Papurau Newydd Cymru
Chwiliwch 15 miliwn o erthyglau papurau newydd Cymru
4 erthygl ar y dudalen hon
Am Gymry Llundain.
Am Gymry Llundain. DIWEDD BLWYDDYN.—Dyma'r rlifyn olaf am y flwyddyn hon, ac er cystal y bu i'n darllenwyr, boed i'r newydd fod yn llawer gwell. Dyna'r dymuniad goreu allwn roddi wrth groesi'r trothwy o un flwyddyn i'r llall. Y GWYLIAU.—Yr ydym yn cyhoeddi'r rhifyn hwn cyn y Nadolig, am hynny, rhoddir yr adroddiadau am ein cynulliadau yn ystod yr Wyl hon yn ein rhifyn nesaf. CYFARFODYDD.—Ar yr awr olaf, daw hanes am lu o gynulliadau cartrefol ynglyn a'n capelau yn ystod y Nadolig. 0 dipyn i bei h gwneir yr oil o'r addoldai Cymreig yn fath. o gyrchfanau adloniadol i'n ieuainc di- gartref. Da iawn hyn hefyd. YR IEOHYD.—Sut i ofalu am yr iechyd, dytia oedd pwnc araith a gaed yng Nhapel y Tabernacl nos Iau diweddaf. Egluro dylan- wad niweidiol y diodydd meddwol ar y corff oedd amcan y darlithydd, Mr. F. O. Edwards, F.C.S., a dangosodd hynny drwy nifer o engreifftiau meddygol. Da yw argraffu ar feddwl yr ieuanc mor ddinistriol yw alcohol i'r corff, yn ogystal ag i amhuro'r meddwl. EALING. Cynhaliwyd yr ail gyfarfod adloniadol y tymor hwn, dan nawdd y Gym- deithas Ddiwylliadol yr Eglwys uchod, yn Swift Assembly Rooms, Ealing Green, nos Fercher, yr lleg cyfisol, dan lywyddiaeth T. Jay Evans, Ysw. (Fulham), yr hwn a ddan- gas odd ei haelioni at yr achos mewn gwedd arianol. Yn ystod y cyfarfod, trwy garedig- rvvydd Mr. a Mrs. Clifford Evans (Acton), mwynhawyd gwledd o ddanteithion melus. Ea hymdrech a'u gweithgarwch hwy fu y moddion i wneud y cyfarfod yn llwyddiant yrn mhob ystyr. Sicrhawyd talentau galluog ym myd y canu. Cafwyd caneuon fel y eanlyn Cryd gwag fy mhlentyn yw a Dim ond deilen gan Miss Lizzie Roberts, yn effeithiol iawn, ag ail-ganodd Y Deryn pur mewn llais swynol a phur Gyda'r Wawr" a'r Slave Song gan Miss Gippie Jones; Break, break, break" gan Miss Lily Niblock. Canodd Mr. Cowley Merch y Cadben" a "Bedouin Slave Song," a gorfu iddo ail ganu; ac hefyd, cafwyd can gan Mr. Way. Adroddwyd The Twins gan Master Clifford Evans; Cartref gan Miss Edie Rees "Bob Sawyer's Party a Wolsey's Speech to Cromwell gan Master Gwilym Hughes. Cyfeiliwyd gan Miss F. B. Ooleman (Hanwell). Wedi talu y diolchgarwch arferol i'r Cadeirydd a'r personau a gymerodd ran yn y cyfarfod, terfynwyd trwy ganu "Hen Wlad fy Nhadau." DEWI SANT, PADDINGTON.—Y Gvmdeithas Leiiy(ttlol.-Nos Fawrth, Rhagfyr 17eg, yn Ystafell Eglwysig Dewi Sant, o dan nawdd y Gymdeithas hon, cafwyd dadl hynod ddyddorol ac adeiladol, ar y testyn amserol a phriodol, A ddylai y rheilffyrdd fod yn eiddo y Llywodraeth ? Cymerwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Tom Jenkins, a'r ochr nacaol gan Mr. Dan Jones, ysgrifennydd gweithgar y Gymdeithas. Daeth cynulliad rhagorol ynghyd, a theimlai pawb yn bur awyddus i gael clywed dwy ochr y ddadl. Wedi i'r ddau arwr uchod osod i lawr eu gosodiadau, cymerwyd i fyny y ddadl yn frwdfrydig gan aelodau ereill y Gymdeithas. Ategwyd yr ochr gadarnhaol gan Mr. Griffith James, a chefnogwyd gan Mr. David Evans; a'r ochr nacaol gan Mr. James Williams, yn cael ei gefnogi gan Mr. Edward Owen. Siaradwyd yn alluog gan bob un. Pan roddodd y cadeirydd y bleidlais i'r cyfarfod, cafwyd mwyafrif sylweddol o blaid y nacaol, sef, na ddylai y rheilffyrdd fod yn eiddo y Llywodraeth. Miss DILYS JONES.