Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

- A BYD Y GAN.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

A BYD Y GAN. GAN PEDR ALAW, Mus.Bac. H. W. OWENS, Mus. BAC.—Y mae gennyf yr hyfrydwch yr wythnos hon o gyflwyno darlun, ac ychydig o hanes y cerddor hwn i'm darllenwyr. Cymro glan gloew ydyw- wrth yr hyn y golygir ei fod yn gallu siarad Cymraeg cystal a'r Saesnaeg, a'i fod yn ei lioffi yn fwy na'r olaf. Yn wahanol i Broffeswyr Cerddorol ereill, y mae Mr. Owens yn parhau i efrydu, canys er ei fod yn Arolygydd y Gerddoriaeth yn y Winona Conservatory of Music, y mae yn manteisio ar y seibiant presennol yn y wlad hon drwy gymeryd cwrs o wersi mewn lleisiadaeth o dan William Shakespeare, ac hefyd wersi gan ei hen athraw-yr enwog Dr. Karn. Y mae ei blant gydag ef, sef Haydn a Margaret, ac y maent hwythau yn astudio celfyddyd y Gan yn ystod eu ar- hosiad yma. Doeth iawn yn wir. Yn ystod ei yrfa gerddorol y mae Mr. Owens wedi astudio gyda'r peisonau can- lynol:—D. Jenkins, Aberystwyth; Dr. Oakey, Dr. McNaught, Dr. Karn, E. Behnke, Mrs. Watts Hughes, A. F. Rook, a W. Shakespeare. Acer (fel y cyfeiriwyd eisoes) ei lod yn awr yn astudio lleisiadaeth, y mae eisoes wedi troi allan rai o leis- wyr mwyaf addawol yr U.fe. megys Anna Bussert, Bessie Tudor, Edna Burton, Edna Roebuck, Lea Arthur, Margaret Jones, Lawrence Cover, Frank Cochran, Jennie Runser, Thomas Peate, a nifer fawr ereill. Y mae ei alwedigaeth yn dod a chryn elw iddo-fel ag i Gymry ereill yn y Wlad newydd-ond y mae yn gweithio yn bur galed, fel y gwelir oddiwrth a ganlyn :— Nos Lun, Arwain Cymdeithas Gorawl Winona a Warsaw. Nos Fawrth, arwain Cymdeithas Gor- awl Lima (can' milldir o Winona). Nos Fercher, arwain Cymdeithas Gor- awl Plymouth. Nos Iau, arolygu recitals yn y Winona Conservatory. Nos Wener, arwain Cymdeithas Gorawl yn Chicago. Nos Sadwrn, Cor yr Eglwys, sef dar- par gogyfer a'r Sabbath. Rhydd oddeutu 110 o wersi mewn wythnos o ainser Yn y Conservatory a enwyd rhydd ddwywaith yr wythnos y gwersi can- lynol 1 hyd 1.30 yn y prydnawn, Llfenau Cerddoriaeth. 1.30 hyd 2 yn y prydnawn, Hanesiaeth. 2 hyd 2.30 yn y prydnawn, Cynghanedd. 2 20 hyd 3 Gwrthbwynt, Fugue, &c. J Y mae ei gor yn Eglwys y Park Avenue, Chicago, yn rhifo 65 i 75, a chlywais fod y canu yn rhagorol, fel y disgwylid iddo fod gyda chynorthwy y fath gor. Y mae hefyd Gymdeithas Gorawl perthynol i'r Eglwys hon, sef yr "Haydn Choral Society," Mr. Owens yn Arweinydd. Dyma ddywed y Musical Leader, Chicago, am y cor, ynglyn a pherfformiad Gwener y Groglith diweddaf, o'r Messiah" H. W. Owen has evolved a splendid choir in this Church after everyone else has failed to find even the nucleus of one. The one hundred or more practised voices respond to his baton as by one impulse, &c. Yn y Times-Democrat, Lima, darllenais hanes y May Festival," a ddygwyd i der- fyn gyda datganiad o'r Creation (Haydn). Dyma ddywedir am waith ein gwrthddrych The Chorus was well nigh perfect, and for this W. H. Owens is, to a great extent, to be credited. To train, so as to bring under good control, over 100 voices, no matter how near perfect individually, is a task none but an exceptional man can perform." Fod hon yn Wyl uwchraddol a ddeallir pan y cry- bwyllir fod yr unawdwyr canlynol yn cym- eryd rhan ynddi:—Miss Agnes Petring, New York, soprano; Mr. Frank Ormsby, New York, tenor Mr. Watkin Mills, Llun- dain, bass. Cymerai ormod o'n gofod i enwi yr am- rywiol wobrwyon y mae efrydwyr y cyfaill hwn wedi eu hennill yn y gwahanol Eistedd- fodau, &c., yn yr America ac y mae rhestr lied hir o fuddugoliaethau gyferbyn a'r gwahanol gorau y mae wedi eu harwain. Y fuddugoliaeth ddiweddaf (fel y gwelais yn Y Drych am Awst y 15fed, 1907), ydoedd yn Eisteddfod Winona Park, pryd yr enillodd ei gorau ef tua phymtheg cant o ddoleri mewn gwobrwyon! Tybiaf nad yw Mr. Owens eto wedi gweled deugain mlwydd ac y mae yn edrych mor gryf ac iach, ac mor llawn o yni a zel dros Gerddoriaeth, fel y gall ein cenedl ymfalchio ynddo a disgwyL llawer iawn oddiwrtho yn y dyfodol. Os yw y Nefoedd yn helpu y rhai ydynt "yn helpu eu hunain," y mae y cyfaill hwn yn gweithio ar y llinellau iawn, ac y mae ei lwyddiant pellach yn sicr. DR. JOSEPH PARRY.