Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
7 erthygl ar y dudalen hon
NODION LLENYDDOL.
NODION LLENYDDOL. Ynglyn a'r Eisteddfod Genedlaethol eleni ni ddaeth ond un wobr i Lundain, ac am gyfieithu y caed honno. Yr enillydd oedd y Parch. J. E. Davies, M.A., Jewin, a'r gwaith -oedd cyfieithiad mydryddol o'r Lladin i'r Gymraeg, o ran o Virgil, ac yr ydym yn Uongyfarch Rhuddwawr am ei fedr ieith- yddol yn ogystal ag am ei alia fel bardd. Yr oeddem yn gobeithio hefyd y cawsem y fraint o'i longyfarch am ryw waith gwreidd- iol y tro hwn, ond rhaid aros am hynny hyd yr wyl nesaf, feallai. Watcyn Wyn.—Daeth hunangofiant y di- weddar fardd o'r Gwynfryn allan ar adeg yr Eisteddfod mewn cyfrol ddel o swyddfa'r Educational Company, Merthyr a Chaer- dydd. Golygir y gwaith gan Gwili, gwr a wyr fwy am Watcyn na neb arall bron, ei gysylltiadau maith ag ef yn Athronfa'r Gwynfryn am gynnifer o flyn- yddoedd. Yr hyn sydd eisieu bellach, yw casgliad cryno o boll weithiau Watcyn, a goreu po gyntaf i fyned at y gwaith o'u casglu gan eu bod mor lliosog ac wedi ym- ddangos yn y fath nifer o gyhoeddiadau. The Nationalist.-Mae'r cyhoeddiad hwn yn dal i fyw er fod y rhifyn am Medi, sydd newydd ddod i law, wedi ei argraffu mor wael nes bod bron yn anarllenadwy. Gan mai gwaith hamddenol Syr Marchant W il- liams yw'r mwyafrif o gynnwys y misolyn Seisnig hwn y mae'n briodol disgwyl cyfran dda yn ymdrin ar yr Eisteddfod ynddo, oherwydd yno y treuliodd Syr Marchant ran o'i ddyddiau gwyl eleni. Ond gan fod gwaith yr Eisteddfod wedi lladratta cym- aint o'i amser nid yw'n syndod i ni weled fod yr ysgrifau mor ddifywyd, ac yn amddi- fad o'r cywair beirniadol sydd wedi enwogi'r cyhoeddiad o'i gychwyn. Diau y daw i'w hwyl arferol yn hyn o beth eto ar ol i wyliau yr haf fyned heibio. Cyhoeddir llythyr dyddorol yn y rhifyn hwn, 0 waith Llewelyn Ddu o Fon, yn ymdrin a chymeriad Goronwy Owain. 0 dipyn i beth rhoddir y gwir oleuni ar gymeriad anffodus yr Hen Oronwy. Pulpud y Beirdd.-Gan mai bechgyn y pulpud y'w beirdd goreu y dyddiau hyn, y mae'n ddymunol weithiau cael casgliad o'u cynyrchion pregethwrol yn ogystal a bardd- onol. Mae dwy gyfrol o dan yr enw hwn wedi eu cyhoeddi eisoes, ac wedi cael der- byniad rhagorol gan y werin. Bn'r Golyg- ydd, y Parch. T. Gwernogle Evans, yn gwasanaethu rhai o'n heglwysi yn Llundain yn ddiweddar, a deallwn fod rhai cyfrolau o'r ail gyfres ganddo eto heb eu gwerthu, a chymeradwywn hon yn galonog i bawb o garwyr lien a hoffant burdeb ein hiaith a barddoniaeth ein hefengyl. Ceir cyfan- soddiadau o waith y beirdd-bregethwyr enwog Dyfed, Penfro, Pedr Hir, Dyfnallt, Crwys Williams, Rhosynog, J. J. Williams, a Ilawer ereill yn y gyfrol, ac maent mor amrywiol yn eu dawn barddonol ag ydynt yn eu syniadau ar fywyd a chrefydd. Cyn- rychiolir pob enwad yma gwyr mor eithafol a Dr. Gomer Lewis a'r Esgob Tyddewi yn cael He wrth ochr Llew o'r Llain a Dr. D. M. Phillips, heb son am Gwernogle ei hunan. Pris y gyfrol yw 3s. 6d., a chyhoeddir hi gan Jones a'i Feibion, Treforris, neu oddi- wrth yr awdwr, Parch. T. Gwernogle Evans, Skewen, Castellnedd.
Bwrdd y Gol.
