Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

4 erthygl ar y dudalen hon

Bwrdd y Go" le

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Bwrdd y Go" le Hawdd oedd gweled oddiwrth y cynulliad mawr ddaeth ynghyd yr wythnos hon fod y gwyliau wedi gorphen. Daeth y beirdd a'u cynyrchion a'r Ilen- orion a'u hymffiamychiàdau, a'r ysgrifenwyr Eistedd- fodol a'u cyhoeddiadau, ac wrth gwrs cawsant oil y croeso cynesaf, yn enwedig gwyr yr hysbysiadau. Mae rhywbeth o werth sylweddol yng nghynyrchion y boys hynny bob amser. Mae tine y pres yn swn swynol iawn i'r Gol. ar bob adeg, ac wrth weled ei wen foddhaus ar derfyn y "cwrdd busnes" o'r eisteddiad, wele Llinos Wyre yn codi ar ei draed ol ac yn canu ei folawd fod mwy o bres na synwyr" ym mhen y Gol. druan. Wedi i'r Llinos daro'r top notes ar y diwedd dacw Pedr Alaw yn gwenu yn edmygol arno ac yn gofyn am ei gyfeiriad cyfrinachol. Ond ni wyddai Bardd yr Offis mo hono, gan nad oedd wedi gyrru cheque iddo ers talm. Felly boed i'r Llinos yrru gair at Pedr Alaw, neu anfon ei gyfeiriad i'r swyddfa ar fyrder. Norick~.—Bu raid talfyru areitheg ddoniol y brawd hwn yr wythnos hon rhag ofn i'r Morning Ltader eto golli ei amynedd. E'ttlod.-Nid cwestiwn i'r cyhoedd yw yr hyn a gwynwch o'i blegyd. Gwaith i'r eglwys yn unig yw, ac os yw yr aelodau yn foddlawn, yna nid oes lie gan neb i achwyn. Mae amryw lythyrau wedi eu gadael drosodd hyd yr wythnos nesaf, a rhai hysbysiadau.

Gohebiaethau.

Advertising

Am Gymry Llundain.