Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
UNIVERSITY COLLEGE OF WALES, ABERYST WYTH. (One of the Constituent Colleges of the University of Wales.) PRESIDENT—The Right Hon. Lord Rendel. PRINCIPAL- T. F. Roberts, M.A. (Oxon), Ll.D. (Vict). THE next Session begins 011 October the 1st. A number of Entrance Scholarships and Exhibi- tions, open to both Male and Female Candidates above the age of 16, are offered for Competition on Tuesday, September 17th, 1907, and the following days. Students are prepared for Degrees in Arts, Science (including the applied Science of Agriculture), Law and Music. Sessional Composition Fee, £ 10, with additional Laboratory Fees for Science Students. Registration Fee, 21. Men Students reside in Regis- tered lodgings in the town, or at the Men's Hostel. Warden: Prof. J. W. Marshall, M.A. Women Students reside in the Alexandra Hall of Residence for Women. For full particulars respecting the General Arts and Science Departments, the Law, Agriculture, and Day Training Departments, the Department for the Training of Secondary Teachers, and the Hostels, apply to J. H. DAVIES, M.A., Registrar. Telephone Central 14153. EDWARDS & DAViEB, u MODERN TAILORING ESTABLISHMENT m iti m "J Gentlemen desirous of Dressing well AT A MODERATE COST, and wishing to avoid Clothing with the appearance of Cheap Production, should visit 121, NEWGATE ST., EM. We have every garment Well Cut, Well Made and Well Trimmed.
Y CYNHAEAF.
Y CYNHAEAF. Ar ol tymor maith o weithgarwch y mae Seneddwyr Prydain wedi cau y drws, ac wedi gwasgar i bob cyfeiriad er mwynhau y seibiant haeddianol. Tymor caled fu'r tymor sydd newydd ei ddirwyn i ben, ac er i rai mesurau pwysig gael eu hatal, y mae'r cynhaeaf yn un o'r rliai mwyaf ffrwytlilon a gaed erioed, yn nifer y deddfau a wnaed. Gwir fod yr wrthblaid yn crechwenu wrth weled fod Ty'r Arglwyddi wedi andwyo cynnifer o'r mesurau, ac yn llawenhau wrtli weled anhawsterau y Weinyddiaeth ynglyn a'r mesurau mawrion, ond yn sicr fe genfydd y wlad bellach fod ym mwriad y blaid bresennol sydd mewn awdurdod i wella cryn lawer ar gyfundrefnau deddfol y wlad. O'i chydmaru a gwaith Gweinyddiaeth Mr. Balfour, mae'n eglur fod mwy o egni a mwy o drefniant gyda'r Weinyddiaeth bresennol o lawer na'r hyn a wehvyd yn 1904-5. Cymharer y mesurau a yrrwyd drwy'r Senedd yn ystod y ruull a'r Ilall Dan Mr. Balfour. Mesurau. 1904 36 1905 23 Dan Syr H. Campbell-Bannerman Mesurau. 