Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
3 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
3 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
H. W1LLINGS ft Co., RECOGNISED AGENTS & VALUERS TO THE MILKTRADE, 125, FLEET STREET, E.G. TELEPHONE: 150 HOLBORN. DAIRY SHOW NOTICE. We shall be pleased to see, as usual, both old and new Clients at our Office, in the Arcade, near the Upper Street Entrance. BUYERS and SELLERS Please Gall. Indoor Dairies. Camberwell-Trade 215 weekly; same hands 9 years Else City, near-Refreshments, £20 weekly; 4 to 5 barns 4d. 2150 North-Trade 2.8 ta P,20 weekly; same family years 2110 -New Cross-Trade £30 weekly; all cash gloo Market Spot-Trade 915 weekly; neglected first Offer Uorth—Trade £ 28 weekly; price 2135 East-Money making; trade 960 weekly zC250 S.E.-Trade 270 weekly 2350 S.E., near in—Present owner 9 years; 34 barns daily at 4d. on 3 rounds; shop 222 weekly; can save P,400 a year; price £ 875 london Bridge-141 barns daily 4d.; shop £ 12 weekly; one pram round; no debts; rent low genuine; price 2325 Note the following Oity—20 barns 4d.; shop £ 20 pram E575 North— 15 barns 4d.; shop 212; one cart £ 220 Highbury-9 barns 4d.; shop 215; pram 2180 Clapham-101 barns 4d.; shop 27; one pram 2180 S.W.-20 barns 4d.; shop £12; 2 prams; rent low £ 450 'Oxford Street—10 barns 4d.; shop JE8; one pram £15() West Ead-23 barns 4d.; shop 218; 2 prams £700 Peckham-14 barns 4d.; one pram no debts 2320 2 barns 4d.; shop 214; 2 prams photo. e250 Dalston—barns 4d.; cart and pram; genuine 2530 barns 4d.; shop E15, with refreshments 2420 Tulham—6 to 7 barns 4d.; shop 930; one Pram £ 175 W.C-1 7 barns; 9 at 4d.; good shop; pram 916,0 Full Details of H. Willings & Co., as above.
CORONI DYFNALLT YN ABERTAWE.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Bu raid i'r beirdd gael eu hawr lawen yn Edinburgh yng Nghymanfa'r Celtiaid. Dyna fel yr englynodd un i Eifionydd Gwingo'i hun i gynghanedd-ry fwyniant I'r Eifionydd rhyfedd; Dyn y wine, a'i deneu wedd-digon main I gysgu'n ngwain cledd yr Orsedd. MAE Llyfrfa yr Anibynwyr Cymreig i gael ei hagor yn Abertawe yr wythnos hon. Cyfeiriad y lie newydd yw-" The Arcade, High Street, Swansea," a'r Parch. D. Morgan Davies yw'r llywydd. ERAI un o bregethwyr mawr yr Anibyn- wyr, gyda hwyl, yn ddiweddar, Y mae'r byd ysbrydol, gyfeillion, yn reality, 11 id chaos yw, ond cosmos, ac mae eisieu i ni realizo hynny." A'r syndod yw, na thorrodd y dorf allan i orfoleddu CORONI DYFNALLT YN ABERTAWE. Ym myd awen ymdywallt—wna'r genedl Ar ogoniant Dyfnallt Y goron wisga'i eurwallt A doniau aur dan ei wallt. CEITHO. Er fod coleg diwinyddol y Methodistiaid yn Aberystwyth yn fawr ei fri mae Athrofi Trefecca yn dal yn dra phoblogaidd gan efrydwyr ieuainc. Mae 40 o efrydwyr newydd yno y tymor presennol, a rhagolygon. y deil i fod yn dra defnyddiol i'r gwahanol golegau diwinyddol yng Nghymru, ac yn Lloegr fel Ile, addas i baratoi'r myfyrwyr.
NODION LLENYDDOL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
NODION LLENYDDOL. Un o'r llyfrau diweddaraf i law yw ail gyfrol o Farddoniaeth Dyfed. Deallwn iddi ddod o'r wasg ar adeg cynnal yr Eisteddfod yn Abertawe, ac roedd yn adeg briodol iawn i ddwyn barddoniaeth yr Archdderwydd i sylw'r cyhoedd. Ond rywsut neu gilydd, er i mi fod yn bresennol, yn yr oil o'r cyfar- fodydd cyhoeddus a gaed ynglyn a'r wyl honno ni chlywais na siw na miw am dani. Beth oedd yn cyfrif am y distawrwydd hwn nis gwn, os nad y swildod greddfol sy'n perthyn i Dyfed, ac iddo ofyn i'r frawdol- iaeth am beidio adverteisio dim ynglyn ag ef ar achlusur mor genedlaethol a hon. Pe buasai'r cynulliad yn rhyw fath o gwrdd chwarter neu gwrdd misol yr enwad, gwn y buasai awr arbennig yn caei ei neill- tuo i alw sylw at y gwaith. Gallaf ddych- mygu gweled un brawd parchus yn codi yn ddefosiynol, ac ar ol pesychu ddwywaith, yn galw sylw ei frodyr at gyfrol bwysig oedd newydd ddod o'r wasg, sef cynyrchion awenyddol ein hanwyl frawd Evan Rees," ac yna ceid traethiad mawreddog ar yr awen ac ar ysbrydolrwydd