Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. TAWELWCH.—Mae'r cylchoedd Cymreig yn lied ddistaw y dyddiau hyn, oherwydd mae paw b o nod wedi mynd i lan y mor. DYDDIAU'R TREFNU yw y dyddiau hyn, a deallwn fod y gwahanol bwyllgorau ynglyn a'r Cymdeithasau Llenyddol ar gwblhau eu rhagleni. GWLEIDYDDOL.—Sonir yn awr ei bod yn bryd i ail gychwyn Cymdeithas Cymru Fydd. Mae angen gwylio gwaith-neu yn hytrach dawelwch-yr aelodau Cymreig. 'Does wiw i ni gael 11awer o dymhorau gwag, fel ag a gaed y Senedd-dymor presennol. GWYLIAU.—Ar waethaf galwadau Ty'r Cyffredin, mae torf o'n Seneddwyr wedi cilio i unigedd y wlad. Yn ardal Traethsaith y mae Mr. S. T. Evans yn treulio ei ddyddiau segur. EISTEDDFODA.-Dyna yw gwaith llawer o'r dinasyddion ar eu gwyliau y dyddiau hyn. Clywsom mai un o arwyr Eisteddfod Aber- porth oedd Mr. Gregory Kean, King's Cross. LLOIITGDDRYLLIAD.-Aeth yr Argonaut ar greigiau Norway yr wythnos hon, a bu llawer o'r teithwyr mewn perygl. 'Roedd nifer o Gymry ar y bwrdd, a bu eu cyfeillion mewn pryder am eu sefyllfa am beth amser. TEITHWYR EREILL.—Yn yr un ardal, ond mewn llong arall, yr oedd Mri J. T. Lewis, Chancery Lane, a Phillip Williams, Earl's Court, yn treulio eu gwyliau. Disgwylir hwy yn ol o Norway yr wythnos hon, a diau y try Mr. Williams yn ddarlithydd doniol ar hanes y daith o hyn i'r Nadolig nesaf. TUA ABERTAWE.—Yno bydd pawb yn tyrru yr wythnos nesaf. Gan fod apel i gael ei wneud yno am yr Eisteddfod i Lundain yn 1909, mae disgwyliad y ceir cynrychiolaeth gref yng nghyfarfod y beirdd foreu dydd Iau. Hwn fydd dydd y cadeirio hefyd, fel mae pob He i gasglu y ceir cynulliad mawr yno. DARLUNIAU "KELT."—Da gennym ddeall fod Mr. Kelt Edwards wedi anfon nifer o'i ddarluniau i'w dangos yn arddangosfa'r Eisteddfod. Mae wedi gwneud llun rhagorol o Pencerdd Gwalia a Mr. J. Jay Williams- un o lywyddion yr Wyl—yn ogystal a llun merch fach Mr. Trich, ysgrifennydd Clwb y pel droedwyr. Bydd hwn yn un o atyniadau ad ran y celfau, yn sicr. EISTEDDFOD BATTERSEA.—Mae'r cyfeillion yn Battersea wedi trefnu i gynnal Eisteddfod ar raddfa eang iawn ym mis Ionawr nesaf. Mae neuadd fawr Battersea Town Hall wedi ei sicrhau gogyfer a'r wyl, a phwyllgor gweithgar, tan reolaeth y Parch. E. T. Owen, yn gofalu am y trefniadau. Yr ysgrifen- nyddion ydynt Mr. Tom Jenkins, 507, Batter- sea Park Road, a Mr. Evan Jenkins, Queen's Road, Battersea. Y CLWB CYMREIG.—Mae aelodau'r Clwb Cymreig wedi trefnu i roddi cinio er croesawu Mri. 0. M. Edwards ac A. T. Davies ar y 24ain o Hydref. Rhydd hyn gyfleustra i'r dinasyddion ddod i adnabyddiaeth a'r ddau wr sydd yn rheoli addysg Cymru ar hyn o bryd. PENCERDD GWALIA.-Sonir am wahodd Pence-rdd Gwalia i fod yn tin o arwyr cinio'r Clwb Cymreig ym mis Tachwedd. Mae'r Pencerdd yn haeddu y fath anrhydedd hefyd, oherwydd 'does neb wedi gwasanaethu adran gerddorol y genedl mor drwyadl a ffyddlon ag a wnaeth yr hen delynor hwn. Y LLYDAWIAID.—Disgwylir catrawd o wyr Llydaw i Lundain ar ol yr ymweliad a'r Eisteddfod yn Abertawe. Yn ol y drefn bresennol bydd mintai o honynt yn glanio yn Southampton foreu Sul, ac yna yn myned yn uniongyrchol i Abertawe. Byddant yn bresennol yn yr Orsedd dydd Mawrth ac Iau. NID yw'r aelodau Seneddol a nodir yn gyffredin fel aelodau Llafur yn rhyw unol iawn a'u gilydd. Yr wythnosau diweddaf yma maent wedi cynnal amryw gynadleddau er ceisio dod o hyd i gyd-ddealltwriaeth ar eu gwaith a'u cenhadaeth yn y dyfodol. BWRIADA Cor Meibion Rhondda, tan arweiniad Mr. J. Broad, fyned ar daith gerddorol ar draws yr Unol Daleithau yn ystod y mis nesaf. Yn ychwanegol at y parti meibion bydd dwy gantores enwog yn uno a hwy, ac hefyd y telynor poblogaidd, Ap Siencyn. CWYNO am bris y glo mae masnachwyr y wlad. Daw'r bobl gyffredin i uno yn y gwyn ar ol i'r hin oeri. Yn y cyfamser mae glowyr y Deheudir yn cael cynhauaf bras.

Bwrdd y Gol.

CYMDEITHAS LLAWFER.

Y DYFODOL.

Advertising