Bwrdd y Gol. Pan ddychwelodd y Gol. i'w hen gynefin ddydd Iau, yr oedd cynulliad lliosog a pharchus yn ei groes- awu yn ei ystafell glyd. Aeth y si ar led yr wythnos cynt fod yr is-olygydd wedi ymuno a'r mynachod a myned i'r cyfandir, fod y Salmydd wedi mynd ar spri, a'r Macwy wedi cael troedigaeth ac yn gwrthod creu rhagor o "newyddion diweddaraf;" a phan ddeallodd arweiriwyr lien y ddinas hyn daethant yn dyrfaoedd i'r swyddfa er cymeryd gofal o'r papur, gan y gwyddent nas gallai gwaith Cymdeithas yr Hynafiaethwyr yn Sir Fon, nac Undeb y Bedyddwyr yn Llanelli fyned ym mlaen yn llwyddianus heb ei bresenoldeb urddasol y Gol. ei hun. Gan nad oedd wedi gweld y fath dorf o feirdd a llenorion er adeg Eisteddfod Abertawe, croesawodd hwy yn iaith yr Orsedd- Hawdd amor! boed hedd mwyach A chwrdd siriol bobl bach, a bu i Machreth a Rhuddwawr bron a llewygu dan y fath ddyrnod, a chododd y lleill eu clustiau ol wrth glywed y gynghanedd yn cael ei thrin mor anyst- yriol. Cyn i'r Gol. osod ei hun yn esmwyth yn y deyrn- gadair, wele D. R." yn dechreu codi ac yn beio'r gwr am gamesbonio gwaith y beirdd yn yr Orsedd. Pan adroddodd yr hen fardd hwnnw," meddai, y ddwy linell anfarwol,— Mae nerth mttl mewn North man A seithmwf yn y Southman, yr oeddwn yn teimlo'n falch mai o'r North yr oeddwn yn dod, ond dyma chwi yn eich rhifyn diweddaf yn ei spelio yn mil. Cofiwch chi mai cyfeiriad at asyneidd-dra y Sowthman yr oedd, ac nid at ryw alluoedd neu rinweddau yn y gwr. Ar hyn aeth yn ddadl boeth cydrhwng y beirdd eu hunain nes i'r Gol. gredu mai mulod oeddent i gyd. Wedi cael tawelwch caed math o seiat brofiad ar bynciau cenedlaetbol y dydd. Tystiai Rhuddwawr fod gwyr y Sowth wedi llwyddo i roddi esiampl nodedig sut i gynnal 'Steddfod lwyddianus, ac mai pethau goreu yr Orsedd oedd anerchiadau Marchant ac Elfed. Yr oedd Machreth yn llawenhau fod ysbryd y Diwygiad yn graddol ymestyn i Urddau'r Beirdd ar waethaf yr hen geidwadwyr. Dywedai Marchant mai cwrdd goreu y 'Steddfod oedd cwrdd penderfynu lle'r wyl yn 1909, ac ar ol cael ei araith ar 11 Hynafiaeth yr Eisteddfod," 'doedd angen am i neb fyned i Sir Fon i gael hanes dim byd hynach. Ond dadleuai Ellis Griffith fod Edward Owen yng nghyfarfodydd yr Hynafiaethwyr yn Llangefni wedi profi fod Sir Fon wedi ei chreu cyn y gweddill o'r byd, ac fod gwareiddiad yno cyn bod son am na Marchant na'r Beirdd ac i ddiweddu'r gyfeillach caed gair o brofiad gan Jay Williams i ddyweyd fod y Bedyddwyr yn Llanelli wedi setlo pob mater o bwys, ac fod Gomer wedi ategu'r rheol fod pob diacon i fod yn llwyr ymwrthodwr rhagllaw. Ie, wythnosau prysur fu'r tair wythnos hyn, a chymaint oedd y tyrru i'r cynulliadau yng Nghymru fel na chaed neb bron i siarad gair yng nghyfarfodydd wythnosol y CELT, ac hwyrach mai'r unigedd hyn a berodd i'r is-olygydd benderfynu fod yn feudwy o hyn i maes! Mae nifer o ohebiaethau mewn llaw. Ca'nt ym- ddangos yn eu tro.
[No title]
The Editor invites correspondence. All letters must be signed with thc full name of the writer, and the address must also be given, not neces- sarily for publication, but as a guarantee oj good faith.
Y DYFODOL.
