Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
6 erthygl ar y dudalen hon
NODION EISTEDDFODOL.
NODION EISTEDDFODOL. Y gystadleuaeth oreu yn yr Eisteddfod eleni oedd y gystadleuaeth am Eisteddfod 1909. Dyma englyn Elfed ar gadeiriad y bardd Bethel am ei awdl ar John Bunyan "— Iw wlad oil eled allan—yn wyn byth Enw Bethel weithian Daw i'r gwr am fedr ei gan Urdd i'w ben fel bardd Bunyan. Yr arweinydd Eisteddfodol goreu o ddigon yng ngwyl Abertawe oedd Llew Tegid. 'Roedd llais penau yn IJawer rhy gymylog i'r babell, a ffraethebau Gomer yn rhy-wel, Gomeraidd. Er cymaint y canmol ar y babell, ac er liardded yr olwg arni ar y cychwyn, rhaid addef mai cyffredin iawn y profodd fel lie i gynnal torf enfawr. Ar wahan i'w gwendid gwneuthurol yr oedd yn llawer rhy wastad i'r dorf weled. Pwnc pennaf Llundain fydd sicrhau pabell addas, ond y mae amryw i'w cael yma a wnaent y tro fel lleoedd i gadw'r fath wyl. Un o'r rhai goreu a hawddaf i'r ymwelwvr o'r wlad fyddai'r Agricultural Hall. Er mai gweinidog gyda'r Bedyddwyr Seisnig yng Nghaerdydd yw Bethel, y cadeirfardd eleni, y mae'n enedigol o'r Gogledd, o ardal Corwen, ac yn cael ei gydnabod felllenor a bardd Cymreig o gryn fri. Ymysg cerddorion Llundeinig yr wyl eleni rhaid enwi Miss Gwladys Roberts, Miss Teify Davies a Miss Sarah Gwen Davies, fel rhai wnaethant eu rhan yn rhagorol. Cafwyd un o ganeuon yr Eisteddfod ddydd Mercher gan Dewi Evans, ac wrth gwrs, roedd Mr. D. Richards, King's Cross, yn un o'r cyfeilwyr mwyaf cyson. Yng nghystadleuaeth y ceisiadau am Eisteddfod 1909, addefid fod areithiau y tri chynrychiolydd ar ran Llundain yn tra rhagori ar yr oil. Y siaradwyr oeddent Parch. J. Machreth Rees, Parch. J. E. Davies, M.A., a Mr. D. R. Hughes. Un o weithwyr caletaf yr Wyl oedd Mr. Vincent Evans. Gwyr ef am holl anghen- ion yr Eisteddfod, a pha fodd i drefnu pethau gogyfer a'r torfeydd. Yr oedd cyfarfod Cymdeithas yr Eisteddfod a drefn- wyd ganddo, yn ol addefiad pawb, yn un o bethau goreu yr wythnos. Nis gellir cymeradwyo trefniad Arddan- gosfa y Celfau yn Abertawe. 'Roedd y manylion mor brin am y cyfan, a'r gymysgfa y fath, nes gwneud i bawb feddwl mai rhyw bazaar yn perthyn i gapel gwledig ydoedd. Gosodwyd y tri darlun a wnaed gan Mr. Kelt Edwards i'w dangos, mewn congl ddinod o'r ystafell, a phrin y gellid eu canfod gan y bobl gyffredin. Trueni am hyn, oherwydd roeddent yn lluniau rhagorol o Mr. J. Jay Williams, Mr. J. Thomas (Pen- cerdd Gwalia), a merch fechan Mr. Trick, High Holborn, yng ngwisg y peldroedwyr Affricanaidd. Dyma un o englynion a wnaed i'r Arch- dderwydd gan un o'r beirdd tuallan i gylch yr Orsedd Mewn gwisg wen yma'n gysgod—o burdeb Y beirddion dibriod Ond dwed holl ferched ei fod Yr un mwyna i rianod. Un o feirdd y North, am fod yn gompli- mentary i bobl y Sowth, a waeddai yn yr Orsedd:— Mae nerth mil mewn Northman A seithmil yn y Southman. Nis gellir dyweyd fod y cystadleuaethau offerynol eleni yn atyniadol iawn. Yr oedd disgwyliad y buasai torf enfawr yn y babell, ond siomiant chwerw a fu.
