Papurau Newydd Cymru

Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru

Cuddio Rhestr Erthyglau

1 erthygl ar y dudalen hon

Am Gymry Llundain.

Newyddion
Dyfynnu
Rhannu

Am Gymry Llundain. NADOLIG LLAWEN i'n darllenwyr oil, ac i ohebwyr ffyddlon y golofn hon. Y GWYLIAU.—Daw y rhifyn nesaf allan yn gynnar foreu Mawrth, oherwydd cauir y swyddfa o nos Fawrth hyd y Llun canlynol. Am hynny boed i'n gohebwyr fod yn brydlon yr wythnos hon. TREFNIADAU'R WYL. Mae rhagolygon disglair am Eisteddfod lewyrchus yn Shore- ditch Town Hall y noson ar ol y Nadolig. Hon fydd uchel wyl yr wythnos yn Llundain yn sicr, a haedda gefnogaeth am y gwaith da a wna o flwyddyn i flwyddyn. CYFARFODYDD LLEOL. Ar nos Nadolig cynhelir llu o gyfarfodydd yn y cylchoedd Cymreig. Mae trefniadau helaeth gogyfer a'r Cartref oddicartref," yn Charing Cross, a diau yr el llawer yno i dreulio awr ddifyr. ANNE GRIFFITH.—Un o ddarlithwyr goreu Cymru yw Llifon, a nos Ian diweddaf tradd- ododd, yn Castle Street, ei ddarlith enwog ar "Ann Griffiths," yr emynyddes. Er budd capel Little Alie Street y rhoddid yr elw, a thrueni fod y noson mor anaddas i dori liosog. Gan fod gwledd fawr y Cymmro- dorion yr un noson, nis gallai llawer o gyf- eillion yr achos fod yno i wrando yr areitheg felus. Yn ystod y noson caed detholiadau gan y cor o rai o hoff emynau y ber-emyn- yddes yn ogystal a'r anthem Bydd melus cofio y cyfammod." CYFARFOD MISOL.—Caed cyfarfyddiad ar- bennig o'r C.M. dydd Mercher yr wythnos ddiweddaf i ymdrin a helynt personol oedd wedi codi cydrhwng dau neu dri o'r brodyr. Yr oedd y cyfan mor ddibwys, os nad chwerthinllyd, fel mae'n syndod fod amser y brodyr wedi ei hawlio i wrando'r fath achos. Da gennym ddeall fod yr helynt wedi ter- fynu yn foddhaol bellach. A'l DISGYBL MORLEY? Gwelsom lythyr ynglyn a'r Owrdd Misol yn ddiweddar, yn yr hwn y rhoddid d fechan ar ddechreu'r gair Duw. Gwyddem fod John Morley bob amser yn defnyddio "g pan yn ysgrifennu yr enw dwyfol, ond nid oeddem yn meddwl fod rhai o'i ddisgyblion ar bwyllgor C.M. Llundain. COFIO'R TYLAWD.—Dyma'r adeg i gono am y tylawd a'r anghenus yn ein plith, ac mae'r nifer yn llawer iawn. Gwir fod ein cen- hadon yn gweithio yn galed er lleddfu llawer i achos teilwng, ond y mae ereill yn dioddef yn ddistaw. Hwyrach fod pechod ac esgeulustra wedi achosi llawer o'r caledi, ond ar dymor fel hwn edrycher gyda Ilygad tiriondeb ar y gwendidau, a rhodder help i bob mater teilwng a ddygir i'n sylw. HAWLIAU'R Fi ENYAV.-BU Cymdeithas Wil- ton Square ar ymweliad. a Chymdeithas y Tabernacl nos Sadwrn diweddaf yn dadleu tros hawliau y ferch i gael y bleidlais. Arweinid plaid y merched gan Mr. Wheldon, o Wilton Square, a gwnaeth ef a'i gefnog- wyr waith rhagorol fel dadleuwyr. O'r ochr arall 'roedd yr elfen hen-lancyddol yn King's Cross yn cael eu cynrychioli gan Mri. J. R. Thomas, Watkin Jones, a H. P. Roberts, a llwyddasant mewn ty llawn o dros gant o aelodau gael mwyafrif o ddau. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. Henry Jones, o Gymdeithas Castle Street. DADL ARALL.