Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. AIL-AGORIAD.—Dydd Sul, y fory, ail agorir Eglwys St. Mair, Camberwell, ar ol y glan- hau a'r adgyweirio diweddar. Pregethir yn ystod y dydd gan y Parch. T. D. James, Llanerfyl. EISTEDDFODA.-Bwriada Cymry Llundain baratoi yn rhagorol erbyn Eisteddfod fawr 1909. Mae amryw o fan eisteddfodau wedi eu trefnu eisoes gogyfer a'r gauaf dyfodol. Rhydd cyfeillion Dewi Sant wobr o drigain punt am y prif ddarnau. Rhagorol yn wir. YN Y WLAD.—0 lannau mor Sir Aberteifi a "Chaernarfon daw'r hanes am lu mawr o ym- "welwyr o'r ddinas. Ar ol bod yn cydgynull i Eisteddfod Abertawe mae'r dinasyddion wedi gwasgaru i bob cyfeiriad am y gweddill o'r gwyliau. GWYR LLANDRINDOD. Arweinydd plaid Xilandrindod yng nghyfarfod yr Orsedd yn Abertawe oedd Mr. Edward Jenkins, Gwalia, a gwnaeth araith benigamp hefyd ar ran y cais a wnaed o'r dref honno. Un o wyr Llundain yw Mr. Jenkins, fel y gwyr pawb, a phriodol y dywedai Mr. D. R. Hughes, yn ei araith mai Llundain oedd yn cyfienwi Llan- drindod, a hotel-keepers." CEISIO'R EISTEDDFOD.—Ym mysg y dinas- lyddion oeddent yn bresennol yn Abertawe yn gwneud cais am Eisteddfod 1909, gwel- wyd Mr. J. Pritchard Jones, Mr. J. J. Wil- liams, Parch. G. Hartwell Jones, M.A., Mr. W. E. Davies, Mr. P. W. Williams, Dr. D. L. Thomas, Dr. D. J. Thomas, Mr. T. J. Evans, Mr. D. R. Hughes, Mr. T. W. Glyn Evans, Mr. Leason Thomas, Mr. Ben Harries, a'r iParchn. Machreth Rees, a J. E. Davies, M.A. TROI ADREF.—Gyda diwedd mis Awst y mae son am ddychweliad i Lundain gan y dinasyddion sydd ar wasgar. Yr wythnos hon tyrrai yr ieuenctyd yn ol yn lluoedd gan fod y gwyliau yn dirwyn i ben. GWYL GYMREIG.-Nid gwaith hawdd fydd gan Llundain i droi'r Eisteddfod yn fwy Cymreig nag ei gwelwyd eleni yn Abertawe. Saesneg oedd yn y cyngherddau bron i gyd, ond y syndod oedd mai'r caneuon Cymreig a roddid fel ail-alwadau oedd y pethau a gawsent dderbyniad cynnes. Yn Llundain fe geir digon o ganu Saesneg drwy'r flwydd- yn, ac felly bydd yn rhaid defnyddio'r Gymraeg er mwyn sicrhau newydd-deb ac atyniad arall.
MARWOLAETH CYMRO ANGHYFFREDIN.
