Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
5 erthygl ar y dudalen hon
Cuddio Rhestr Erthyglau
5 erthygl ar y dudalen hon
Advertising
Hysbysebu
Dyfynnu
Rhannu
ST. PADARN WELSH CHURCH, HORNSEY ROAD, N. THE Harvest Festival _T-T WILL BE HELD ON SUNDAY & MONDAY, OCTOBER 6 & 7, 1907. Special Preacher- REV. CANON DAVIES, B.A. (DYFRIG), Late Vicar of Pwllheli, Rector of Gaerwen, Anglesey Services as follows:- Sunday 11 a.m., Holy Communion and Sermon. 3.30 p.m., Litany and Sermon. 6.30 p.m., Evening Prayer and Sermon. Monday 8 p.m., Evening Prayer and Sermon. The Rev. CANON DAVIES, B.A., will preach at each Service. BATTERSEA RISE GRMflD EISTEDDFOD AT BATTERSEA TOWM HALL, JANUARY 23, 1908. CHIEF CHORAL COMPETITIONS- MXXSD CHOIR, not under 50, and not over 80, in number. EIN HIOR BEN-LLY- WYDD DAE'R A NEN." (Emlyn Evans). Prize -P20. Publisher, D. Jenkins, Aberystwyth. COR PLANT, 8 mewn oed i gynorthwyo- (a) "HYFRYD GANAAN" (D. Evans. Drwy ganiatad). (II) "MORIO'R YDYM" (J. Jones, Telyn y Llan). Prize zC5, Publisher, Tom Roberts, Cardiff. Special Terms for books for Conductors. CYMDEITHAS DDIWYLLIADOL BEAUCHAMP ROAD, CLAPHA^C JUUCTIOIT. CYNHELIE Cyfarfod Agoriadol Y GYMDEITHAS UCHOD NOS FERCHER, HVDREF 9fed, PRYD Y TRADDODIR ANEECHIAD CAN LLEWELYN WILLIAMS, Ysw, A.S. HEFYD flOS WENER, fiYDEF 18fed, TRADDODIR ANEECHIAD CAN IOLO CAERNARFON. Testyn "Rhai Eisfeddfodau." Y Cyfarfodydd i ddechreu yn brydlon am 8. EGLWYS BATTERSEA RISE, LLUNDAIN. CYNHBLIK Owyl Bregethu Blynyddol Ar y 12, 13, a'r 14 0 IIYDREF, 1907. PREGETHWYR- Parch. W. BOWEN, Penygroes. Parch. B. ARBERTH EVANS, Battersea.
CICAION ARALL.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
CICAION ARALL. Wedi deall fod y mudiad gwleidyddol Llundeinig, a adnabyddid ar un adeg fel League John Hugh," wedi marw yn ei fabandod, y mae rbyw Wyddel o fargyfreith- iwr yn Lerpwl wedi cyboeddi ei fod am gychwyn plaid genedlaetbol" arall i Gymru. Aeth y newydd fel taranfollt drwy y wasg ddiwedd yr wythnos ddiweddaf, ac mae rhai pobl yn parhau i siarad am y peth ar ddiwedd yr wythnos bon. Pwy ydyw'r bargyfreithiwr Gwyddelig, nis gwyddom, na pha beth y mae wedi wneud ar ran Cymru, er y dywed rhai o'i gyfeillion-fel math o amddiffyniad i'w sobrwydd gwleidyddol— ei fod yn cymeryd llawer o ddyddordeb mewn materion Cymreig. Hwyrach fod hynny yn wir, befyd, ond y mae'n syndod na buasai rhywrai o arweinwyr cenedlaethol ein gwlad yn gwybod rhywbeth am ei aberth tros y genedl yn y gorffenol! I ni mae'r cyfan yn edrych yn fath o ddigrifwch Gwyddelig, a'r syndod yw fod y wasg yng Nghymru wedi rhoddi'r fath gyhoeddus- rwydd i syniad mor chwerthinllyd. Ar yr un pryd rhaid addef fod yna lawer o anfoddlonrwydd yng nghylchoedd gwleid- yddol Cymru heddyw. Dyna, yn ddiau, sy'n cyfrif fod y fath gicaion a hwn wedi cael cymaint o sylw, a dyna, yn ddiau, oedd yr achos i'r mudiad hwnnw a grewyd gan y Parch. John Hugh Edwards, ac a fendith- iwyd gan Mr. Ellis J. Griffith, A.S., beri cymaint o siarad ac ysgrifennu. Yr oedd Cymru wedi meddwl y buasai ei holl gwynion wedi eu symud erbyn hyn. Cym- aint oedd ei ffydd mewn