NODION LLENYDDOL.
NODION LLENYDDOL. Tymor y beirdd yw tymor yr Eisteddfod bob amser. Dyma'r adeg y darganfyddir yr awdlau anfarwol" a'r pryddestau a genir tra bo'r hen. aeg yn cael ei sisial"; cynyrchion, fel rheol, na ddarllenir gan ddwsin o lenorion byth, ac a gyfrifir ymhen blwyddyn o amser yn rhy sal i'w cyhoeddi yn gyfrol swllt! Er hyn oil cyfrifir adeg yr Eisteddfod yn adeg i siarad am farddon- iaeth, beth bynnag, a dyna'r rheswm paham, feallai, fod y fath nifer o gynyrchion wedi dod i law yn ddiweddar, cynyrchion a honant fod yn engreifftiau priodol o farddoniaeth y cyfnod. Gan mai adeg yr Eisteddfod yw, priodol, yn y lie cyntaf, yw sylwi ar rai o gynyrchion diweddaraf yr hen sefydliad ei hun, sef Barddoniaeth Caernarfon, 1906, yr hyn, o'i egluro, yw casgliad o'r cynyrch- ion gwobrwyedig yn Eisteddfod Caernarfon ynghyd a'r beirniadaethau swyddogol arnynt. Gwyr y cyfarwydd, erbyn hyn, i'r Eisteddfod yng Nghaernarfon droi allan yn llwyddiant mawr, yn arianol ac yn llenyddol. Ar wahan i'r llwyddiant daeth yn enwog hefyd am y miri a gaed wedi'r wyl ynglyn a'r englyn buddugol—englyn Eifion Wyn i "Flodau'r Grug." Erbyn hyn y mae'r holl farddoniaeth wedi ei gyhoeddi yn gyfrol hylaw tan nawdd Cymdeithas yr Eisteddfod, a chaed hwy gan y cyhoedd yn Abertawe ar adeg cynhaliad yr wyl eleni. Fel y cofir yr oedd yr awdl yn destyn agored, a gwobrwywyd un i'r Lloer," ac er mor dlws yw'r awdl honno, rhaid addef fod llawn cymaint o farddoniaeth ym meirn- iadaethau Machreth, Berw, a'r Athro. Morris Jones ag sydd yng nghanig y Lloer." Ar ol darllen y rhain a'u cymharu a'r hyn gaed ynglyn ag awdlau buddugol y pum mlynedd diweddaf, rhaid i'r bardd ieuanc addef ei fod mewn cymaint pembleth ag erioed. Mae'r safonau mor groes i'w gilydd fel y mae'n amhosibl gwybod pa beth i'w ganu. Gallem feddwl mai'r peth cyntaf a ddylid bender- fynu arno yw'r safon i feirdd pa beth yw disgwyliad yr Eisteddfod. Ond ar ol cym- haru y rhai hyn, a'r hyn a gaed mewn cyf- rolau blaenorol, rhaid addef mai'r peth cyntaf gan fardd ieuanc i'w ystyried yw pwy sy'n beirniadu ?" Ar ol gwybod hynny, rhaid ceisio cyweirio y tannau i foddio chwaeth neu fympwy beirniadol yn nodiadau yr Athro Morris Jones ar yr awdl fuddugol, ac os yw'r nodiadau hyn i fod yn safonol, yna ffarwel am burdeb iaith, ac am ystwythder ei brawddegau. Er engraifft, ysgrifenna'r bardd Wele loer, ti elwi lu Ar deg hwyr i dy garu. Ond dywed yr Athro mai ith garu ddylai fod. Rhyw chwaeth plant yw beirniadaeth o'r fath, ac yn debyg iawn i'r critig Seisnig hwnnw a geisiai ddarnio Gray's Elegy, am nad oedd yn ramadegol nac yn bortread cywir o'r oes a'r cyfnod. Ar ol darllen y beirniadaethau hyn a deall pa mor ragorol yr awdl fuddugol o'i chydmaru a'r rhai an- fuddugol, rhaid addef, ar ol darllen yr awdl geir yn y gyfrol hon, mai bendith o beth fydd gollwng y gweddill fyned i ddifancoll. Rhaid eu bod yn eithriadol