-Wele gantores arall wedi ymuno mewn priodas, a'r gwr ffodus yw Mr. Arthur Rhys Roberts, y cyfreithiwr adnabyddus. Ym Methesda, Arfon, y cym- erodd y briodas le ddydd Sadwrn diweddaf, a chadd y par ieuanc groesaw cynnes gan lu o gyfeillion ar yr achlysur hapus. Ond er fod Miss Jones wedi newid ei hystad, nid yw yn bwriadu rhoddi heibio ei galwedigaeth fel cantores ac mae i ymddangos yn Covent Garden yn ystod mis Ionawr, ac mewn nifer o'u prif gyngherddau o hyn i'r pasc. CYFARFOD MISOL LLUNDAIN.—Cynhaliwyd y cyfarfod diweddaf o G.M. Llundain am 1907 yn Jewin nos Fercher, Rhagfyr 18, a daeth cynulliad pur dda ynghyd, Mr. Richard Thomas yn y gadair. Dechreuwyd trwy ddarllen a gweddio gan Mr. Morgan Morgans, Falmouth Road. Darllenwyd llythyr oddiwrth deulu y diweddar Mrs. Watts Hughes yn cydnabod gyda diolch- garwch gydymdeimlad y C.M. a hwy yn eu profedigaeth. Coffhawyd yn dyner am y diweddar Barch. William Jones, Ton, Pentre (tad Mrs. Havard, Wilton Square), a phenderfynwyd anfon datganiad o gydym- deimlad y C.M. a'r weddw ac a Mr. a Mrs. Havard. Penderfynwyd hefyd anfon cofion y C.M. at Mr. James Richards, Shirland Road, a'r Parch. T. J. Wheldon, Bangor, yn eu gwaeledd. Galwodd y Parch. J. E. Davies sylw at gyfrol y Parch. J. H. Morris, Liverpool, ar Hanes Cenhad- aeth Dramor y Methodistiaid Calfin- aidd Cymreig," cyhoeddedig gan Lyfr- fa'r Cyfundeb am 3/6, ac apeliai am gylchrediad helaeth i'r llyfr. Baich adrodd- iad Pwyllgor yr Achosion Seisnig ydoedd, nad yw'r cynygiad i sefydlu achosion o'r fath yn amserol, ond gofynwyd i'r Pwyllgor fyned ymhellach i mewn i'r mater a dwyn ffrwyth eu hymchwiliad i'r C.M. Etbolwyd fel y canlyn am 1908 :—Llywyddion, y Parch. R. 0. Williams, Holloway, a Mr. W. W. Griffith, Wilton Square. Cynrychiolwyr i'r Gymanfa Gyffredinol, y Parchn. R. 0. Williams a J. E. Davies, M.A., a'r Mri. Morgan Morgans a John Jenkins, Wilton Square. I Gymdeith- asfa'r Gogledd, y Parch. S. E. Prytherch a Mr. William Jones, Lewisham. Archwilwyr, Mri. A. H. Parry a Humphrey Hughes. Enwyd hefyd yr amrywiol bwyllgorau ar gyfer 1908. Yr oedd y Parch. J. Gerlan Williams, B.Sc., y cenhadwr, yn bresennol, a chroesawyd ef ar ran y C.M. gan y Cadeirydd, ar gais yr hwn y traddododd Mr. Williams anerchiad byr ond pwrpasol, yn rhoddi ychydig o hanes y Genhadaeth, ac yn cyflwyno cofion y Cenhadon a'r Cristionogion brodorol i'r C.M. Amlygwyd llawenydd wrth weled a chlywed Mr. Williams, a phender- fynwyd anfon cofion cynhesaf y frawdoliaeth at y brodyr a'r chwiorydd ym Mryniau Cassia a'r gwastadedd trwy law Mr. Williams. Derbyniwyd adroddiad o Walham Green yn hysbysu fod yr Eglwys yno yn symud i gael bugail, a bod pwyllgor wedi ei ethol at yr amcan. Etholwyd Mr. William Evans, Wilton Square, yn gynrychiolydd ar bwyll- gor Dyledion Capelau," yn ol penderfyniad cymdeithasfa Llandudno. Galwodd Mr. Burrell sylw at dysteb y Parch. Thomas Levi, ac apeliai am gefnogaeth cyffredinol gan fod y gronfa i'w chau ddiwedd y flwyddyn. Terfynwyd trwy weddi gan y Parch. J. Gerlan Williams, B.Sc.