MARWOLAETH CYMRO ANGHYFFREDIN. TEITHIO DROS FIL 0 FILLDIROEDD. Yn y "Drych" ceir hanes marwolaeth Cymro nodedig o'r enw Love Hughes. Dyma fel y dywed Yr oedd yn deithiwr anghyffredin, dioddefwr anghyffredin, a chrefyddwr anghyffredin. Gellid teithio cannoedd o filldiroedd heb weled ei debyg. Cychwynodd ei fywyd Hydref 7fed, 1825, yn Cefn Coch, ger Llangernyw, Sir Ddinbych. Yr oedd ei fam yn gymeriad cryf, ac wedi gadael argraff ddofn ar ei feddwl, oblegid soniai yn ami am dani gyda pharch ac ed- mygedd, a hynny yn ei flynyddoedd olaf, pan oedd ef ei hun yn hen wr pedwar ugain mlwydd oed. Enwau ei rieni oedd Robert ac Elizabeth Hughes, y rhai a roisant iddo fanteision cyffredin yr ardal mewn addysg fydol a chrefyddol, yn arbennig addysg yr aelwyd. Yn y flwyddyn 1842, pan yn 17 oed, cefnodd ar gartref a rhieni, a chroes- odd, y cefnfor i'r America. Ar ol bod yn teithio llawer ac yn gweithio yn galed am ddeunaw mlynedd dychwelodd i Gymru i weled ei fam yn 1860. Cyn cychwyn ym- ddangosodd ei fam iddo mewn gweledigaeth, a theimlai fod y weledigaeth yn genadwri na feiddiai ei hanwybyddu. Profodd yr ym- weliad yn gysur iddo ef ei hun a hithau, ac ym mhen dau fis wedi iddo adael ei fam bu hi farw. Yn 1873 ymunodd mewn priodas a Miss Elizabeth T. Parry. Bu yn gweithio am flynyddau yn mwnfeydd aur y Mynydd- oedd Creigiog. Clywsom ef lawer tro yn adrodd hanes taith nodedig o feiddgar a gy- merodd ar un adeg yng nghanol y gauaf ac yng nghwmni Indiad brodorol, o Hudson Bay i Lyn Superior. Cludent eu celfi a'u hymborth ar eu cefnau, gwisgent esgidiau eira (" snow shoes ") i deithio dros y cwrlid gwyn oedd wedi gorchuddio pob cam o'r daith. Pan ddeuai y nos cloddient i'r lluwch eira am le i gysgu, ac felly y teith- iasant dros 1,600 o filldiroedd. Aeth i'r Black Hills, Mai, 1878, a dychwelodd i Chicago Gorphenaf, 1879. Gyda'r eithriad o daith fer o ychydig fisoedd i Bisbee, Arizona, yn 1892, bu yn gweithio o 1880 hyd 1898, sef dechreuad ei gystudd, gyda'r C.M. and St. Paul Railroad. Cymerwyd ef yn wael gan glefyd. yr yswigen Medi 8fed, 1898, ac ym mhen blwyddyn, sef Medi 4ydd, 1899, aeth dan oruchwyliaeth lawfeddygol, yr hon a'i gad- awodd yn orweddog ac anobeithiol i Iwyr wella. Bu yn gorwedd felly am agos i wyth mlynedd, y blynyddoedd cyntaf mewn poenau dirdynol ac arteithiol. Yr oedd wedi ei gynysgaeddu a chorff cadarn, meddwl cryf, ewyllys benderfynol, a thuedd gref at gasglu gwybodaeth gyffredinol. Hyd o fewn ychydig fisoedd i'r diwedd gallai ddarllen ei Feibl a'r newyddiadur, a gwnai hyn yn ddyfal. Gwyddai helyntion pennaf yr oesoedcl a'r dydd.
YR EISTEDDFOD.
YR EISTEDDFOD. Gwyl Lwyddianus lawn. Dydd Sadwrn diweddaf dygwyd gweith- rediadau Eisteddfod 1907 i'r terfyn yn Abertawe, a phrofodd yr holl Wyl yn un o'r rhai mwyaf llwyddiannus a gaed erioed. Parhaodd y tywydd drwyr wythnos yn hynod o ffafriol i'r cynulliad, a deuai mil- oedd i'r dref o'r cymoedd cyfagos bob boreu gyda'r trens rhad, ac addefa pobl Abertawe na welwyd erioed y fath dorfeydd yn y dref am wythnos ag a gaed yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Wedi'r digwyddiad anffodus ddydd Mercher, yr oedd pawb yn ofni y cadwai'r miloedd allan o gae yr Eisteddfod, ond pan ddeallwyd foreu dydd Iau nad oedd y can- lyniadau mor ddifrifol ag y credid ar y cychwyn, ni effeithiod ond ychydig ar y torfeydd. Yn wir caed cystal torf ddydd Gwener ag y gellid ddisgwyl, oherwydd roedd pob adran o'r babell eang wedi eu llanw pan oedd y corau meibion yn cystadlu am yr anrhydedd. Yn ol y ffigyrau sydd wedi eu cyhoeddi fel amcangyfrif o gynnyrch yr wyl, disgwylir y ceir tua £ 1,400 yng ngweddill wedi talu yr holl dreuliau. Yr oedd y derbyniadau am yr wythnos vn debyg i hyn :— g £ s. d. Dydd Mawrth 27 2 11 0 Mercher. 