o wael! Am y bryddest oreu Branwen ferch Llyr" mae'n wir fod dau o'r tri beirniad yn ei chanmol, ond rhaid i ni addef yn onest fod yn well gennym farn y trydydd, ac mai atal y wobr ddylesid. Gan i'r fath firi fod ynglyn ac englyn Blodau'r Grug," y mae'n ddyddorol gweled y beirniadaethau yn y gyfrol hon. Darfu i'r gohebiaethau gaed yn y newydd- iaduron beri i'r Athro. Morris Jones roddi math o esgusawd dros ei farn, a cheir rhyw gymaint o ol-ysgrif i'w feirniadaeth yn y gyfrol. Yn hon ceisia gysoni ei ddyfarniad a'i osodiad yn rhagdraeth Y Bardd Cwsg, lie y dywed fod prif-air yn angenrheidiol er gwneud brawddeg yn gyflawn a chadarn. Ond daw'r Athro allan o'r helynt gyda'i gywreinrwydd arferol. Am y gweddill o'r cyfansoddiadau rhaid dyweyd eu bod yn lied dda, ac yn sicr dylai'r gyfrol fod ym meddiant pob disgybl i'r Eisteddfod, a phawb sy'n caru barddas a lien. Gellir ei chael am swllt ond gofyn i Mr. E. Vincent Evans, 64, Chancery Lane, Llundain.
Rhodd i Wrecsam.
Rhodd i Wrecsam. TIR YN RHYDD I'R BOBL. Dydd Mawrth, derbyniodd Maer Gwrecsam (Cynghorwr Edward Hughes) lythyr oddi- wrth Mr. John Jones, Grove Lodge, yr hwn, hyd yn ddiwednar, oedd perchenog Island Green Brewery, Gwrecsam. Mynegai Mr. Jones ei fod, a'i ddiweddar frawd, er's amser, wedi bwriadu rhoddi anrheg o dir at wasan- aeth pobl Gwrecsam. Yn awr, dymunai Mr. Jones gyflwyno yr anrheg, ac anfonodd arian-nodyn am 350p i gloddio o amgylch y tir. Gofynai am i'r tir gael ei alw yn The William Jones Recreation Ground," er cof am ei frawd. Gosodwyd y llythyr o flaen cyfarfod ar- bennig o'r Cyngor Trefol; a phasiwyd yn unfrydol bleidlais o ddiolchgarwch i Mr. Jones, ac i dderbyn ei delerau. Y mae'r tir yn cynnws 13,270 o latheni ysgwar, a saif yn Rhosddu. Deallir fod y rhodd yn gyfystyr a dwy fil o bunnau.
[No title]
Dywed Y Drych :—" Ysgytiol i deim- lad dyn diwylliedig yw clywed y Cymry a'u gweled yn y newyddiaduron yn galw "pension" yn "flwydd-dal." Nid oes dim blynyddol" yn y tal fwriedir roi i hen bobl bob wythnos. Byddai yn fwy priodol ei alw yn dal "wythnosol"; ond "blwydd- dal" yw hi o hyd yn ein cyhoeddiadau. Dengys hyn fod y Cymry yn ddiofal iawn o'u hiaith. Mae tal wythnosol yn rhy hir ac nis gwyddom paham na ellid defnyddio y gair gwaddol." Swniai yn dda i ddweyd Gwaddoli hen bobl" fel y gwaddolir yr Eglwys yng Nghymru. Byddai arogl crefydd ar y drafodaeth, ac y mae y Cymro yn hoff o grefydd
Advertising
WELSH PRINTING Send for estimates for all kinds of Printing and Stationery to the OFFICES, 211, GRAY'S INN RD.
[No title]
Ni chaed yr un gan Gymreig ar raglen y cyngherdd cyntaf oedd ynglyn a'r Eistedd- fod. Bu raid i'r Gymraeg wasanaethu fel Ilawforwyn yr encores am y noson. NID yw jokes yr Eisteddfod yn gwella. Ni chaed fawr o newyddbeth ar y llwyfan gan yr arweinyddion, ac yr oedd beirdd yr Orsedd yn cynganeddu eu ffraethebau yn bennaf ar Eifionydd a'i lawysgrif.