O. Jones (b) Trysorau'r Dyfnder J. ff. Roberu Meibion Gwalia D. Jenkins (c) Dan wawd yn gaeth Emlyn Evans Ye Nations Mendelssohn Bryn Calfaria J. H. Roberts: Y lefndeg Afon J. Price Cydgan yr Angylion A. J. Williams Dyma saith o ddarnau Cymreig a dau Ellmynaidd. "Ye Nations" wedi bod yn gystadleuol yn yr Eisteddfod ers, o leiaf, ddeng mlynedd a'r hugain. Y mae Mr. Granville Bantock wedi tynnu ei addewid yn ol o fod yn feirniad yn Llan- gollen, on the ground of the inadequacy of the programme to the importance of the event! Dyna ergyd drom i chwaeth pwyllgor Eisteddfod—a'r rhai fuont yn ei gynghori o'r tu ol i'r drws. EISTEDDFOD BOXING DAY.—Y mae Mr. J. 0. Davies wedi anfon ini gopi o'r rhestr testynau. Clywsom Buddugoliaeth Calfari (D. Evans) y Nadolig diweddaf. Y mae yn eithaf anthem gynulleidfaol, ond dylid rhoi darn a mwy o waith ynddo i'r corau am wobr o ddeg punt. Does dim neillduol o ddeniadol yn y detholiad. Pa bryd y ca "Y Bachgen Dewr seibiant ? Yr ydym wedi hen flino arno. Ac y mae Yn iach i ti Gymru wedi cael cryn ganu arno erbyn hyn. Hwyrach, modd bynnag, y ceir rhywbeth newydd ynddo yn yr ugeinfed ganrif Pwy wyr.
Heulwen a Chysgod.
Heulwen a Chysgod. Heulwen a Chysgod ynt fy nghyfran i, Mwyniant yn fel rydd le i ofnau lu; Newid a geir o dan fy mron bob dydd, Er hyn y digyfnewid yma sydd Haf, yna gauaf: Bywyd brau, a bedd, Beth fydd fy nhynghed ? Gaf fi fythol hedd ? Bryderus un, gwynfyd y rhai sy'n byw A'u serch a'u gobaith beunydd yn eu Duw. Heulwen a Chysgod, er fy nghyfran i, Ymgrymu wnaf, 0 Dad, ith 'wyllus Di; Ymlechaf yn Dy gariad ya ddifraw, Nes egyr gwawr y bythol ddydd gerllaw. Mehefin, 1907. PEDR ALAW.