Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

6 erthygl ar y dudalen hon

AWDWR " THE BIBLE IN WALES."

Advertising

Bwrdd y Gol.

SAESNEG YN Y CAPEL.

[No title]

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

CEIR ami i lenor yn ysgrifennu ei fedd- argraff ei hun, a chynyrch sal yw fel rheol. Nid yn ami y ceir cyfuniad mor nodedig a'r hyn geir ar fedd Ap Cyffin, ym Manceinion. Dywed y Brython fod ei berthynasau wedi rhoddi ei englyn buddugol i Obaith ar eD feddfaen. Dyma fe :— Gun obaith,—ynot gwynebaf-y byd, A'r bedd nid arswydaf; Trwy ing erch, trwy angeu af, A'th adenydd fyth danaf." MAE dosbarthiadau Cymreig wedi eir ffurfio yng Nghaerdydd ynglyn a'r gwahanol4 gapelau Cymreig, gydag athrawon o'r ysgolioa elfenol i ofalu am danynt. Ceir grant gan y Llywodraeth tuag at eu cynnal, ac os yw- pethau mor fanteisiol a hyn ni ddylai yr un- cwr o Gymru fod heb y fath ddosbarthiadau. MAWR y miri newyddiadurol yr wythnos ddiweddaf am y Lusitania" yn croesi'r Werydd am y waith gyntaf. Ychydig dros- bum niwrnod gymerodd at y daith. Dis- gwylir y lleiha'r pellder i bedwar niwrnod, cyn pen ychydig wythnosau-wedi i'r peir- ianau a'r dwylaw ddod i gyd-ddeall en" gilydd. LLONG hardd yw'r Lusitania," ac ar eij mordaith gyntaf 'roedd yn agos i bum mil c, eneidiau ar ei bwrdd-digon i boblogi tref fawr yng Nghymru. Cyn y gellir ei hwylio mae eisieu dros wyth cant o weision ar y bwrdd, a gall gludo yn agos i bedair mil o. deithwyr. 0 dipyn i beth, gellir cludo holli breswylwyr Prydain i'r 'Merica mewn un. diwrnod.

GWEINIDOG BRYN SION.