Advertising
MISS MAY JOHN, SOPRANO-First Prize at World's Fair, Chicago, and double Medallist of R.A.M. For Oratorio, Ballad, Miscellaneous Concerts, and Eisteddfodau, apply to 20, MONTGOMERY STREET, B21 ROATH PARK, CARDIFF. LONDON WELSH Rugby Football Club DATE. FIXTURES. GROUND- 1907. Dec. 26 Llanelly Away 11 28 Cardiff Away 1908. Jan. 4 Cheltenham Away ,,11 18 Gloucester. Home ,,25 Northampton Away Feb. 1 Devonport Albion Home 8 Oxford University Away 15 Old Millhillians Home 22 Bedford Away 2G Cambridge University Home 29 Cardiff Home Mar. 7 Rosslyn Park Home 14 Blackheath. Away 21 Leicester Away 28 London Irish Home- Apr. 4 Catford Bridge Away ..]1 17 Gloucester Away IS Newport Away 20 Bristol Away The 1st XV. HOME matches will be played at- Memorial Athletic Grounds, West Ham. Frequent trains from City. Nearest Station: West Ham. Fifteen minutes' run on the District Railway, Fenchurch Street, &c. Ground adjoining Station, Also from St. Pancras, Dalston Junction, &c. Admission, 6d. Covered Grand Stand 6d. extra. LADIES ADMITTED FREE to all parts of the ground. Hon. Sec.-W. H. TRICK, 108, New Oxford Street W.C. Telephone 3853 Gerrard.
Y DYFODOL.
Y DYFODOL. Boed i Ysgrifenyddion y gwahanol Gymdeithasan anfon ar fyrder restr o'u cyfarfodydd arbennig i'w gosodi yr y Golofn hon. Rhag. 25- Walham Green, nos Nadolig, Cartref oddi' cartref. 1908. Ion. 2- Capel Mile End Road. Swper Goffi. Ion. 16- Cyngherdd Blynyddol Jewin Newydd. Ion. 22- Beauchamp Road. Anerchiad gan R. 0 Wynne Roberts, Ysw., Trip round Africa." Ion. 23- Eisteddfod Fawreddog Battersea, yn Batter- sea (Grand) Town Hall. Ion. 26- Romford Road, Stratford. Cyfarfod pre- gethu blynyddol. Ion. 30- Eisteddfod Eglwys Dewi Sant, Queen's Hall. Chwef. 6— Cyngherdd Cor y Tabernacl Cymreig, King's Cross. Chwef. 13- Cwrdd Te a Chyngherdd Blynyddol y Boro' Chwef. 15- Y Tabernacl Cymreig Eisteddfod Flvnyddol. Chwef. 19— Beauchamp Road. Anerchiad gan Ellis Davies, Ysw., A.S., "Cyfreithiau Hywel. Dda." Chwef. 20- Cyfarfod Te a Chyngerdd Blynyddol Barrett's Grove. Mawrth 5— Eisteddfod City Road yn Shoreditch Town Hall.
Advertising
NOTE.—Advertisements must reach the Office by Wednesday morning for insertion in the current week's number. Advertise- ments for insertion in THE LONDON WELSHMAN AND KELT will be trans- lated into Welsh free of charge. At 'Celt" WELSH mo-HINTING office ff-