1246 17 3 Iau 738 17 0 Gwener. 919 17 9 Sadwrn. 213 9 0 Blaenseddau, tymor 1330 0 0 Tanysgrifiadau, &c. 1500 0 0 Arddangosfa 100 0 0 Cyfanswm 6321 12 0 Amcangyfrif y treuliau ydynt tua YD-,000, ond feallai y byddant ychydig yn llai ar ol cwblhau'r trefniadau. Os llwyddir i gadw'r treuliau tan y swm uchod, mae'n amlwg fod gwyl Abertawe wedi llwyddo yn y wedd arianol i fod yn fath o "record" i bob gwyl arall. Pan oedd yr Eisteddfod yno yn 1891 llwyddwyd i sicr- hau £ 220 o weddill, o'r hyn talwyd JL.115 i gyllid Cymdeithas yr Eisteddfod, ac aeth y cant arall i ffurfio ysgoloriaeth i efrydwyr Cymreig yn y Royal Academy of Music. Ar ol yr wyl fawr eleni eto fe aiff tua phum cant o bunnau i gyllid Cymdeithas yr Eisteddfod er mwyn cyhoeddi rhai o gyn- yrchion yr Hen sefydliad, a diau y defnyddir y gweddill at ryw amcanion arhosol fel ag a wnaed ar ol yr wyl o'r blaen. DYDD IAU. Gan mai dydd Mercher oedd dydd y corau. mawr, nid oedd disgwyliad y buasai'r tor- feydd mor lliosog ar y dydd hwn. Yr oedd brwdfrydedd y dydd blaenorol hefyd wedi cadw llawer o bobl rhag dychwelyd i'r trefydd cyfagos hyd oriau man y boreu, fel nad oedd yn bosibl dychwelyd yn brydlon er gweled cadeirio y bardd ddydd Iau. Yn ol y beirniaid Ileol nid oedd dyfarniad y corau mawr yn rhoddi boddlonrwydd cyffredinol. Credai rhai o'r hil answydd- ogol fod gwell portread o'r darnau wedi ei roddi gan yr ail gor na chor Caerdydd. Ond nid cor cyffredin oedd cor Caerdydd 'chwaith. Canodd yn benigamp, ac yn sicr cafodd cystal derbyniad gan y dorf ag a roed i gor Rhymney. Yr unig anffawd yn y gystadleuaeth oedd, na lwyddodd cor Llanelli i ennill y gamp, am mai hwy sydd i ganu ger bron y Brenin a'r Llys yn Hydref. Chwareu teg iddynt: nid oeddent hwy na'r beirniaid mewn cywir priodol i ganu nac i farnu yn union ar ol yr helynt mawr ynglyn a thoriad llawr y babell. Ond tra yn siarad am y corau, diwrnod i'r beirdd oedd dydd Iau. Ymgynullasant yn foreu i bare Cwmdonkin, ac yno am naw o'r
A BYD Y GAN.
ychwanegu at rif y staff feirniadol, fel y byddo cerddorion yn dod i'r amlwg. Peth newydd hollol ynglyn a'r Eisteddfod hon ydoedd y gystadleuaeth i gorau bechgyn. Rhyfedd na fuasid wedi meddwl am hyn yn flaenorol, onide ? Dylid gwneud cofnodiad o'r math hwn o gystadleuaeth pan yn trefnu testynau Gwyl Fawr y Byd-yn 1909. DARNAU CYMRAEG.-Y gwyn yn yrWyl yn Abertawe ydoedd fod yr Artistes yn canu caneuon Seisnig a thramoraidd bron yn gyfangwbl. Gyda gwylder y gofynwn ai nid yw hyn o leiaf yn awgrymu na roddant fawr o bris ar ganeuon Cymreig ? Y mae gennym rai caneuon da, ond y mae gennym hefyd lawer iawn o rai gwael. Hwyrach nad yw yr Artistes y cyfeiriwyd atynt eto wedi dod o hyd i'n caneuon goreu ni Beth pe bae ein darllenwyr yn anfon i ni restr o'r caneuon Cymreig a y sty riant hwy yn rai safonol. Byddai yn ddyddorol cael eu barn i'w gyhoeddi yn y golofn hon. EISTEDDFOD DEWI SANT.—Gwelwn y cyn- helir Eisteddfod bwysig yn y Queen's Hall yn Ionawr nesaf. Amcenir, fel y gwelwn, ddenu y corau fuont yn Abertawe i gystadlu. Gobeithio y dont, ac y curir hwy gan gor Cymry Llundain, os codir un. EISTEDDFOD FAWR BATTERSEA.—Y mae hon -eto yn sicr o dynnu sylw mawr, a gobeithiwn y ceir elw sylweddol o honi. Y mae'r cyfeillion gyda'r achos bychan yn Battersea yn rhai egniol, ac yn haeddu pob cefnog- .aeth.