rhai o'r darnau, a gof- ynid am fendith y Nef ar y gwaith ac ar ei ledaeniad ynghyd ag anogaeth daer am i'r gyfrol gael derbyniad cynnes gan bob un, a'i dwyn i sylw ereill er mwyn anrhydedd ein henwad a lies i eneidiau." Ond ni chaed dim o hyn ynglyn ag Eisteddfod Abertawe Rhyw ddigwyddiad oedd i'r gyfrol hon ddod i'm llaw. Yr oeddwn yn disgwyl am dani, mae'n wir, oherwydd yr oedd Dyfed wedi addaw ers tair blynedd yn ol y deuai a chyfrol arall allan pan gawsai hamdden, a chan mai bywyd hamddenol yw bywyd yr Archdderwydd gwyddwn na fyddai yn hir hir cyn cyflawni ei addewid. A dyma hi o'r diwedd ond paham y distawrwydd ynglyn a hi ? Ar ol i mi agor y gyfrol gwelais ar y wyneb-ddalen yr hen arwyddair IW CHAEL GAN YR AWDWR," ac roedd hyn yn esponiad ar y cyfan ar un- waith. Mae hon yn un o reolau mawr awdwyr Cymreig Iw gael gan yr awdwr," fel pe bae'r byd i gyd yn gwybod am y gwr a'i fwriad i gyhoeddi Ilyfr ar ryw bwnc neilltuol. Y canlyniad yw nad oes ond cylch bychan iawn yn dod o hyd i'r gwaith, a bydd yr awdwr am y gweddill o'i oes, fel rheol, yn bla i'w gyfeillion, ac yn ceisio gwthio y gyfrol arnynt pa un a fyddant yn gwerth- fawrogi y gwaith ai peidio. I bregethwr teithiol a dosbarth o gler- feirdd lleol, diau fod llawer i'w ddyweyd dros y syniad "Iw gael gan yr awdwr." Mae'r pregethwr yn llwyddo i gael testyn rhagorol -iddo ef—i ddirwyn ei bregeth i ben yn gynnar, a chael gair mewn seiat wledig ar y gwaith anfarwol y mae newydd ddwyn allan, "gwaith ag sydd wedi costio iddo flynyddoedd o lafur a llawer iawn o gost, a'r oil er budd y genedl a'i llenyddiaeth." Fel rheol llwydda i werthu llawer o'r gwaith, ac yn wir dyna fel bu raid i'n tadau wneud a llawer iawn o'n cyfrolau goreu. Yn yr eithafion arall, dacw'r cler feirdd sydd yn myned ar hyd a lied y wlad—y cynyrchwyr chwe-chein- iogol yna sy'n dod allan a'u cyfrolau lleol ar wahanol bynciau a chaneuon moesol a digrifol bob yn ail. Maent hwythau hefyd yn arfer y dull yma o gyhoeddi, a gwelir hwy ar ben ffeiriau yng Nghymru neu ar lan y mor yn ystod misoedd yr haf yn gwerthu eu cynyrchion ac yn barddoni a meddwi bob yn ail. Hapus dyrfa! Mae'r un hen arfer hefyd yn ffynnu ymhlith ein cerddorion. 'Dyw y rhain byth yn ym- ddiried eu caneuon i gyhoeddwyr adna- byddus. Gwell ganddyut ddwyn eu can allan a gwerthu ychydig gopiau o honi mewn deng mlynedd na rhoddi'r gwaith i ofal pobl o fusnes, a gwneud yr oil ar linellau masnachol a theg. Y canlyniad yw fod yn amhosibl i'n cantorion ddod o hyd i'r caneuon poblogaidd hyn, gan nad yw'r awdwyr yn wybyddus i neb o'r tuallan i'w cylch bach cyfyng hwy eu hunain. Ac mae cyfansoddiadau Cymreig ar eu colled oher- wydd yr hen arferiad afler a hunanol hwn. Gallem feddwl fod enw Dyfed yn ddigon adnabyddus, fel nad oes angen am iddo droi'n gyhoeddwr neu'n llyfrwerthwr ei hun er mwyn ennill ei damaid, neu ddwyn ei gyfrol i sylw. Mae'r gyfrol hon sydd ger ein bron yn werth hanner coron, a rhydd elw rhagorol i'r awdwr, os yw wedi argraffu dwy fil o gopiau-fel y dylasai wneud. Pe rhoddwyd y gwaith i ofal un o'n cyhoedd- wyr goreu, gallai eu gwerthu yn llawer hawddach na'r awdwr ei hun, ac ar wahan i'r llafur ynglyn a'r dosbarthiad, gallem gasglu y byddai Dyfed yn fwy ar ei ennill, yn yr ystyr arianol, ar derfyn y gwaith, nag a fydd yn awr pan yn troi'n gyhoeddwr ei hunan. Clywais un hen awdwr yn dyweyd un- waith nad oedd un cyhoeddwr gonest i'w gael yng Nghymru yn ei ddyddiau ef ac mai dyna y rheswm nad oedd yn gosod y gwaith i ofal ereill i'w ledaenu ar draws Cymru. Prin yr oedd yr hen frawd yn gywir. Yn wir, credaf fod y cyhoeddwyr Oymreig erioed wedi bod yn llawn mor onest a'r cyhoeddwyr Seisnig, ac mai yn y gwaith a gyhoeddir mae'r diffyg. Pan fo llyfr, fel gwaith Dyfed, er engraifft, yn cael ei ddwyn o'r Wasg, dylai gael ei ledaenu i bob cwr o'r byd Oymreig. Mae o safon arbennig yn ein llenyddiaeth, ac mae'r awdwr o fri cenedlaethol, ao eto, cyn gall y werin ddod o hyd i'w ddysg a'i genadwri rhaid iddynt gofio y frawddeg honno pan yn ymholi am y gyfrol, "I'w chael gan yr awdwr."