—Nos Wener, y 13eg, bu dwy gymdeithas arall, sef Charing Cross a Brunswick, yn cael gornest areithyddpl ar dir y blaenaf ar y pwnc—A ellir dod yn gyfoethog trwy gynlluniau gonest a'i peidio. Yr oedd y ddwyblaid mor bendant dros eu daliadau fel y caed noson hwyliog dros ben, a bu raid wrth gadeirydd cadarn ym mher- son Mr. Watkin Jones, y Tabernacl, i'w cadw mewn trefn. Cynllun rhagorol yw'r dadleuon cymdeithasol yma i arfer dawn yr areithwyr. WALTIAM GREEN.-Nos Fercher, yr lleg cyfisol, yng nghyfarfod ein Cymdeithas Ddiwylliadol, cawsom ddadl fywiog ar des- tyn sydd yn meddu dyddordeb cyffredinol, sef Pa un ai meibion ai merched sydd yn meddu y dylanwad mwyaf er daioni mewn cylchoedd crefyddol a chymdeithasol." Agorwyd y ddadl gyda phapyrau galluog gan Mr. J. T. Davies a Miss Mary Jones, y blaenaf o blaid y meibion a'r olaf dros y merched. Ar ol y papyrau hyn caed syl- wadau pellach gan y Mri. Herbert Thomas, Ben Evans, R. Gomer Jones, a J. T. Evans, ynghyd a'r Misses Kate a Maggie Jones ond diamheu mai yr hyn a enillodd fwyaf o sylw yn ystod y cyfarfod hwn ydoedd hyawdledd areithyddol anarferol Mr. W. J. Llewellyn. Yr ydym yn mawr obeithio y cawn weled Mr. Llewellyn yn ein plith yn ami eto er iddo fod yn dra llawdrwm ar y chwiorydd y tro hwn. Ar ddiwedd yr ymdrafodaeth ymranwyd a chaed fod mwyaf- rif llethol o blaid y merched. Yn absenol- deb y Llywydd, cymerwyd y gadair gan Mr. John Hughes. R. BORO'Nos lau, Rhagfyr 12fed, cyn- haliodd Cymdeithas Lenyddol y lie uchod gyfarfod amrywiaetho1 dan lywyddiaeth fedrus Mr. J. Williams, 114, Jamaica" Road. Cymerwyd rhan yn y gweithrediadau gan y personau canlynol, Mri. W. R. Watkins, David Lewis Jones, Harri Watkins, G. Drake, Sydney Sharwell, E. R. Wood, E. D. Morgan, 0. H. Bowen, W. Jones, a Chor Meibion y Boro'. Nosoa y meibion ydoedd rhoddwyd i bawb ddigonedd o luniaeth danteithiol gyda grawnsypiau, aur-afalau, bananas, &c. Dyddorol ydoedd gweled y meibion yn paratoi a rhannu yr ymborth i'r gynulleidfa mor fedrus a graslawn a phe buasent Idaliaid. Gwelsom wrth y gorchwyl hwn Mri. Campbell-Jones, Arthur Davies, J. Rice Evans, Emrys R. Jenkins, E. T. Hamer, D. J. Lewis, Merfyn John, R. Roberts, Gwilym Jenkins, Henry D. Morgan, Bertie Lewis, Ifor John, Willie Morgan, David Jenkins, E. D. Morgan, Ellis Evans, Charles Davies, Trevor John, H. Watkins, D. C. Davies, ac ereill. Rhoddwyd y wledd oil gan Mr. Williams, y cadeirydd, yr hwn sydd yn un o aelodau parchusaf y Boro'. Brodor o ardal Aberystwyth ydyw efe, ond y mae yn y Boro' ers amryw flynyddoedd, bellach ers cryn amser yn ffyddlon, defnyddiol, a phar- chus iawn. Diolchwyd iddo yn gynnes am ei haelioni tywysogaidd i Gymdeithas Len- yddol yr Eglwys. Hwn oedd un o'r cyfar- fodydd mwyaf Ilwyddianus yn hanes y gymdeithas. HAELIONI.-Bydd cyfeillion lliosog Mrs. Jones, Lawn Villa, yn hoffi clywed ei bod yn para yn dda mewn iechyd, ag ystyried y cystudd trwm a pheryglus yr aeth drwyddo. Cyfranodd, yn ol ei harferiad blynyddol, wledd i blant y Boro', yr hon a fwynhawyd yn lawr ganddynt. Diolchwyd iddi hi a Mr. W. R. Evans, ac ereill, ar ddiwedd y cyfar- fod am eu caredigrwydd i'r eglwys a'r plant yn arbennig. Ceir cyfarfod poblogaidd y Gymdeithas Boxing Day eleni fel arfer. Traddodir darlith am 3 gan y Parch. D. C. Jones ar Wasanaeth y Mynachod i Gymru." Ceir te am bump, a chwrdd amrywiaethol am saith. UNDEB Y GWEINIDOGION.