Symud i'r prif gynnwys
Cuddio Rhestr Erthyglau

5 erthygl ar y dudalen hon

FFARMIO YN AMERICA.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

FFARMIO YN AMERICA. [GAN Miss ELEANOR WILLIAMS, CASTLE ST.] Efallai y bydd rhai o ddarllenwyr y CELT yn teimlo dyddordeb yn hanes amaethyddol America. Mae y modd y trinir y tir yn dra gwahanol yno, i'r hyn ydyw yn y wlad hon. Mae y ddaear tan glo o rew am fisoedd yno, fel nad oes llewyrch bywyd yn un man hynny yw, yn y talaethau Dwyreiniol, felly byr ydyw yr haf, ond mae angerddoldeb y gwres yn gwneud i fyny am hynny. Nid oes yno fawr o wanwyn. Mor fuan ag mae yr eira mawr yn toddi fel ymenyn, a'r rhew yn ymddatod, mae anian yn ymruthro allan deilia y coed ar unwaith, ac mae y tir mor frau fel nad oes fawr o waith troi a thrin arno. Mae bron fel tywod, yn gymaint felly mewn rhai mannau lie y mae y tir yn newydd, fel nad oes eisiau troi, dim ond hau yr ail flwyddyn, a rhedeg rhyw og fras trosto. Yr India corn a'r gwenith ydyw prif gynyrchion y wlad. Lied wael yw y ceirch, yr haidd, a'r rhug ond am yr India corn, os caiff le wrth ei fodd, a'i drin ddwywaith, hynny yw, rhedeg aradr fach ysgafn rhwng y rhesi i ryddhau y pridd, a haul wrth ben. Mewn un wythnos a'r ddeg fe welais y stocks yn tyfu i'r uchder o 12 troedfedd, ac uwch o dan rhai amgylchiadau. Mae pob stock yn dwyn dau neu dri o gobs mawr, cannoedd o ronynau ar bob un. Gwna hwnnw droi yn fwyd i bob creadur. Yn gyntaf daw y sweet corn i'w fwyta, berwir ef fel rhyw vegetable arall. Mae yn ardderchog wedi cael bias ato. Yna y pop corn wedyn: defnyddir hwn yn y modd y gwnawn i gnau "chestnuts," fel y gwelir dynion ar gorneli yr heolydd yn Llundain yn rhostio cnau i blant. Mae pobl America yn gwneud fortiwns mawrion wrth bopio corn a'i werthu i blant. Mae y corn mawr yn pesgi pob creadur mewn byr amser, dim ond ei daflu i'r anifeiliaid ar y cobs, ac wedyn cesglir y cobs i wneud tan. Rhwng y rhesi corn planner y pymkins a'r syras." Tyfa y rhai hyn i'r fath faintioli nes pwyso ddeugian neu hanner cant o bwy- sau troir y rhai hyn yn fwyd dyn ac anifail. Dyna fel mae ffermwyr America yn myned yn gyfoethog am eu bod yn gallu gwneud cymaint o'i tir. Am y gwair, mae hwnnw yn tyfu heb wrtaith na gofal. Pan ddaw yr amser i'w hel mae yr hulogod mor amled ac yw mydylau ar ein meusudd ni, a hwnnw yn sychu yng ngwres yr haul mawr, heb ei droi na'i drin. Gwna y peiriannau bron y cyfan sydd eisiau i'w hel o'r meusydd i ddiddos- rwydd. Mae rhyw aflerwch poenus i'w weled o gylch y tai amaethyddol.. Nid oes ysguboriau o gwbl: dyrnir yr ydau yn ami ar y maes lie y mae yn sypiau, a gadewir y gwellt i bydru. Daw peiriant i bwyso y gwair a'i bresio yn fwndeli o gannoedd o bwysi at fyned i farchnad fawr y byd. Cedwir ychydig i'r anifeiliaid. Nid yw pobl America yn cadw hen wartheg ond yn ffido popeth i fyny, ac i Chicago ag ef i'r lladd-dy mawr. Mae y ffermwyr mwyaf blaenllaw yn cadw yr anifeiliaid i mewn trwy y gauaf, wedi gwneud ffynnon a melin wynt i godi y dwfr, a hwnnw yn rhedeg i'r cafnau o flaen yr anifeiliaid. Gwneir popeth yn beirianol, am nad oes modd cael dynion am unrhyw arian i lafurio ar y tir. Caf ddweyd eto am y rhannau hafaidd o'r wlad lie cynyrchir :ffrwythau.

[No title]

Am Gymry Llundain.

[No title]

SIAREDWCH GYMRAEG.