1906 60 1907 56 sef yn agos i gymaint arall o fesurau wedi eu gosod ar ddeddflyfrau y wlad o fewn yr un amser. Gwir fod Ty'r Arglwyddi wedi bod yn dirion wrth lawer o'r mesurau hyn. Ar y mesurau mawr yn unig mae'r Ty hwnnw yn arllwys ei lid, a dyna'r rheswm paham y rhaid tynnu yn ol y fath nifer o fesurau pan ddeallir fod ym mwriad y Ty uchaf eu handwyo neu eu gwrthod yn hollol. Ac nid oes obaith y gall y Weinyddiaeth hon chwaith Iwyddo i osod un mesur mawr iawn ar ddeddflyfr y wlad, tra pery y teimlad presennol yn y Ty uchaf. Mae hwn yn ddigllawn iawn wrth Dy'r Cyffredin, oher- wydd fod ei fwyafrif Rhyddfrydol mor fawr. Nis gall oddef y ffaith fod y wlad wedi myned mor eithafol yn erbyn y Ceidwadwyr, a'r canlyniad yw, y gwna ei holl egni er rhwystro y blaid sydd yn awr mewn awdur- dod, a'u gwneud yn destyn cerydd a gwawd y gyffredin bobl, er mwyn eu hamddifadu o'r awenau llywodraethol y tro nesaf, gyda'r un llwyredd ag a wnaed a hil Mr. Balfour y tro diweddaf. Ond nid yw Cymru wedi ennill fawr yn ystod y tymor liwn. Gwir fod Mr. McKenna wedi ei ddyrckafu i awdurdod ar y Bwrdd Addysg, ond hyd yn hyn rhyw kanerog z;1 iawn yw popeth ynglyn a'r adran honno, a bydd raid i Mr. McKenna ar adeg y Senedd- dymor nesaf wneud rhywbeth mwy i Gymru nag y mae wedi gyflawni hyd yn awr. Gwir nad yw ond dechreu, ond dylai ofalu fod y dechreu yn iawn pan yn ymwneud a'r cwestiwn addysg yng Nghymru. Hyd yn hyn nid yw'r cyfan ond gwegi, ac hyd nes ceir rhagor o eglurhad ar ei gynlluniau diweddaf rhaid cydnabod mai cynhaeaf gwael mae Cymru wedi gasglu oddiwrth y tymor Seneddol sydd newydd ddirwyn i ben.
--__._--__-CYMANFA FAWR.
CYMANFA FAWR. Cyn ei thynnu i lawr gwnaed defnydd rhagorol o babell Eisteddfod Abertawe ddydd Llun diweddaf, pryd y cynaliwyd Cymanfa Ganu ynddi. Profodd yn un o'r cymanfaoedd mwyaf a welwyd yng Nghymru erioed, ac roedd clywed cor o tua deng mil o leisiau yn canu hen emynau Cymreig ac antkernau cysegredig yn un o'r teimladall mwyaf dymunol ellid ddyckmygu. Daeth cantorion ynghyd i gynrychioli 53 o eglwysi Bedyddiedig gorllewinbarth Morganwg, a chan fod llawer o'r eglwysi hyn yn "thai poblog, nid gwaith ankawdd oedd cael deng mil o gor. Arweiniwyd yn hynod o dde- heuig gan Mr. Emlyn Davies, y cantor enwog, yn ei ddull dihafal, a chafodd ddat- gamadau swynol gan y dorf o'r gwahanol donau ac anthemau oeddent wedi eu dewis. Llywyddwyd yn y boreu gan Dr. Gomer Lewis, yn y prydnawn gan Mr. J. Jay Williams, ac yn yr hwyr gan Mr. John Williams, A.S.
