Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Advertising

DIHUNO'R GENEDL.

A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. CaNEUON CYMREIG.—Yn unol a'r addewid yn y rhifyn diweddaf, wele fi yn cyhoeddi'r ddau lythyr dderbyniwyd. Nid wyf yn gwneud hyn am fy mod yn hollol gytuno a'r oil a ddywedir: Abertawe, Medi laf, 1907. Anwyl Syr,—Digwyddais weled y KELT," a'r sylwadau wnaethoch ar safon ein caneu- on. Y mae yr awgrym fod yr Artistes Cymreig yn edrych i lawr ar Ganeuon Cymreig yn un cywir, yn ol fy marn i. Pe buasent yn ddigon da i gyngherddau pwysig, fe'u cenid yn ddiymwad ac onid yw y ffaith ei bod yn arferiad mor gyffred- inol i'r unawdwyr redeg ar ol caneuon Seisnig yn profi eu bod, fel dosbarth, yn barnu fod y cyfryw ganeuon yn rhagori ar yr eiddbm ni? Y mae i'r rhan fwyaf o'n caneuon eiriau Cymraeg a Saesneg, fel nas gellir dadleu diffyg iaith fel rheswm digonol dros eu hanwybyddu. Mewn gwirionedd 'does gennym namyn dwy neu dair o ganeuon safonol. Cymerer caneuon y diweddar William Da vies, pa sawl un o honynt a genir y tuallan i gylchoedd Cymreig ? Yn ei brif gan-' 0 na byddai'n haf o hyd,' ni cheir ond brawddegau cyffredin o'r dechreu i'r diwedd. Os wyf yn anghywir yn yr hyn a ddywedaf yr wyf yn agored i argyhoeddiad. Na, y mae ei ganeuon ef, fel caneuon R. S. Hughes, wedi gwasanaethu eu dydd, a chawsant yrfa led hir. Y mae masterpiece R. S. 'Y Golomen Wen' bron yn nhir anghof. Nid fy amcan ydyw rhoddi advertisement rhad i neb cyfansoddwr, ond credaf pe deuid a rhai o ganeuon John Henry i fwy o sylw, gwelid ynddynt lawer o ragoriaethau. Nid wyf yn cyfeirio at ei 'Wlad y delyn' yn gymaint a'i ddarnau diweddarach. Nis gwn am un gan arall neilltuol, ac y mae hono yn sicr o fod yr oren a gyfan- soddwyd gan Gymro a phe gellid cynyrchu rhai cyffelyb o ran arddull a chwaeth, byddai rhyw obaith am ddyfodol caneuon Cymreig. Cyfeirio yr wyf at Lead, kindly light,' gan D. Puw Evans. Dyma'r math o fiwsig a'n cwyd yn uchel.—Yr eiddoch, Eos FACH." Llundain, Medi 8fed, 1907. Anwyl Syr,—Yr wyf ers talm o'r farn nad yw Cymru wedi codi ond un cyfansoddwr caneuon uwchraddol, ac y mae hwnnw yn ei fedd. Cyfeirio'r wyf at y diweddar D. Pughe Evans, cyfansoddwr y gan Lead, kindly light. Caneuon cartref, o wneuthuriad cyffredin, yw y mwyafrif mawr o'n caneuon. Gwnant y tro i'r lliaws, ond prin y gwel yr Artiste ddigon yddynt i'w foddhau, nac i'w osod o flaen gwrandawyr mewn cyngherddau mawrion allan o Gymru. Y mae yr Eisteddfod bob blwyddyn yn cynnyg gwobrau am ganeuon, ond araf iawn y mae safon yr hyn a gynyrchir yn codi. Rhyw ganu cartref ol" yw hi byth a hefyd. Yr wyf bron a meddwl y rhaid i ni ddal ati i ymffrostio yn unig yn ein canu carawl am amser eto i ddod.—Yn fyr, CANTOR. ITALIAN OPERA. Gwelaf fod y tymor viewydd yn dechreu ymhen ychydig ddydd- iau. Ymhlith yr artistes nid oes ond un enw Cymreig, sef Miss Ada Davies (soprano). A all rhywun o'n darllenwyr ddyweyd ai Cymraes yw hi ? MOODY-MANNERS.—Deil Mr. Manners ati yn flynyddol i gyflwyno yr Operaon goreu yn "iaith y bobl," sef y Saesneg, er y dywed mai colli arian a wna o hyd. Y mae yn ffodus ei fod yn gallu cario ei gynliuniaa. allan yn anibynol ar elw H. W. OWENS, Mus. BAc.-Cefais y pleser o gyfarfod y cyfaill hwn rai dyddiau yn ol Adnabyddwn ef pan yn y ddinas hon bymtheng mlynedd yn ol, pan yr oedd yn efrydu cerddoriaeth. Y mae bellach wedi graddio, ac yn Broffeswr Cerddorol yn Chicago. Y mae wedi addaw ei ddarlun, ac y mae gennyf ddefnydd ysgrif ddyddorol arno a'i waith, i'r golofn hon. MWYNION CERDDORIAETH. — Darllenais a ganlyn mewn papur cerddorol Saesneg y dydd o'r blaen. Y mae mor dda fel nas gallaf beidio ei osod gerbron darllenwyr y CELT The delights of music are our own creation. We become for the time poets ourselves, and enjoy the high privilege of inventing, combining, diversifying at pleasure the images which harmonious sounds raise in our minds. The selfsame melody may be repeated a hundred times and inspire each time a train of thought different from the last. Forms of delicate loveliness, things such as dreams are made of, float before the mental vision. Thoughts too noble to last, high and holy resolves, alternately possess our minds with emotions all different, yet equally delightful." 0 gerddoriaeth! yr wyt yn deg. 0 nad ymgrymai y byd ger dy fron mewn addoliad! EISTEDDFOD PEMBURY GROVE, N.E.—An- fonwyd y testynau imi. Cynhelir hi ym mis Tachwedd. Y Saeson sydd yn ei chynnal, ond hyderaf y bydd Cymry yn cystadlu yno, ac yn trechu eu cymdogion! Anfoner am restr at yr ysgrifennydd, 86, Rushmore Road, Clapton. CARDIFF FESTIVAL.—Dyma un o uchel wyliau cerddorol ein gwlad ar hyn o bryd, a deallwn fod rhagolygon am wyl lwyddiannus ym mhrif dref y Deheudir yr wythnos hon. Rhoddwn air o'i hanes yn ein nodiadau yr wythnos nesaf.

[No title]