—Mewn rhifyn diweddar o'r Drych, gwelais yr englyn canlynol o waith Asaph Glyn Ebbw, i'n cerddor ymadawedig A peer in Music was Parry-a Kelt In culture and study In motives he was mighty, In art a Mozart was he. Da iawn, onide-oddigerth y drydedd linell. Y mae y gwr eto heb ei eni, gyda'r cyfryw motives." Ond rhaid i Fardd wrth drwydded! GWYL CAERDYDD.—Y mae hon bellach drosodd. Bu yn llwyddiant mawr mewn ystyr Gerddorol, a chofir hi yn hir, pe ond am y rheswm iddi ddwyn i sylw gyntaf y gwaith, A Vision of Life," gan Hubert Parry hefyd waith newydd y Cymro-Mr. David Evans, Caerdydd-am yr hwn y caf gyfle pellach i ddweyd gair. Yng ngwaith Parry y testyn ydyw y Breuddwydiwr yn cael golwg ar wahanol agweddau bywyd, o'r cyfnodau pell pan yr oedd y ddynoliaeth yn ei babandod megys. Diwedda gyda theyrn- ged i "gariad," yr hwn sydd yn natur pethau i eistedd ar orseddau y bydoedd. Ni bydd breuddwydio yr adeg honno Yn y gwaith hwn y mae Hubert Parry wedi cadarnhau (os oedd hynny yn angen- rheidiol) nad yw yn ail i neb fel cynyrch- ydd cerddoriaeth ddefosiynol, fawreddog, addas i'r testyn. Rhagorol, hefyd, ydoedd gwaith newydd Hamilton Hartz, sef y Gantawd Ode to a Nightingale," y geiriau gan Keates. Ni raid ond mynychu y cyngherddau yn y Queen's Hall er gweled fod y cyfansoddwyr ieuainc diweddar yn rhedeg, mwy neu lai, ar ol Richard Strauss. Defnyddir yr offerynau i chwareu y prancs rhyfeddaf yn y byd, a chynyrchir y fath gymysgedd o effeithiau a barai i Beethoven dynnu ymaith ei wallt! Ond gwaith y gellir ei ddilyn gyda dydd- ordeb drwyddo ydyw yr eiddo Mr. Hartz, a chafodd dderbyniad cynnes. Rhannol ydyw y farn am yr ail ran o Omar Khayyam," gwaith cerddorol Gran- ville Bantock, ond rhaid wrth gawr o gerddor i egluro ar gan holl gynnwys yr Awdl Bersiaidd fyd-enwog. Gwnaeth Bantock ei oreu, a golyga hynny gryn lawer Y gweithiau a'r darnau ereill a gan- wyd yn yr Wyl oeddynt :— Summer," darn offerynol, gan Arthur Harvey. Cawn fod hwn yn gyfansoddiad priodol iawn drwyddo draw, yr hyn a brawf nad yw Mr. Harvey wedi myned allan o'i ffordd am effeithiau. Diau y ceir eyfle i glywed y gerddoriaeth yn y ddinas hon cyn hir. Cydgan, "Hail, bright Cecilia" (Purcell); "Golden Legend" (Sulli- van); "Emperor" Concerto a'r "Leo- nora Overture (Beethoven); The Kingdom" (Elgar); Symphony E minor (Tschaikowsky) cantata, "Phoe- bus and Pan" (Bach); Psalm CL (Franck) Mass E flat (Schubert); "He giveth His beloved sleep" (Cowen) Golygfa y Grail," allan o Parsifal" (Wagner). 'z? w Yn ei sylwadau ar yr Wyl uchod, rhydd Joseph Bennett ergyd i gantor- ion Cymru sydd yn ddigon i wneud i'r gwaed brwd Celtaidd ferwi! Dyma ddywed:- The nationality of the singers, I am told, is much more English than Welsh, and it is doubtful whether a purely Welsh festival could be run in any part of the Principality with reasonable hope of artistic success. Our Celtic friends love to sing, but do not learn to read music. This being the case, it follows that a complete Festival programme would in their hands be impossible within the time usually allowed for preparation." Bu Mr. Bennett yn beirniadu yn Eistedd- fod Dolgellau am flynyddau yn olynol. Ai yno y dysgodd ef am anallu y Cymry i ddarllen? Craffer ar y gair "artistic" uchod. Dyma'r insult fwyaf ini, fel cenedl gerddorol, a gafwyd erioed, mi gredaf Rhyw scramblers ydym ar y goreu, yn ol y gwr hwn » Miss TEIFY DAVIEs.-Mae'r gantores bob- logaidd hon ar hyn o bryd yn rhoddi cyng- herddau arbennig yn Berlin, ac yn un o'r gyfres yn ystod yr wythnos nesaf cenir glee o waith ei phriod, yr hon oedd yn fuddugol yn Eisteddfod Abertawe yn Awst diweddaf. Bydd Miss Davies yn ol yn Llundain erbyn diwedd y mis hwn, a chymer ran yng nghyngerdd Queen's Hall ar y 30ain. Ei chyfeiriad presennol pan yn y ddinas yw 10, Willow Road, Hampstead.