rhyddfrydiaeth, ac mor lleied oedd ei gwybodaeth am waith a galwadati Seneddol, nes y tybiai nad oedd dim i'w wneud ar ol agor y Senedd ond ymdrin a materion Cymreig yn unig. Erbyn hyn y mae wedi dechreu sylweddoli yr an- hawsterau, ac yn decbreu blino aros am ei thro, a thrwy hynny yn myned yn anfoddog a sur. Ac yn yr ysbryd yna y mae yn barod i redeg ar ol unrhyw ddrychiolaeth a ym- ddengys ar ei Ilwybr eenedlaethol. Mae perygl i'r anfoddlonrwydd yma droi'n niweidiol iddi yn y man. Gwelir fod cad- gyrchoedd gwrth-Gymreig a gwrth-genedl- aethol yn codi ym mhob Sir drwy Gymrn. Hawdd y gall yr aelodau presennol roddi pob gwrthwynebiad i lawr pe'r ymddygent fel carwyr eu cenedl; ond ni fynant wneud hynny. Estroniaid i Gymru a Chymreig- iaeth yw mwyafrif ein haelodau heddyw, a dyna'r lie mae'r diffyg pennaf. Ac estron- iaid, o ran hynny, fyddai yr haid o wyr anibynol a geisia y bargyfreithiwr o Lerpwl i wthio ar ein cenedl, a gwaeth na estron- iaid—bargyfreithwyr Os yw Cymru am newid ei chynrychiolwyr boed iddi ddewis o blith ei phobl gartref, ac nid gosod ei hun yn chwareufwrdd i ymyrwyr gwleidyddol a chyfreithwyr swydd-geisiol, boent Wydd- elod direidus neu Saeson hunanol, neu Gymry uchelgeisiol.
MWY 0 BRES NA SYNWYR.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
MWY 0 BRES NA SYNWYR. Tra'n byw mewn afiach awyr 0 fewn y Ddinas brysur, Hawdd canfod Ilawer dyn di-les Fedd fwy o bres na synwyr. Bodoli wna ei gysur Drwy fyw o hyd yn segur, Y gwirod poeth a chwydda'i wres Medd fwy o bres na synwyr. Mae'n hoffi bod yn ddifyr A'i drwyn yn llawn o flagur, Mi nesaf ato eto'n nes- Medd fwy o bres na synwyr. Ni fu erioed yn bybyr A dim o hyd ei lafur, Ond begia'r plant o'i ol yn rhes, Medd fwy o bres na synwyr. Pan fydd yn darllen papur A'i 'spectol yn aneglur, Delwedda'r baedd yn bwyta mes- Medd fwy o bres na synwyr. Mae 'i ben fel Gwyddionadur Gynwysir mewn gwniadur, Yr unig drysor ynddo ge's Oedd mwy o bres na synwyr. Ni fedd ar ysbryd antur Na Ilygad i wel'd natur, Diflana'i glod, a'i unig les Yw mwy o bres na synwyr. Pob blodyn tlws a egyr Dan wenau haul yn drylwyr, Ni hidia ffwl am wlaw na gwres, Medd fwy o bres na synwyr. 'Rol claddu'r gwron segur Dan gwrlid gwyrdd ac awyr, Ni thry ei gofoeth iddo'n lies Bydd inyn'd ar bres disynwyr. Harrow. LLINOS WYRE.
Cwymp Cantores.
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
Cwymp Cantores. Aeth rhai o bapurau'r ddinas i gryn drafferth y dydd o'r blaen i gyhoeddi yr hanes anffodus am briod y diweddar William Davies, y tenorydd o St. Paul. 0 dan y penawd, "A Welsh singer in disgrace," adroddwyd am dani yn lladratta bag o un o'n gorsafoedd, ond rhyddhawyd hi ar yr amod ei bod yn myned i gartref y meddwon. Er mai Cymro oedd Mr. Davies, Saesnes oedd Miss Clara Leighton cyn iddo ei chymeryd yn wraig. Bywyd hynod draff- erthus gafodd y ddau, ac eto, er mor an- hawdd ei esponio, eu hoff gan oedd 0 na byddai'n haf o hyd."
[No title]
Newyddion
Dyfynnu
Rhannu
YN ol y cyfrifiad a wnaed yr wythncs ddiweddaf 'roedd 348 o efrydwyr yn dysgu Cymraeg yn yr Ysgolion nos a agorwyd yn ddiweddar ynglyn a chapelau Cymreig Caerdydd.