Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. JOSEPH JOACHIM. — Ym marwolaeth y ,crythor enwog hwn y mae dyn yn dueddol- fel ar bob achlysur o farwolaeth person-i or-fawrygu. Dywed rhai na fu erioed grythor mwy na Joachim, ond cyfeiliornad ydyw hyn. Yr oedd yn gerddor ac yn grythor mawr, ac yr oedd yn un a anwylid ynddo ei hun ac o herwydd ei gysylltiadau .,cerddorol. Y mae colli gwr felly yn golli mawr. Efe ydoedd y gadwyn olaf oedd gennym perthynol i gyfnod a fu. Yr oedd Joachim yn gyfeillgar gyda Schumann, Wagner, Liszt a Brahms. Pan yn ddeuddeg oed bu yn chwareu gyda Mendelssohn, yr hwn roddodd iddo gymeradwyaeth uchel. Bernir fod Liszt ar ei offeryn yn fwy o feistr o ran technique nag ydoedd Joachim ar yr eiddo ef ac y mae chwareuwyr fel Kreisler, Kubelik ac Elman, er yn feistriaid ar y Grythen, yn gwahaniaethu y naill •oddiwrtli y llall mewn rhagoroldeb. Pe buasai Joachim, fel y rhai a enwyd wedi MR. EMLYN EVANS (Y Cerddor Cymreig Adnabyddus). ymarfer chwareu yn gyhoeddus ddarnau rhodresgar-showy buasai yn hawddach -cymharu ei waith a'r eiddynt hwy; ond dymuniad ei galon ydoedd-os yn bosibl- iawrhau gwaith y cewri y daeth allan i gyflwyno eu cynyrchion, ac nid i bwys- leisio ei gyrhaeddiadau ei hun. Yr oedd felly yn wir artiste, a deallodd y byd cerdd- orol hynny yn hir cyn diwedd ei yrfa. Ganwyd ef yn Kitsee (Hungary), yn agos i Pressburg, Mehefin yr 28ain 1831. Fel .ereill o hynodwyr y byd cerddorol, yr oedd yn chwareuwr medrus pan yn bur ieuanc. Yn 1841 astudiau gyda Hauser, Hellmes- berger a Joseph Boehm, yn Vienna. Pan yn ddeuddeg oed daeth o dan sylw Mendelssohn, ac yn fuan ar ol hynny, ymddangosodd yn Llundain. Ni chollodd ein dinas olwg rno o hynny allan ac er nad yw y teimlad tuagat Ellmynwyr wedi bod bob amser yn Wynnes iawn o herwydd eu bod ar adegau yn cau allan rai teilwng ymhlith y Saeson, ni ■^yddid am deimlad felly tuagat wr fel Joachim, ac yr oedd iddo groesaw cynnes bob tro yr ymddangosai yma. He Tybed oes rhywrai cerddgar o'n cyd- genedl ydynt yn y ddinas hon ers deng mlynedd ac uchod nad ydynt wedi clywed Joachim yn chwareu yn y cyngherddau poblogaidd yn y St. James' Hall? Pwy byth anghofia y quartette ym mha un yr oedd y gwr hwn yn ben, sef Reis, Strauss, Piatti a Joachim! A pha bryd y gellir disgwyl ymddangosiad bedwarawd gyffelyb ? Diau i chwareuad y cwmni hwn, nid yn unig adael argraff arhosol ar feddwl eu gwran- dawyr, eithr buont yn foddion sicr i buro, os nad i ffurfio, chwaeth llawer o'r cyfryw, ac i'r mesur hwnnw buont yn fendithiol. Gadawodd Joachim ei argraff ar nifer fawr o ddisgyblion, yn enwedig yn yr Almaen. Ymgartrefodd yn ystod y deugain mlynedd diweddaf yn Berlin, lie yr oedd yn Athraw yn y Coleg Brenhinol. Yn 1899, yn Berlin, dathlwyd ei 60fed mlwydd o wasan- aeth cyhoeddus mewn cyngherdd nodedig, ym mha un yr oedd 164 allan o'r 200 o chwareuwyr yn y gerddorfa yn ddisgyblion, iddo! Cafodd yr urdd o Ddoctor mewn Cerdd- oriaeth yma yn 1877 (Cambridge) a 1888 (Oxford); a'r urdd o LL.D. yn Glasgow yn 1887. Yn 1889 rhoddodd ei edmygwyr Seisnig iddo Grythen y Stradivarius, gwerth £ 1200 Dangoswyd ar amgylchiadau ereill hefyd arwyddion o'r parch oedd wedi ei ennill yr ochr hon i'r Meinfor. Boed heddwch i'w lwch, a gyrfa newydd y tu ol i'r lien yn llawn o'r perffeithrwydd hwnnw yn y gan, i gyrhaedd mesur o'r hyn y rhoddodd ei holl alluoedd ar waith yr ochr hon. "Y CERDDOR."—Yn y misolyn hwn am Awst ceir erthygl gan Mr. Jenkins ar Gynganheddu. Y mae yn werth ei ddarllen. Dywed y dylid cynganheddu brawddeg ar ei hyd, ac nid cord am bob nodyn. Dywed Ceir ambell i Alaw a chynghanedd yn chwareu gyda dau gyweirnod yn barhaus, eto yn amhenodol. Mae chwareu rhwng un nodyn arbennig yn yr alaw, gyda chyweirnodau mwyaf a lleiaf, yn gadael argraff ansicr ar y glust, fel nad ydyw y naill beth na'r llall. Eto: Nid gosod careg ar gyfer careg ydyw cynganeddu, ond llinyn hir o gordiau cysylltiol, a phob un yn arwain o'r naill i'r llall yn gadwyn gref a chyson, fel pe wedi ei gwau yn glos a chyfan. Ceir Anthem yn y rhifyn hwn ar y geiriau "Mawr yw Gweithredoedd yr Arglwydd," gan E. H. Davies, Abertillery. Y mae yn ddernyn rhwydd, a dylai fod yn wasan- aethgar mewn cymanfaoedd canu. I gorau cyffredin y mae yn rhedeg yn uchel fe ddichon. Nid yw yn newydd iawn o ran mater. M. W. DAVIES.—Ceir ei ddarlun yn "Y Cerddor." Nid yw ond 25 mlwydd oed, ac y mae wedi llwyddo i ennill y radd Mus. Bac. yng Nghymru. Bu yn ddiweddar yn ddisgybl i Mr. David Evans, gynt o Jewin. Deallwn fod Mr. Davies wedi cyfansoddi amryw ddarnau, pa rai ydynt, hyd yn hyn, mewn llawysgrif. Gobeithio y ca oes hir, ac y bydd o wasanaeth mawr i'n cenedl.

[No title]

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.

[No title]

YR EISTEDDFOD GENEDLAETHOL.