Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of Wales.) PRESIDENT-The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL— T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D (Vict). rpHE next Session begins on October the 1st. A X number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 17th, 1907, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, 910, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. Telephone Central 14153. EDWARDS& DAVIES, MODERN TAILORING ESTABLISHMENT VfJ qlvp W tvp Gentlemen desirous of Dressing well AT A MODERATE COST, and wishing to avoid Clothing with the appearance of Cheap Production, should visit 121, NEWGATE ST., E.G. We have every garment Well Cut, Well Made and Well Trimmed.
GWYL Y GENEDL.
GWYL Y GENEDL. Yr wythnos hon bu'r Genedl Gymreig yn cadw ei huchel-wyl flynyddol, ac i Abertawe tyrrai'r cenedlaetholwyr megys y tyrrai'r pererinion i Jerusalem gynt. 0 bob cwr o'r wlad daeth meibion lien a chan i gyd- uno yn y wledd, a rhaid addef na welwyd gwell cynrychiolaeth o bob dosbarth o'r werin nac a gaed yn yr Eisteddfod eleni. I'r Deheuwr, fel y Gogleddwr, mae rhyw swyn rhyfedd yn yr Eisteddfod i'w enaid Gymreig, ac i fonedd a gwreng apelia yr hen sefydliad fel man canolog i gydgyfarfod er ymdrin a phynciau a berthynant yn arbennig i'r genedl yn gyffredinol. Y ddau beth sy'n cyfrif am nerth a dylan- wad yr hen sefydliad Cymreig heddyw ydynt ei gweriniaeth a'i chymreigiaeth. Pan gyll y rhain fe gilia ei swynion pennaf, a bydd farw megys o newyn yn nhir alltud. Mae rhai cymeriadau wedi bod ar hyd y blynyddau yn ceisio ei Seisnigeiddio, ac er cael cefnogaeth barod y Sais-Gymry a'r wasg Seisnig yng Nghymru, y maen't hyd yma wedi methu a'i hennill yn llwyr. Gwir fe'u goddefir i gipio'r areithfan a'r pinaclau arddangosiadol, ond dyna i gyd. Saif mwyafrif y bobl dros yr hen iaith a thros gadw ei hen nodweddion, ac mae'r derbyniad oeraidd a roddir i'r areithiau Seisnig ar hyd y blynyddoedd wedi bod mor amlwg fel y dylasai fod y wers effeithiol erbyn hyn i bob pwyllgor geisio eu hosgoi. Yn Abertawe, yn ol yr arfer, caed nifer o anerchiadau Seisnig gan y llywyddion arianog, ond 'doedd cenhadaeth yr un o honynt yn werth y drafferth o'r traddodiad, a gadawodd y Cymry hwy yn ddisylw fel yr haeddent. Ond er methu ei handwyo gyda'r Saesneg y mae nodwedd arall yn dod i fewn yn awr drwy ddyfais rhai o elynion y sefydliad. Amcan a nod pennaf hwn ydyw ei hamddi- fadu o'i hysbryd gwerinol. Ceisir dwyn i fewn y snobeiddiwch ffasiynol a elwir y royal charter fel ag i sicrhau nawddog- aeth rhyw bersonau na wnant ddim ar ei rhan, ond yn y cylchoedd cyhoeddus, pan fo cyfle iddynt hwy wneud math o ddefnydd hysbysebol o'r wyl. Mae'r un ysbryd wedi meddiannu Gorsedd y beirdd ac amcenir diwygio yr adran honno ar gynlluniau modern-chwedl y Sais-a gwyr pawb pan geisir dwyn arferion a chynlluniau yr oesau diweddaraf yma i reoli a threfnu yr hen sefydliad barddol, nis gall lwyddo mwy, nac ymddwyn yn wahanol i'r hen engraifft o win newydd mewn hen gostrelau a ddysgwyd i ni ddwy fil o flynyddoedd yn ol. Maen wir fod eisieu gwelliantau, ond gadawer i'r gwelliantau hynny fod yn unol a bywyd gwerinol y Celt ym mhob gwlad. 'Dyw Gorsedd y Beirdd na llwyfan yr Eisteddfod ddim yn berffaith, o lawer, ond pe cymerid y drafferth o droi y naill yn fwy gwerinol a'r Hall yn fwy Cymreig, byddai gobaith y cawsai'r Eisteddfod ei dylanwad priodol ac yr ad-enillai ei safle anrhydeddus yn serch yr holl genedl. Fod y genedl yn ei charu sydd amlwg oddiwrth gynulliadau Abertawe; felly gadawer iddi hithau ei rhyddid i fod yn athrofa wirioneddol y werin, heb na llyfetheiriau mamaethol na chulni rheolau'r Orsedd, er mor farddonol a rhith-grefyddol y ceisiant ymddangos yng nghynulliadau yr wyl.