Y DYFODOL. Boed i Ysgrifenyddion y gwahanol Gymdeithasau anfon ar fyrder restr o'u cyfarfodydd arbennig i w gosod yr y Golofn lion. Medi 29 a 30- St. Benets Church Harvest Festival. Preacher, Rev. E. Davies, Llanllechid. Hydr. 6 a 7— Gwyl Diolchgarwch Eglwys St. Padarn. Hyd. 9- Cyfarfod Agoriadol Cymdeithas Dddiwyllia- dol Clapham Junction. Anerchiad gan Llewelyn Williams, Ysw., A.S. Cyngherdd Blynyddol Battersea Rise. Hyd. 12, 13, 14- Cyfarfod Pregethu Battersea Rise. Hyd. 18- Cymdeithas Ddiwylliadol Clapham Junc- tion. Anerchiad gan Iolo Carnarvon. Hyd. 20- Cyfarfod Pregethu Blynyddol M C. Beau- champ Road, Clapham Junction. Hyd. 23— Te a Chyngherdd Blynyddol M.C. Beau- champ Road, Clapham Junction. Hydref 24- Te a Chyngherdd Blynyddol M.C. Snssex Road, Holloway, N. Queen's Hall (small), East London Welsh Church Grand Concert. Hyd. 30- Queen's Hall (small), St. Mary's, Camberwell, Grand Concert. Tachwedd 3 a 4- Cyrddau Blynyddol Eglwys St. Padarn. Tachwedd 3 a'r 4 (Dydd Sul a Nos Lun)— Cyfarfod Pregethu, Capel y Wesleyaid Brunswick, Balcombe Street, Dorset Square, W. Tachwedd 7 (Nos Iau)- Cyngherdd Mawreddog, Capel y Wesleyaid .Brunswick, Balcom be Street, Dorset Square, W. Tachwedd 7— Annual Concert St. Brides Institute, Bride Lane. Tachwedd 14- Te a Chyngherdd Blynyddol Radnor Street. Tachwedd 21- Cyngerdd Eglwys St. Padarn yn y Queen's Hall. Tachwedd 23- Tabernacl King's Cross. Cyngherdd. Tachwedd 28- Eisteddfod Hammersmith. 1908. Ion. 23- Eisteddfod Fawreddog Battersea, yn Batter- sea (Grand) Town Hall. Ion. 30- Eisteddfod Eglwys Dewi Sant, Queen's Hall. Chwef. 15- Y Tabernacl Cymreig Eisteddfod Flynyddol. Mawrth 5— Eisteddfod City Road yn Shoreditch Town Hall.
Advertising
P. EDWARDS, Mus. Bac. (Pedr Alaw), Beirniad Cerddorol, Arweinydd Cymanfaoedd Canu, 40, Scarborough Road, Leytonstone, N.E. "1 J" Cyfansoddiadau- "PSALMODY."—Yn cynwys dros dri chant o Gor- ganau Newyddion. Pris, Hen Nodiant, 3/ Gyda darlun o'r Awdwr. (Copiau oddiwrth Weekes & Co., Hanover Square, W.) Dywed Emlyn Evans am y gwaith yn y Cerddor- Nid ymym yn gwybod am gymfer o Gor- ganau gan yr un Awdwr, mewn unrhyw wlad nac iaith. Gobeithiwn y ca'r gwaith y fath dderbyniad ag a'i had-dala am ei lafur a'i wasanaeth." THE BEATITUDES," Cantawd. Hen Nodiant, 2/ Sol-ffa (Cydganau), 6c. "YR ARGLWYDD YW FY MUGAIX," Anthem i Gorau Meibion. Hen Nodiant, Swllt; Sol-ffa, 4c. Sieryd Tom Price, J. T. Rees, Mus. Bac., ac eraill, yn uchel am y darn hwn. "FY ENAID, BENDITHIA YR ARGLWYDD," Anthem.* Hen Nodiant, 4c.; Sol-fia, 2g. Copiau oddiwrth Gwmni'r Wasg Gymreig, Caernarfon. Y gweddill oddiwrth y Cyfan- soddwr. At 'Celt' yyELSH PRMTH6-wr.
[No title]
MAE Ficer Pritchard, y Rhos, wedi ei ddyrchafu i ficeriaeth Llanfwrog, Rhuthyn. OWr rhyddfrydig ei feddwl a chrefyddol ei ysbryd yw'r Ficer Pritchard hyn fel yr Hen Flcer, gynt. CODWYD stage fawr ar lun pedol er cynnal cyfarfodydd pregethu Sassiwn Bangor yr wythnos ddiweddaf, ond trodd yr hin mor wlyb fel nas gallwyd ei defnyddio wedi'r cwbl.
Advertising
PROFESSIONAL COLUMN. MADOE OHYIES, H.R.e.M., Teacher, L.C.M. Voice Production and Solo Singing. Telephone 8914 Central. For Terms: Apply, 118, Euston Road. M IS S MAY JOHN (Soprano), First Prize- Winner World's Fair, Chicago. Double Medallist, R.A.M. For Oratorio, Ballad and Miscellaneous Concerts, and Eisteddfodau, apply direct to 20, MONTGOMERY STREET, ROATH PARK, CARDIFF rB339-11-9 MADHME RLieE LASSEN, The Danish Contralto (late of Hull), Is Open for Engagements at Concerts, At Homes, &c. "Mme. Lassen sang in splendid style "Year after Year," and Schumann's "To the Sunshine." She emphasised the delight experienced by sweetly rendering The Ring (Schumann).— Morning News, Hull Address 38, Scarborough Road, Leytonstone, London, N.E