-Cynhali odd yr Undeb uchod ei gyfarfod diweddaf yn Castle Street, dan lywyddiaeth y Parch. W. Rees,. Kensington. Darllenwyd papur galluog ar Berthynas Cristionogaeth ag Iuddewaeth," gan y Parch. John Humphreys, City Road. Cafwyd rhydd-ymddiddan gwerthfawr a brwdanol ar yr hyn dderbyniodd Cristion- ogaeth drwy Iuddewaeth. Cafwyd cyfar- c;1 y fod bendithiol iawn. Diolchwyd yn wresog; i'r Parch. Herbert Morgan, B.A., a Mrs. a Miss Hinds, Blackheath, am eu croesaw haelfrydiga siriol i'r Undeb. Teulucaredig i grefydd a rhinwedd yw teulu Mr. Hinds. CYFARFOD UNDEBOL. Bwriedir cynnafc cyfarfod undebol o'r holl enwadau yn Charing Cross Road, yn gynnar yn lonawry. dan lywyddiaeth y Parch. Peter Hughes Griffiths. Siaredir ar Actau ii. 42, fel hyn— 1. Yr eglwys yn parhau yn nysgeidiaeth yr Apostolion," gan y Parch. H. Elved Lewis,. M.A. 2. Yr Eglwys yn parhau mewn Cymdeithas," gan y Parch. Herbert Morgan, B.A. 3. "Yr Eglwys yn parhau yn torri, 0 bara," gan y Parch. John Humphreys. 4. Yr Eglwys yn parhau mewn gweddiau," gan y Parch. S. E. Prytherch. Hyderir y bydd y cyfarfod hwn yn un lliosog a grymus, gan y bydd yn dilyn yr wythnos- weddio yn yr eglwysi. GWYL DEWI.Gwneir trefniadau i gynnal cyfarfod pregetliu y nos lau olaf yn Chwefror yn y City Temple. Pregethir eleni gan y Parchn. Thomas Charles Williams, M.A., Menai Bridge, a Pedr Hir, Lerpwl. Ar- weinir y canu gan Mr. Tim Evans, Jewin, a'r organydd fydd Mr. David Richards, King's Cross. Y Parch. G. I-I. Havard, M.A., yw yr ysgrifennydd, gyda Mr. Ebenezer Hughes, yn ysgrifennydd arianol. Bydd y rhag- lenau yn y gwahanol eglwysi yn fuan, ac edrychir ym mlaen at gyfarfod cryf a gafael-, gar. Mae ein gwyliau crefyddol yn ein- dychwelyd yn ol i'r ysbrydol oddiwrth fater- olrwydd megis y gwnai'r Iwbili yn IsraeD gynt adfer iawnder yn y wladwriaeth. NEW ZEALAND.Roedd cyfarfod y Gym- deithas Lenyddol yn y Boro' nos lau wyth- nos i'r ddiweddaf yn gwrdd ymadawol y cyfaill, Mr. W. Jones, gynt Newcomen Street,. Boro'. Hwyliodd bore Sadwrn diweddaf yn' yr s s. Corinihic, am Wellington, New Zealand.. Nid yw ystad ei iechyd yn dda ers rhai mis- oedd. Dymunwyd yn dda iddo gan ei gyf- eillion yn y Boro', a chanodd ef The Village Blacksmith" gyda hwyl. Hen Wlad fy Nhadau oedd ei gan olaf y nos hono. Eiddunwn iddo nawdd rhagluniaeth nef. Mae i'w fam a'i theulu barch mawr yn eglwys y Boro' yn gystal a chan ei holl- gydnabod. MOORFIELDS.-Nos Fawrth diweddaf bu Cymdeithas Lenyddol y lie hwn yn cael. gwers arbennig ar sut i godi blodau. Elfed oedd y darlithydd, ac felly nid rhyw draethiad gwyddonol a gaed ar flodeu gwel- edig, eithr y blodeu a wnant i fynu'r cymer- iad dynol. Ar i bob un godi ei flodeu ei, hun oedd y pwnc, a swynol ac addysgiadol' oedd y gwersi a gaed gan y bardd-bregethwr arno. Cadeiriwyd yn ddeheuig gan Mr. Evan Griffiths, Chelsea, a diolchwyd ar derfyn yr araith i'r ddau gan Mri. Owen, D.. Williams, a Miss Eleanor Williams. WOOD GREEN.—Cynhaliodd Eglwys Gym- reig y Methodistiaid Calfinaidd yn Wood Green eu cyngerdd nos lau diweddaf, Rhag- fyr 12fed, yn Assembly Rooms, Wood Green. Er i'r tywydd droi braidd yn anffafriol, etc ymgasglodd Iliaws ynghyd, canys yr oedd yr adeilad bron yn llawn. Bu y cyfeillion yn ffodus i sicrhau gwasanaeth W. Price, Ysw., Shirland Road, fel Llywydd, ac afreidiol ydyw dweyd ddarfod iddo gyflawni yr ym- ddiriedaeth osodwyd arno yn deilwng ohono zn