[No title]
BWRIADA Madame Hughes Thomas, Caer- dydd, fyned a chor o ferched am daith ar draws yr America yn ystod Awst, 1908. Cor o fechgyn y Rhondda sydd ar ymweliad a'r wlad honno eleni, a rhaid i'r bechgyn ofalu am ganu yn dda rhag i'r merched eu curo y flwyddyn nesaf. Eu cysylltiadau Cymreig roddodd arben- igrwydd ar Faeroliaeth yr Henadur Vaughan Morgan a Syr David Evans. Mae'n talu'r ffordd i wyr mawr i arddel eu perthynas a Chymru weithiau. RHYFEDD mor ychydig o Gymry blaenllaw sy'n llwyddo i gyrraedd oes faith ym mywyd masnachol y ddinas. Diau fod y pryder a'r mynd sydd ynglyn a phob peth yma yn niweidiol iawn i'w cyfansoddiad, ac hefyd bywyd moethus y Sais yn fath o drefch enfawr arnynt.
SYR DAVID EVANS WEDI MARW.
SYR DAVID EVANS WEDI MARW. Wele un arall o Gymry enwog Llundain wedi ei dorri i lawr pan yn anterth ei ddydd- iau. Yr oedd yr henadur David Evans- neu Syr David Evans, fel yr adnabyddid ef yn gyffredin gennym wedi dringo i safle anrhydeddus ym mywyd cyhoeddus y ddinas, ac yn cael ei ystyried fel un o wyr blaenaf y cylchoedd masnachol. Ond pan yng nghanol ei ddefnyddioldeb, a phan oeddem megys yn dechreu disgwyl o ffrwyth ei brofiad a'i wybodaeth helaeth, wele ef yn cael ei alw adref, a Chymru yn colli un o'i meibion mwyaf dylanwadol ym mywyd masnachol y lie. Dydd Mercher, Awst 14eg, bu farw ar ol ychydig ddyddiau o gystudd o enyniant yr ysgyfaint. Tarawyd ef yn wael y Sul blaen- orol, a phan ddaeth ei feddygon ato y Llun, gwelwyd ar unwaith ei fod mewn perygl mawr, a chan fod y mynd" parhaus wedi dylanwadu ar ei nerth yn y blynydd- oedd diweddaf yma, nis gallai ddal y clefyd, a bu farw yn sydyn nos Fercher yn ei gar- tref, Ewell Grove, Ewell, Surrey. Brodor o ardal Llantrisant, Morganwg, oedd Syr David Evans, a ganwyd ef yno yn Glanwyclwyd yn 1849. Adnabyddid ei dylwyth fel darllawyr pwysig, a gwnai ei dad fasnach helaeth yn y lie. Aeth y mab ymaith yn gynnar yn ei fywyd gan baratoi i fyned i fasnach gyda'i berthynas, Mr. Richard Evans, yn Llundain. Pan yn 2 lain oed gwnaed ef yn bartner yn y ffirm honno, ac efe oedd y pennaeth ers blynyddau. Yr oedd yn cymeryd cryn ddyddordeb mewn materion dinesig o'r cychwyn, ac etholwyd ef yn aelod o'r Gor- phoraeth dros ranbarth Cordwainer yn 1874, a gwnaed ef yn henadur dros ranbarth Castle Baynard ymhen tua deng mlynedd wedyn. Dringodd i fod yn Sirydd yn 1885, a chyrhaeddodd anrhydedd pennaf y ddinas, sef y safle o Arglwydd Faer, yn 1891-2. Dyn o ysbryd tawel a boneddigaidd oedd Syr David. Bu'n ffodus i gael cyfran mewn masnachdy hynod o lwyddianus, ac oher- wydd ei gyfoeth a'i ddylanwad, yn fwy nag am ei alluoedd meddyliol, y daeth i fri a. pharch. Pan wnaed ef yn Arglwydd Faer manteisiodd ar y cyfle i brofi mai Cymro ydoedd, ac fel yr Arglwydd Faer Cymreig y daeth i sylw'r cyhoedd yn bennaf yn y cyfnod hwnnw. Ni chollodd yr un cyfleustra i ddangos mor falch ydoedd ei fod yn un o feibion yr Hen Wlad. Bu'n gwahodd Cymry o bob gradd i ddod i'w breswylfod yn y Mansion House, a chroesawodd hwy yn anrhydeddus ar bob amgylchiad. Cafodd. yntau ei wahodd i rai o wleddoedd Cymru, a thalwyd parch iddo gan nifer o drefi y Deheudir drwy ei groesawu i'w prif gynull- iadau. O'r adeg honno ymlaen, yr oedd yn cadw ei gysylltiad a Chymru, ac un o'r pethau olaf wnaed ganddo oedd dod yn un o warantwyr yr Eisteddfod i Lundain am 1909. Ceidwadwr ydoedd, yn naturiol, yn ei ddaliadau gwleidyddol, ac nid rhyfedd hynny pan ystyriom mai magwrfa Ceidwad- aeth yw cylchoedd Llywodraethol y ddinas. Yn ardal ei breswylfod yn Ewell, edrychid arno fel un o wyr mawr y cylch, a deuai lluoedd i'w balas hardd yn achlysurol i dderbyn o'i foethau a'i groesaw tywysogaidd. Gedy amryw o blant ar ei ol i alaru eu colled. Bu ei wraig farw tua phedair blynedd yn ol yn gydmarol ieuanc fel efe.
[No title]
CENNECH oedd bardd cadeiriol Llanbedr yr wythnos ddiweddaf, a hon oedd burned cader a'r hugain iddo i'w hennill. Mae'n rhaid mai furniture dealer yw o ran galwed- igaeth fasnachol.