0 LANNAU'R CAMWY.
0 LANNAU'R CAMWY. Dyma ran o lythyr a ysgrifenwyd gan un o'r pedair mil Cymry sydd yn preswylio yn Patagonia :— Ymlaenaf oil, dymunwn ddweyd fod sef- yllfa bresennol y Wladfa yn un o lwyddiant a chysur i'w phreswylwyr. Gwelsom ami a blin gystuddiau yn adeg y gorlifoedd r dinystriol a gymerasant le yma yn ystod y blynyddoedd 1899, 1900, '02 a '04; ond erbyn hyn y mae'r cymyl duon wedi cilio a'r haul yn gwenu, a phawb yn foddlon ac yn canmol ei fyd. Bu adeg pan oeddym neill- tuedig a didoledig oddiwrth y byd mawr, llydan, o'n cwmpas (eithr nid oddiwrth bechaduriaid, mwy na chwithau !). Yr adeg honno nid oedd ond cymundeb anamL rhyngddom a Buenos Aires-prifddinas y Weriniaeth Arianin, rhan o ba weriniaeth ydyw ein tiriogaeth ni; a'r adeg honno petli digon cyffredin yn ein kanes ydoedd bod am dri neu bed war mis heb na llythyr na. newyddiadur o unlle, ond erbyn hyn y mae'r cyfnod hwnnw ymhlith y pethau a fu, a ninnau yn gallu ymffrostio y meddwn gyfleusterau trafnidiol cyson a rheolaidd, a'n bod yn gylymedig wrth y rhelyw o'r byd a gwifren feinhir y pellebyr, ac yn lie gorfod byw ar drugaredd hen hivyl-longau bregus ac aniben, y'n gwasanaetkir yn awr gan dri chwmni agerawl-yr Hamburg American," y Transportes Nacionales,' a'r Pacific Steam Navigation Go.'—y ddau gwmni blaenaf yn rhedeg en Ilongau o Buenos Aires i lawr yr arfordir hyd Cape Horn yn eitliaf y De, a'r 'Pacific' o Lerpwl yna i Chili yn y Tawelfor, yr oil yn galw yn fisol wrth fynd a dod ym Mhorth Madryn—un o'r porthladdoedd naturiol goreu yn yr holl fyd, ac un sydd a dyfodol ardderchog yn ei arcs yn y dyfodol agos a hwn yw porthladd y Wladfa. Y pellter o Madryn i Drelew ydyw 47 milltir, a rhwng y ddau y rhed rheilffordd y F.C.C.C. (Rheilffardd Ganolog y Camwy). Y mae gwaith y Pacific Co. yn galw yma. wedi bod o les mawr i'r Wladfa a'r diriog- aeth yn gyffredinol-yn ogystal a bod yn. ffynkonell o elw iddo yntau, oblegid y mae'r fasnach a wneir rhwng yma a Phrydain yn awr wedi mwy 11a dyblu yr hyn ydoedd yn flaenorol. Y prif gwmni masnachol yn y Wladfa ydyw y 'Chubut Mercantile Co. mwyafrif rhanddalwyr yr kwn ydynt Gymry glan gloew. Yr arolygydd ydyw E. M. Morgan, Ysw. boneddwr o anianawd, addysg, a dygiad i fynu masnachol; prif ysgrifennydd y cwmni ydyw Joseph Jones, Ysw., mab hynaf y Parch. Robert Jones (Tryddyn gynt), a brawd y Parch. R. J. Jones, gweinidog ieuanc newydd-ddewisedig un 0 eglwysi Manchester—yr hwn a ddech- reuodd ei yrfa ddisglaer yma yn y Wladfa, ac yr hwn y mae ein gofal yn gymaint am ei gysur a'i ddiddanwch, nes yr ydym am gania- tau iddo y fendith o gael un o rianod y lie yma i fyned drosodd ato i Fanceinion i fod yn ymgeledd gymwys iddo yn y ddinas fywiog a phwysig honno Disgwylir y Duendes, perthynol i Gwmni y Pacific, i Madryn un o'r dyddiau nesaf yma, ar ei mordaitk am Lerpwl, ac y mae Uu o'r gwladfawyr yn bwriadu myned gyda hi am- wibdaith i Gymru, ac yn eu mysg Mrs. Griffiths, priod y bardd a'r lienor clodwiw Gutyn Ebrill; David G. Jones a'i briod; John J. Edwards a'i fab John G. Jones a'i briod ac amryw ereill. Tua Phorthmadog a Ffestiniog y bwriada Mrs. Griffiths dreulio y rhan fwyaf o'i hamser yna; D. G. Jones a'i wyneb am y sir enwocaf yn y byd am godi offeiriaid a gwau hosanau; J. J. Edwards a'i dynfa i'r hen gartref-Cae'r Merched, Penrhyndeudraeth a J. G. Jones, a hiraetha, am gael treulio yckydig fisoed(I tua Chaerfyrddin. Eiddunwn iddynt for- daith gysurus, mwynkad digymysg tra oddi- cartref, a dychweliad diogel yn ol."