Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

3 erthygl ar y dudalen hon

NODION LLENYDDOL.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

NODION LLENYDDOL. The Nationalist. Cwyna Mr. Robert Roberts, argraffydd The Nationalist, Caerdydd, fod ein hadolygiad ar y misolyn hwnnw yn ein rhifyn am y 7fed -eyfisol yn adlewyrch.11 yn anffafriol arno ef fel argraffydd. Dywedasom fod y rhifyn am Medi sydd newydd ddod i law wedi ei ar- graffa mor wael nes bod bron yn anarllen- adwy." Wrth gwrs gwnaethomeinsylwadau ar y rhifyn oedd ger bron, ond deallwn yn awr mai digwyddiadi oedd i hwnnw fod yn argraffwaith cyffredin. Mae rhifynau ereill a welsom ar ol hyn wedi eu troi allan yn lan a destlus fel arfer, ac mae'n flin genym i'r nodiad beri unrhyw ofid i Mr. Roberts, yr hwn, fel y gwyddis, sy'n troi allan waith rhagorol o'i argraffdy ym Mount Stuart Square, Caerdydd. Ond ys dywedodd un hen gyhoeddwr unwaith "mae colli'n y calla weithiau," felly mae ambell i beiriant -argraffu, boed cystal ag y bo, yn troi'n afler .ar brydiau, ac anhap fa i un o'i gynyrchion ddod i'n llaw y tro hwn. Cymdeithas Lien Cymru. Bydd yn dda gan lengarwyr Cymreig ddeall fod ym mwriad Cymdeithas Lien Cymru ad-argraffu rhai gweithiau tra dydd- orol yn ystod y blynyddoedd nesaf yma. cofas iddi ddwyn allan gyfres tra chymera- dwy o weithiau anghyoeddedig, ac ad-ar- ,graffiadau o ganeuon Cymreig tan olygiaeth Mr. J. H. Davies, M.A., rai blynyddau yn ol, ac yn awr dyg allan gyfres ryddieithol yn «ynnwys pamphledau hanesyddol o gryn bwys i'r efrydydd Cymreig, a gweithiau prinion ereill yn ymwneud a hanes neu .gymeriad y Genedl. Mae chwech o gyfrolau bychain eisoes ar waith, a daw y gyntaf allan yr wythnos nesaf, ond gan nad oes ond 125 o gopiau i gael eu cyhoeddi y maen'n bwysig i'r tanysgrifwyr anfon eu henwau i fewn ar unwaith am y gyfres, pris y cyfrolau fydd ttla 3s. yr un, a gellir eu cael ond gohebu a Mr. John Ballinger, Llyfrgellydd Caerdydd, yr hwn yw ysgrifennydd y gymdeithas. Bedd Owen Myfyr. Ysgrifenna un gohebydd atom i ddyweyd fod beddfaen yr hyglod Owen Myfyr yn myned yn fwy aneglur bob blwyddyn yn mynwent yr hen eglwys yn Upper Thames Street. Gan fod gweddillion y llengarwr -enwog hwn wedi gorwedd yno am yn agos i gan mlynedd, does ryfedd fod y garreg-fedd yn dechreu adfeilio yn enwedig pan ystyriom y difrod mawr wna awyr Llundain ar adeil- adau a chof-feini o bob math. Yr oedd bedd-faen y diweddar lago Trichrug wedi myned bron yn an-narllenadwy, a chostiodd gryn lawer i'r pwyllgor cyn ei hadnewyddu, ac ail dorri'r llythrenau cyn y gellid ei gosod yn amlwg ar fur capel Jewin. Ond, diolch, er y dilei'r y meini hyn, y mae eu coffa yn aros yn ir ac yn beraidd ymysg Cymry'r ddinas trwy bob oes. Celtia." Mae rhifyn Medi o'r cylchgrawn Celtaidd hwn wedi bod ar y bwrdd ers rhai wyth- nosau, ond nid yw'n rhy hen i alw sylw at ei ragoroldeb. Ceir ynddo grynhodeb darllen- adwy am yr Eisteddfod yn Abertawe, ac yn arbennig am ymweliad a gwaith y llwythau Celtaidd yno. Yr wythnos hon, fel yr hys- byswyd, y cynhelid uchel-wyl y cyff Celtaidd yn Edinburgh, a daeth cynrychiolwyr yno o bob gwlad i gadw'r bywyd cenedlaethol yn fyw. Yn y rhifyn hwn o'r Celtia rhoddid yr holl fanylion am y trefniadau, a diau y rhydd adroddiad 11awn yn ei rifyn nesaf, o'r gwaith a wnaethpwyd. Ceir ysgrif ddar- llenadwy ynddo ar "A Strange Land," gan Mr. T. Huws Davies, ac mae'r ysgrifau ereill yn werth eu hastudio gan bawb a garant y main Iwythau hyn. Dafydd ap Gwilym. Mae argraffiad newydd o waith y prif- fardd Cymreig ar droed gan J. Gwenog- fryn Evans, D.Lit., ac yn sicr fe gaiff dderbyniad parod gan y genedl pan ddei o'r wasg. Un o oreugwyr llenyddol y cylch- oedd Cymreig yw Dr. Evans, ac mae ganddo ar hyn o bryd, nifer o weithiau, ac ad- argraffiadau Cymreig yn barod i'r cyhoedd. Yr oil sy'n angenrheidiol yn awr yw ar i'r Cymry gyduno i gynorthwyo Dr. Evans yn ei anturiaethau costfawr, ac yna fe geir ei holl drysorau addewedig cyn bo hir. Mae ganddo wasg arbennig tan ei reolaeth yn Rhydychain, ac ni arbeda na thraul na llafur er sicrhau fod pob llyfr a gyhoeddir ganddo mor berffaith ag sy'n ddichonadwy ei wneud. Tair erthygl arno. Yn un o rifynau diweddaf cylchgrawn Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion ceir ysgrifau dyddorol ar Dafydd ap Gwilym. Ynghyntaf ceir papur dysgedig a beirniadol gan y bardd Machreth" ar weithiau a chyfnod Dafydd. Dyma'r papur a ddarllen- wyd gan y Parch. J. Machreth Rees ger bron aelodau y Gymdeithas, ac mae ol Ilafur ac astudiaeth arno. Cadeirydd y cyfarfod hwnnw oedd Mr. W. Llewelyn Williams, A.S., ac yn dilyn papur Machreth ceir cip- drem ar hanes Dafydd, a sylwadau ar y lie y claddwyd ef, gan Mr. Williams. Pleidia Mr. Williams, fel un o Shirgar, mai yn Nhaly- llychau y claddwyd y prif-fardd, a gesyd nifer o dystiolaethau dros hynny, tra yn addef ar unwaith nad oes yr un o'r tystiol- aethau yn henafol iawn. Yna ceir ysgrif arall gan Mr. J. H. Davies, M.A., yntau yn dadleu yn gryf tros Ystradfflur fel y lie y dodwyd gweddillion Dafydd i hllno. Nid yw'r mater wedi ei benderfynu i fodd- lonrwydd a bydd yn ddyddorol gweled a all Dr. Gwenogfryn Evans roddi ychwaneg o ffeithiau tros y naill ochr neu'r Hall yn y gwaith a fwriada efe gyhoeddi ar y gwr a ganodd mor ddeheuig yng nghyfnod boreu ein llenyddiaeth.

-------------Cleber y Clwb.

[No title]