Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NODION LLENYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION LLENYDDOL. Mae'r Gymdeithas Lyfryddol Gymreig bellach wedi ei gosod ar seiliau arhosol, ac ond iddi fod tan gyfarwyddyd priodol, gall fod o les dirfawr i ddwyn ein hen glasuron i fwy o gyhoeddusrwydd. Yng Nghaernarfon y llynedd sefydlwyd y Gymdeithas, a theimlai llawer o'n llengar- wyr goreu ar y pryd, fod gwir angen am y fath fudiad, a dangoswyd pob parodrwydd gan y rhai oedd yn bresennol i wneud rhyw- betli yn sylweddol ac ymarferol erbyn adeg yr Eisteddfod yn Abertawe. Eleni cymerodd Oymdeithas anrhydeddus y Cymmrodorion y mudiad tan ei nodded, a chaed papur eglurhaol gan Mr. J. H. Davies, M.A., Aberystwyth, yn un o'r cyfarfodydd, a gwyr pawb nad oes neb a allai roddi gwell goleuni a'r hanes hen lyfrau na'r boneddwr a'r chwilotwr Uenyddol hwn. Yr amcan mawr ynglyn a Chymdeithas o'r fath yw dod o hyd i bob hanes a ffaith ynglyn a'n llenyddiaeth. Er sicrhau hyn dylid amcanu at gael pob gradd a dosbarth llen- yddol ar y pwyllgor, a gwneud y cyfan mor eang ei ddylanwad ag sydd bosibl. Os rhoddir gormod o'r wedd broffeswrol ac o'r expert ynglyn a'r gwaith, bydd perygl iddo fod yn hollol ddiles i bawb ond rhyw fintai fach o gasglwyr llyfrau, neu lyfrgelloedd cyhoeddus. Prin iawn yw gwybodaeth yr anghyfar- wydd a'r darllenydd achlysurolo'ntrysorau llyfryddol. Yn wir, mae ami i Gymro dinod yn barod i gyhoeddi nad oes gennym lawer o lyfrau, fel cenedl, ac er i Gwilym Lleyn wneud rhestr faith o'n cynyrchion, o'r amser boreuaf hyd 1800, yr oedd y mwyafrif o honynt yn drysorau cudd i efrydwyr cyffredin hyd yn gydmarol ddiweddar. Hyd yma mae llyfrgell Caerdydd, drwy weithgarwch Mr. J. Ballinger yn bennaf, wedi gwneud mwy dros ddwyn llyfrau Cymraeg i sylw na neb yn ystod yr hanner canrif ddiweddaf. Mae'r catalogue gyhoedd- wyd ynglyn a'r llyfrgell rhyw chwe mlynedd yn ol wedi bod yn arweiniad i lu mawr o ddarllenwyr Oymreig o'r dydd hwnnw hyd yn awr. Buasai'n dda gan lawer, yn sicr, weled y rhestr hon wedi ei dwyn i fynu hyd yn awr, oherwydd y mae Caerdydd er yr adeg y cyhoeddwyd hi wedi casglu miloedd lawer o gyfrolau, y rhai nid oes son am danynt yn y catalogue. Ai gormod fyddai i Gaerdydd roddi yr ail argraffiad i ni yn awr, cyn adeg sefydlu y Llyfrgell fawr yn Aber- ystwyth ? Hysbysir yn awr fod y gyfrol Seisnig ar waith Evan Roberts y Diwygiwr-y gyfrol arbennig a wnaed gan y Parch. D. Phillips, D.D., Tylorstown-ar fin cael ei chyhoeddi yn yr Almaen. Amcan pennaf y gwaith hwn oedd rhoddi portread i'r dieithr o'r hyn a wnaed gan y Diwygiwr yng Nghymru. 0 ran argraff waith a threfn rhaid addef mai cynnyrch lied gyffredin oedd rhaglen Eisteddfod Abertawe. Mae'r ysbryd mas- nachol wedi dod i fewn gymaint i'r fath waith yn y blynyddoedd hyn, fel y mae'n rhaid llanw y rhestr eisteddfodol a phob math o hysbysiadau heb dalu yr un sylw i na chwaeth na threfn. I ddyn prysur yr oedd casgliad Abertawe yn un o'r rhai Inwyaf dyryslyd a welsom ers hir amser. Mae'n sicr fod gwell argraffwyr na hyn yn Abertawe! Tra yn son am gymysgu hysbysiadau a gwaith neu raglen ddyddiol yr eisteddfod, dyg ar gof i ni engraifft ddoniol a roddwyd gan Mr. Henry Labouchere unwaith. Tystiai ef iddo weled rhaglen cyfarfodydd diolch- garwch am y cynhauaf wedi ei threfnu ar gynllun hysbysiadol unwaith. Rhoddid yr emynau mewn inc o un lliw a'r llinellau hysbysebol mewn inc o liw arall, a dyma fel y darlleniai golygydd Truth un o'r emynau Hark the herald angels sing, Beecham's Pills are just the thing. Peace on earth and mercy mild, Two for man and one for child. Nid yw rhaglen Eisteddfod Abertawe mor ddoniol a hyn, ond y mae yn llawn mor boenus.

CYNNYDD Y CAPELAU.

YN OL O'R AMERIG.